Ewch i’r prif gynnwys

Menywod sy’n Wrthrych: Hanes menywod mewn ffotograffiaeth

Menywod yn Wrthrych yw'r ymgais barhaus gyntaf i ddefnyddio platfform y cyfryngau cymdeithasol Instagram i wneud ymchwil bwrpasol a hanesyddol ym maes celf. 

Y fenyw sy’n ddelwedd, yn eicon, yn wrthrych: mae hanes ffotograffiaeth yn gyforiog o fenywod sydd rhwng bod yn berson a bod yn wrthrych, rhwng byw a bod yn ddifywyd. Fodd bynnag, mae’r menywod hynny sy’n wrthrych mewn ffotograffiaeth hefyd yn fenywod sy'n gwrthwynebu, gan wrthsefyll cael eu gwneud yn wrthrychau mewn ffyrdd annisgwyl.

Astudiodd y prosiect, a gafodd ei ddatblygu gan Dr Alix Beeston, gyda chymorth yr Ysgol, Wales Arts Review, ac Amgueddfa George Eastman yn Rochester, Efrog Newydd, y ffordd y bydd menywod a merched yn cael eu cynrychioli mewn ffotograffiaeth drwy gyfres o luniau dyddiol rhwng mis Mawrth a mis Mai 2018.

Cyrhaeddodd mwy na 1,000 o ddilynwyr ar Instagram ac mae bellach ar gael fel archif Instagram ar-lein.