Mentora staff
Mwy am y pwnc hwn
Ym Mhrifysgol Caerdydd, mae mentora’n cynnig cyfle datblygu dysgu buddiol ar gyfer y mentor a'r mentorai fel ei gilydd. Ar gyfer y mentorai, gall gynnig math hanfodol o gymorth ac ysbrydoliaeth ar wahanol adegau yng ngyrfa unigolyn; tra fel mentor, gallwch rannu a myfyrio ar brofiadau ar yr un pryd â gwerthfawrogi safbwyntiau newydd a dysgu sgiliau newydd.
Yng Nghaerdydd mae amrywiaeth o gyfleoedd mentora’n bodoli. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Cynllun Mentora Menywod mewn Prifysgolion - cynllun Cymru gyfan sy'n ceisio hyrwyddo a hwyluso datblygiad proffesiynol menywod drwy sefydlu partneriaethau mentora rhwng prifysgolion.
- Cynllun Mentora PgCUTL - Mae mentora’n chwarae rôl bwysig o ran cefnogi cyfranogwyr ar y rhaglen PgCUTL drwy drafod ffyrdd o ddefnyddio theorïau dysgu ac addysgu sy'n benodol i ddisgyblaethau penodol, yn ogystal â hwyluso myfyrio gan gynnal adolygiadau gan gyfoedion gyda’u mentoreion.
- Menter Mentora Coleg – Nod hwn yw cysylltu unigolion ar draws y sefydliad i helpu i ddarparu cymorth priodol i bobl ar wahanol lefelau dilyniant ac ar wahanol lwybrau gyrfa.
I gefnogi’r amryw raglenni mentora mae yna hefyd nifer o raglenni datblygu staff ar gael.
Astudiaethau achos
Croeso i LinkedIn Learning!
Bex Ferriday
Cyhoeddwyd 22 Jul 2021 • 7 munud o ddarllen
Mae’r cyflwyniad Pecha Kucha yma o’r Gynhadledd Dysgu ac Addysgu 2021 yn darparu gwibdaith o amgylch LinkedIn Learning, yn dangos sut y gellir curadu cynnwys i chi, eich myfyrwyr, neu dimau proffesiynol, ac mae’n cynnwys golwg ar bersbectif y
Pynciau
Professional Recognition | Pathways & Promotions | Peer Reviews | Self-reflection |Adolygiad cymheiriaid o waith enghreifftiol
Justine Bold
Cyhoeddwyd 21 Jul 2021 • 7 munud o ddarllen
Mae'r cyflwyniad hwn o Gynhadledd Dysgu ac Addysgu 2021 yn trafod sut, mewn ymateb i Covid-19, symudodd yr Ysgol Meddygaeth (SoM) gyrsiau Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) i ddarpariaeth ar-lein maint bach hygyrch wedi’i halinio â chenhadaeth
Pynciau
Ways of learning | Learning journeys | Designing for distance learners | Self-reflection |Cyfrannu at yr Hwb Dysgu
Mae'r Hwb Dysgu wedi ei greu gan academyddion i academyddion, ac rydym yn eich annog chi i rannu unrhyw beth sydd yn cefnogi, amlygu neu adlewyrchu ar dysgu ac addysgu yma ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae hwn yn gyfle i gymryd rhan weithredol o'r gymuned ddysgu yng Nghaerdydd, i rannu eich arbenigedd gyda'ch cyd-weithwyr.