Ensemble Gamelan Nogo Abang
Mae Nogo Abang yn golygu draig goch yn Jafaneg ac mae'n cysylltu'r dreigiau sydd wedi'u cerfio'n draddodiadol ar offerynnau gamelan â'r ddraig Gymreig.
Gamelan yw ensemblau taro efydd Java a Bali, sy'n cynnwys amrywiaeth o gongiau a metaloffonau eraill ond maent hefyd yn cynnwys canu.
Mae Nogo Abang yn dysgu ac yn perfformio repertoire Jafanaidd clasurol ochr yn ochr ag ystod o genres Jafanaidd poblogaidd sy'n cael eu chwarae ar offerynnau gamelan. Maent hefyd yn canu caneuon crefyddol calonnog i gyfeiliant drymiau ffrâm. Addysgir darnau trwy gyfuniad o ddysgu trwy glust, cofio a darllen nodau i greu repertoire eang. Rydyn ni'n chwarae’r offerynnau hyfryd sy'n cael eu cadw yn Neuadd Dewi Sant ac yn perfformio yno o leiaf unwaith y flwyddyn, weithiau ar y cyd â grŵp gamelan cymunedol Caerdydd.
Aeth Ensemble Gamelan 2017/18 ar daith maes 3 wythnos i Surakarta, Indonesia, lle buont yn astudio yn Sefydliad Celfyddydau Indonesia gan ymweld ag ysgolion, palasau a theatrau i gael dealltwriaeth well o rôl gamelan yn y gymdeithas.
- Wedi gwneud clyweliad: Ydy
- Arweinydd: Pete Smith
- Sesiynau Ymarfer: Trefnir ymarfer penwythnos unwaith y semester yn Neuadd Dewi Sant
Dim ond myfyrwyr Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd all ymuno ag Ensemble Gamelan Nogo Abang.
Cyfarwyddwr: Pete Smith
Yr Ysgol Cerddoriaeth yn cyflwyno ei chyfres o gyngherddau sydd ar y gweill.