Ewch i’r prif gynnwys

Ensemble Jazz

Yn cefnogi ein chwaraewyr jazz talentog.

Lansiwyd ein Ensemble Jazz yn 2015 ac rydym wrth ein boddau o’i weld yn datblygu o dan arweiniad y cerddor jazz clodwiw, Huw Warren.

Mae cyngherddau’r Ensemble Jazz yn rhan o'n cyfres Jazz yn y Brifysgol.

  • Wedi gwneud clyweliad: Angen clyweliad
  • Arweinydd Huw Warren
  • Sesiynau Ymarfer: Nos Fercher, 18:15-20:30, Neuadd Gyngerdd

Mae'r Ensemble Jazz yn agored i holl fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd gyda chlyweliadau yn cael eu cynnal bob mis Medi. I gael rhagor o wybodaeth am glyweliadau, cysylltwch â Elin Jones, jonese159@caerdydd.ac.uk.

Huw Warren
Huw Warren

Mae’r pianydd a’r cyfansoddwr o Gymru, Huw Warren, wedi ennill enw da yn rhyngwladol am greu cerddoriaeth arloesol ac eclectig dros yrfa o ugain mlynedd. Ac yntau’r un mor gartrefol wrth groesi jazz, cerddoriaeth byd a cherddoriaeth gyfoes sy'n aml yn genres neilltuedig, mae ganddo lais unigryw a phersonol.

Mae ei gyfansoddiadau’n symud rhwng rhigolau rhythmig mympwyol a harddwch melodig syml ond dwys; ond hyd yn oed ar ei fwyaf arbrofol mae ei gerddoriaeth bob amser yn hwyliog ac yn hygyrch. Mae ei ddull tyner a chynnil unigryw o gyfeilio i ganeuon wedi ei arwain i berfformio a recordio gyda rhai o gantorion gorau’r byd.

Ei brosiectau mwyaf adnabyddus yw:

  • Dialektos - deuawd gyda'r gantores Eidalaidd Maria Pia de Vito
  • Hermeto+ - addasiad o gerddoriaeth Hermeto Pascoal gyda'r drymiwr Martin France a'r basydd Peter Herbert
  • 100s of Things a Boy Can Make - gyda'r feiolinydd o Efrog Newydd, Mark Feldman)
  • Infinite Riches in a Little Room - set biano unawd sy’n troi o amgylch addasiad hyfryd o alaw gan John Dowland
  • Perfect Houseplants - Huw Warren, Mark Lockheart, Dudley Phillips, Martin France
  • A Barrel Organ Far From Home - grŵp cymysg â naw aelod gyda llinynnau a chwiban geiniog

Mae hefyd wedi perfformio a chydweithio ag amrywiaeth eang o gerddorion gan gynnwys Mark Feldman, Peter Herbert, Joanna MacGregor, Iain Ballamy, Kenny Wheeler, Jim Black, Theo Bleckmann, Neil Yates, Pamela Thorby, Mose Se Fan Fan, Erik Truffaz a Thomas Strønen yn ogystal â chydweithrediad hirsefydlog gyda'r canwr June Tabor.

Mae Huw hefyd wedi cyfansoddi ar gyfer llawer o ensembles gan gynnwys Cerddorfa Siambr yr Alban, Cerddorfa Siambr Cymru, RSC, Ensemble Renga LPO, The Orlando Consort, Ensemble Plus, Koch Ensemble a Tango Siempre.

Mae ei waith diweddar wedi cynnwys cydweithio ag artistiaid o feysydd eraill fel y coreograffydd Chloe Loftus, yr artist gweledol Catrin Williams a'r ffotograffydd David Woodfall.

Mae wedi ennill gwobr Jazz y BBC am Arloesi, a Gwobr Cymru Greadigol CCC.