Cerddorfa Symffoni Prifysgol Caerdydd
Mae gan Gerddorfa Symffoni’r Brifysgol tua 120 o chwaraewyr bob blwyddyn.
Myfyrwyr yr Ysgol Gerdd yn bennaf yw aelodau’r Gerddorfa Symffoni, ond mae nifer sylweddol o fyfyrwyr o Ysgolion eraill yn llwyddiannus yng nghlyweliadau’r Brifysgol bob blwyddyn, gan gynrychioli Peirianneg, Ieithoedd Modern, Meddygaeth, Ffiseg, y Gyfraith, Seicoleg a mwy.
- Wedi gwneud clyweliad: Angen clyweliad
- Arweinydd: Margarita Mikhailova
- Sesiynau ymarfer: Dydd Llun, 18:05-21:00, Neuadd Gyngerdd
Mae'r Gerddorfa Symffoni yn agored i holl fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd a bydd y clyweliadau yn cael eu cynnal bob mis Medi. I gael rhagor o wybodaeth am glyweliadau, ebostiwch Elin Jones jonese159@caerdydd.ac.uk.
Mae'r Gerddorfa yn cyflwyno ystod o berfformiadau cyffrous mewn nifer o leoliadau yn ne Cymru, gan gynnwys Neuadd Dewi Sant a Neuadd Hoddinott y BBC. Mae'r gerddorfa wedi mynd ar daith i Tsieina, Gwlad Belg, yr Almaen a Ffrainc ac yn gobeithio teithio eto yn 2019.
Gwnaethon ni ryddhau ein CD cyntaf yn 2014, gyda gweithiau gan William Mathias a chyn-fyfyrwyr yr Ysgol Gerddoriaeth, Yfat Soul Zisso a Morfydd Owen, yn ogystal â fersiwn 1881 o Totentanz gan Liszt nad yw’n cael ei pherfformio’n aml.
Roedd yr ail CD a ryddhawyd gennym yn cynnwys recordiadau o’r perfformiadau cyntaf yn y byd o ddau waith gan Claude Debussy. Roedd y ddau ddarn - Prélude à l'histoire de Tristan a No-Ja-Li ou Le Palais du Silence - heb eu gorffen pan fu Debussy farw ym 1918. Ers hynny, maen nhw wedi cael eu gorffen a’u trefnu ar gyfer cerddorfa gan Robert Orledge, arbenigwr blaenllaw ar gerddoriaeth o Ffrainc, a chafodd y rhain eu perfformio'n gyhoeddus am y tro cyntaf gan Gerddorfa Symffoni Prifysgol Caerdydd a Mark Eager ym mis Mawrth 2015 yn rhan o wŷlDinas y Goleuni Cerddorfa’r Philharmonia.
Dyma a ddywedodd adolygiad diweddar o'r CD yn The Times: “Y peth newydd a’m gwefreiddiodd go iawn yr wythnos hon oedd trefniant ballet Tsieineaidd Debussy, No-ja-la - darn anorffenedig arall, a oedd i’w pherfformio’n wreiddiol ar y llwyfan yn Llundain ar ffurf rifiw ym 1914, ond sydd wedi cael bywyd newydd yn fwy diweddar mewn ail-gread arbennig o effeithiol gan Robert Orledge. Ei pherfformio am y tro cyntaf gan gerddorion gwych Prifysgol Caerdydd yw uchafbwynt City of Light: New Discoveries.”
Rhyddhawyd y ddau CD ar label Prima Facie.
Arweinydd: Margarita Mikhailova

Ar hyn o bryd Margarita yw arweinydd Cerddorfa Symffoni Prifysgol Caerdydd, a Darlithydd Gwadd ac Arweinydd y Royal Birmingham Conservatoire lle cwblhaodd ei hastudiaethau.
Mae hi wedi gweithio gyda:
- Cerddorfa’r Tŷ Opera Brenhinol
- Chwaraewyr Mozart Llundain
- Cerddorfa Gyngerdd y BBC
- Cerddorfa Symffoni Lloegr
- Sinfonietta Caerdydd, y DU
- Cerddorfa Danube, Budapest
- Philhamonisches Kammerorchester, Berlin
- Cerddorfa Symffoni Liepaja, Latfia
- Cerddorfa Ieuenctid Genedlaethol Estonia
- Siambr Ffilharmonig St Petersburg
Yn enedigol o Rwsia, dechreuodd Margarita ei hastudiaethau’n bianydd ac arweinydd y côr yn Academi Gelf St Petersburg. O 2002 ymlaen, parhaodd i astudio yn Norwy gan weithio ar draws Llychlyn lle cafodd glod ysgubol yn perfformio cerddoriaeth Eglwys Uniongred Rwsia a repertoire cyfoes o Lychlyn. Oherwydd ei diddordeb arbennig mewn cerddoriaeth gyfoes, arweiniodd nifer o berfformiadau cyntaf cyfansoddiadau newydd yn Norwy a’r DU.
Mae repertoire Margarita yn ymestyn o'r cyfnod Clasurol i gyfansoddiadau Rhamantaidd mawr yn yr 20fed ganrif gan Prokofiev, Mussorgsky, Tchaikovsky, Brahms, Elgar, Korngold, Sibelius, Vaughan Williams, Grieg, Stravinsky, Ravel a Berg. Mae ganddi arbenigedd arbennig mewn cerddoriaeth Ramantaidd Slafaidd a Rwsiaidd.
Yn ogystal ag arwain, yn 2018 sefydlodd MuzikFermata, cwmni sy'n cynnal gweithdai arwain proffesiynol a chyngherddau yn Rhydychen.
Find out more about upcoming concerts for the Symphony Orchestra and book tickets to come along.