Ewch i’r prif gynnwys

Cyfnewid rhyngwladol

Dewch i astudio yn un o ysgolion iaith gorau'r DU a chael profiad o fywyd prifysgol ym mhrifddinas Cymru.

Os ydych chi'n astudio yn un o'n prifysgolion partner ar draws Ewrop, Tsieina, Japan, Taiwan ac America Ladin yna beth am ymuno â ni am semester neu ddwy yng Nghaerdydd? Mae nifer o fyfyrwyr yn cytuno bod eu hamser dramor yn un o brofiadau gorau eu hoes, ac wedi dysgu sgiliau amhrisiadwy yn ogystal â gwneud atgofion bythgofiadwy.

Profiad Serena ym Mhrifysgol Caerdydd

Rydym yn cynnig modiwlau mewn amrywiaeth o ieithoedd gan gynnwys Catalaneg, Tsieinëeg, Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg, Japaneg, Portiwgaleg a Sbaeneg, yn ogystal â chyrsiau ar ddiwylliant, hanes, llenyddiaeth, cyfieithu, gwleidyddiaeth a sinema. Mae dros 1400 o fyfyrwyr a 40 o staff academaidd yn creu amgylchedd cyfeillgar a bywiog gyda llu o ddigwyddiadau a gweithgareddau cyffrous i gymryd rhan ynddynt.

Mae pob un o’n rhaglenni gradd wedi’u rhannu’n fodiwlau ac mae’r flwyddyn academaidd wedi’i rhannu’n ddwy semester sy’n ddeuddeg wythnos o hyd. Mae cyfnod arholiadau neu gyfnod asesu yn dilyn pob semester.

Ein taflen ffeithiau

Cewch lawer o wybodaeth am astudio yng Nghaerdydd ar ein taflen ffeithiau.

Gwneud cais i astudio yng Nghaerdydd

Gallwch astudio un neu ddau semester yn y brifysgol trwy’r rhaglen gyfnewid Ewropeaidd. Mae'n rhaid i fyfyrwyr gwblhau cyfanswm o 60 credyd yng Nghaerdydd bob semester neu 120 credyd mewn blwyddyn.

Os hoffech astudio yma, bydd rhaid i chi drafod a’ch prifysgol gartref yn gyntaf. Unwaith y byddwn wedi derbyn eu henwebiadau a bod eich cyfnod astudio wedi'i gadarnhau, bydd angen i chi lenwi ffurflen gais ar-lein.

Profiad Shuya ym Mhrifysgol Caerdydd

Gofynion penodol yn ein Hysgol Ieithoedd Modern

Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer 120 credyd os ydych gyda ni am y flwyddyn gyfan, ac mae’n rhaid i chi astudio o leiaf 80 o'r credydau hyn yn yr ysgol. Os ydych yn ymweld am un semester, bydd angen i chi gofrestru ar gyfer 60 credyd, ac mae’n rhaid i chi astudio o leiaf 40 o'r credydau hyn yn yr ysgol. Sylwch fod un credyd Caerdydd yn werth 0.5 ECTS ac felly mae 120 credyd yng Nghaerdydd yn cyfateb i 60 ECTS.

Digwyddiad croeso

Bydd digwyddiad croeso yn ein hysgol yn fuan ar ôl i chi gyrraedd. Cynhelir y digwyddiad hwn ddiwedd mis Medi fel arfer i fyfyrwyr sy'n dod i astudio yn semester yr hydref neu am y flwyddyn gyfan. Bydd digwyddiad ar gyfer y myfyrwyr sy’n dod i astudio yn semester y gwanwyn yn cael ei gynnal ddiwedd mis Ionawr. Mae'n rhaid i bob myfyriwr cyfnewid rhyngwladol fynd i Ddigwyddiad Croeso'r ysgol lle byddwch yn cwrdd â staff o'r ysgol ac yn darganfod beth sydd angen i chi ei wneud nawr eich bod wedi cyrraedd Caerdydd.