Ewch i’r prif gynnwys

Hunanfyfyrio

Mwy am y pwnc hwn

Ystyrir hunanfyfyrio fwyfwy fel elfen sylfaenol o ymarfer proffesiynol. Mae wedi ei yrru'n rhannol gan syniad Schon (1983) o'r ymarferydd myfyriol sy'n cael ei dderbyn yn eang bellach.

Mae amlygrwydd y dasg o hunanfyfyrfio ymysg arferion athrawon addysg uwch wedi'i ddiogelu oherwydd bod anghenion DPP wedi'u cynnwys yn yr UKPSF.

Gall prosesau hunanfyfyrfio fod yn ffurfiol – er enghraifft, gall adolygiadau gan gymheiriaid fel rhan o broses PDR gynorthwyo'r dasg o hunanfyfyrfio, neu weithio ar y cyd gyda mentor. Fel arall, gall dulliau anffurfiol hefyd fod yn bwerus iawn: mae ysgrifennu stori, cyfansoddi cerddi haiku, tynnu lluniau o gartwnau neu greu strwythurau o lego oll wedi'u cydnabod fel dulliau effeithiol o fyfyrio.

Bydd y dull yr ydych yn ei fabwysiadau yn dibynnu ar nifer o ffactorau; p'un a ydych wedi nodi maes o ymarfer rydych yn dymuno ei archwilio neu beidio, eich teimladau ynghylch weithio ar y cyd ag eraill, neu i ba raddau yr ydych yn barod i beidio â dilyn unrhyw strwythur. Bydd rhai athrawon yn ei weld yn ddefnyddiol i gael man cychwyn mewn cof wrth ddechrau myfyrio. Tra bod eraill yn hapus i gasglu syniadau drwy ddulliau meddwl sy'n fwy rhydd.

Yn yr adran hon cewch nifer o astudiaethau achos lle mae cydweithwyr yn rhannu eu profiadau o hunanfyfyrio gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau, yn ogystal â manteision datblygu dulliau o'r fath.

Cyfeirnodau:

Schön, D. (1983) The Reflective Practitioner. How professionals think in action, London: Temple Smith.


Astudiaethau achos

Croeso i LinkedIn Learning!

Bex Ferriday

Cyhoeddwyd 22 Jul 2021 • 7 munud o ddarllen

Mae’r cyflwyniad Pecha Kucha yma o’r Gynhadledd Dysgu ac Addysgu 2021 yn darparu gwibdaith o amgylch LinkedIn Learning, yn dangos sut y gellir curadu cynnwys i chi, eich myfyrwyr, neu dimau proffesiynol, ac mae’n cynnwys golwg ar bersbectif y


Pynciau

Professional Recognition | Pathways & Promotions | Peer Reviews | Self-reflection |

7 cydnabyddiaeth

Adolygiad cymheiriaid o waith enghreifftiol

Justine Bold

Cyhoeddwyd 21 Jul 2021 • 7 munud o ddarllen

Mae'r cyflwyniad hwn o Gynhadledd Dysgu ac Addysgu 2021 yn trafod sut, mewn ymateb i Covid-19, symudodd yr Ysgol Meddygaeth (SoM) gyrsiau Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) i ddarpariaeth ar-lein maint bach hygyrch wedi’i halinio â chenhadaeth


Pynciau

Ways of learning | Learning journeys | Designing for distance learners | Self-reflection |

3 cydnabyddiaeth

Cyfrannu at yr Hwb Dysgu

Mae'r Hwb Dysgu wedi ei greu gan academyddion i academyddion, ac rydym yn eich annog chi i rannu unrhyw beth sydd yn cefnogi, amlygu neu adlewyrchu ar dysgu ac addysgu yma ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae hwn yn gyfle i gymryd rhan weithredol o'r gymuned ddysgu yng Nghaerdydd, i rannu eich arbenigedd gyda'ch cyd-weithwyr.