Ewch i’r prif gynnwys

Collegium Prifysgol Caerdydd

Mae’r Ysgol Cerddoriaeth yn hapus i gyhoeddi ailenwi’r Ensemble Baróc  (mae’r grŵp craidd yn cynnwys lleisiau soprano ac alto gyda llinynnau a chwythbrennau cerddorfaol) fel Collegium Prifysgol Caerdydd.

Bydd yr Ensemble yn parhau o dan arweiniad Dr Peter Leech, gyda’r un adnoddau craidd. Mae’r enw newydd yn caniatáu cynnydd mewn amrywiaeth a chydraddoldeb yn y repertoire cyngerdd, fydd yn ymestyn o waith corawl ac offerynnol yn y ddeunawfed ganrif hyd at eitemau o’r unfed ganrif ar hugain gan gyfansoddwyr cyfoes.

Cynhelir clyweliadau bob blwyddyn ar gyfer Collegium. Mae croeso cynnes i fyfyrwyr nad ydynt yn astudio cerddoriaeth, er bod y rhan fwyaf o gerddorion yn dod o'r Ysgol Cerddoriaeth. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Elin Jones.

Arweinydd yr Ensemble - Peter Leech

Peter Leech
Peter Leech

Dechreuodd Peter Leech ei yrfa gerddorol yn Awstralia fel bachgen soprano ac yn ddiweddarach bu'n gweithio fel arweinydd proffesiynol yn Adelaide, Melbourne, a Sydney, cyn symud i'r DU ym 1996 i ymgymryd â PhD mewn Cerddoriaeth gyda Dr. Peter Holman MBE.

Yn 2003, enillodd Peter y Wobr Gyntaf yng Nghystadleuaeth Ryngwladol Mariele Ventre ar gyfer Arweinyddion Corawl (Bologna), ac ers hynny mae wedi datblygu enw da yn y DU a thramor ar gyfer dehongliadau ffres, arloesol a deinamig o amrywiaeth eang o repertoire corawl, gan amrywio o bolyffoni cynnar i gerddoriaeth gyfoes. Mae'r rhestr o ensemblau lleisiol y mae wedi'u harwain yn cynnwys The Song Company (Sydney), Coro Euridice (Bologna), y City of Oxford Choir, y Cathedral Singers of Christ Church Rhydychen, y Bristol Bach Choir, Côr Cerddorfa Genedlaethol Brenhinol yr Alban, Collegium Singers, Harmonia Sacra a Cappella Fede. Gyda The Song Company a Harmonia Sacra mae Peter wedi recordio CDs ar gyfer Tall Poppies a Nimbus Alliance, ac mae hefyd wedi ymddangos fel canwr ensemble ar label Hyperion.

Wedi'i hyfforddi’n wreiddiol fel arweinydd cerddorfaol (ar ôl astudio’r feiolín a’r allweddell), mae Peter hefyd wedi cydweithio â llawer o ensemblau offerynnol cyfnod blaenllaw yn y DU gan gynnwys Canzona a Frideswide Ensemble. Ar ôl sawl blwyddyn fel canwr proffesiynol yn Llundain, mae Peter wedi ymgartrefu yng Ngogledd Gwlad yr Haf ers 2009. Fe'i penodwyd yn Ddarlithydd Cyswllt yn yr Ysgol Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2015.