Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil ôl-raddedig

We offer a wide range of opportunities for postgraduate study in an exciting, challenging and rewarding environment.

MATHS Abacws Teaching Facilities 01

Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd astudio ôl-raddedig mewn amgylchedd cyffrous, heriol a buddiol.

Fel myfyriwr ôl-raddedig byddwch yn cydweithio ag ysgolheigion sy'n gweithio ar ymchwil sy'n arwain y byd. Mae'r Ysgol yn elwa o gael cyllid ymchwil sylweddol gan yr EPSRC, yn ogystal â gan gyrff cyhoeddus a phreifat eraill.

Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn dilyn rhaglen astudio y cytunwyd arni i’ch cyflwyno i sgiliau a dulliau ymchwil ac i gynyddu eich gwybodaeth o’ch dewis faes. Mae hyn yn cynnwys dewis eang o gyrsiau ôl-raddedig a ddarperir drwy'r rhwydweithiau cydweithredol cenedlaethol

  • MAGIC ar gyfer mathemateg bur/gymhwysol
  • NATCOR ar gyfer ymchwil weithrediadol
  • APTS ar gyfer ystadegau.

Rydym yn cynnal seminarau rheolaidd ym mhob un o'n meysydd, gyda siaradwyr o fri, a hefyd yn rhedeg Colocwia Mathemateg Caerdydd a Cholocwiwm blynyddol Mathemateg Cymru, a'r cyfan yn rhoi cip ar yr ymchwil ddiweddaraf.

Meysydd ymchwil

Y prif feysydd lle rydym yn cynnig cyfarwyddo tuag at raddau ymchwil MPhil a PhD yw mathemateg bur, mathemateg gymwysedig, ymchwil weithrediadol, a thebygolrwydd ac ystadegau.

Edrychwch ar ddiddordebau ymchwil ein grwpiau ymchwil a'n staff academaidd i nodi maes ymchwil ôl-raddedig.

Yn ystod fy astudiaethau ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd rwyf wedi cael nifer o gyfleoedd i hyrwyddo fy ngwaith drwy gynadleddau, digwyddiadau ymgysylltu cyhoeddus, a chyhoeddiadau. Cefais y cyfle i deithio i sawl gwlad, addysgu mathemateg a chyfrifiadureg a hyrwyddo rôl menywod ym meysydd STEM.

Nikoleta, PhD Mathemateg

Pryd i wneud cais

Cewch ymgeisio unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn, ond dylech ganiatáu o leiaf 3 mis cyn y pwynt mynediad a ddymunwch er mwyn prosesu eich cais.

Mae pedwar pwynt mynediad y flwyddyn:

  • 1 Hydref (sy'n cyd-fynd orau â dyddiadau'r tymor academaidd a'r hyfforddiant)
  • 1 Ionawr
  • 1 Ebrill
  • 1 Gorffennaf

Os ydych yn dymuno cael eich ystyried am ysgoloriaeth, rydym yn eich cynghori i ymgeisio chwe mis cyn eich pwynt mynediad.

Cyllid

Rydym yn dyfarnu nifer bach o ysgoloriaethau doethurol a ariennir gan EPSRC bob blwyddyn.

Rydym yn croesawu ceisiadau os ydych chi’n hunan-ariannu neu os oes gennych gyllid o ffynonellau eraill, gan gynnwys ysgoloriaethau gan y llywodraeth neu eich cyflogwr. Rydym yn mynd ati i wahodd ceisiadau yn ein prif feysydd o ddiddordeb.

Cysylltwch â ni

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi, ebostiwch maths-pgr@caerdydd.ac.uk.