Ewch i’r prif gynnwys

Image Works

Grŵp o academyddion yw Image Works—haneswyr celf, arbenigwyr cyfryngau a chyfathrebu, athronwyr, ysgolheigion ffilm, a mwy—sy'n ymuno â myfyrwyr, artistiaid ac ymarferwyr i archwilio diwylliant gweledol yn yr ystyr ehangaf.

Wedi'i leoli yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth ond yn agored i bawb, mae ein gwaith gyda delweddau yn canolbwyntio ar feysydd allweddol fel rhywedd, perfformiad, technolegau digidol, a'r amgylchedd.

Digwyddiadau a chyfleoedd

Mae ein digwyddiadau a'n cyfleoedd yn cwmpasu ymchwil ac ymarfer creadigol, yn aml mewn cydweithrediad â sefydliadau allanol neu grwpiau artistiaid.

Yn ddiweddar, sefydlon ni bartneriaeth ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar Instagram: Symposiwm, trafodaeth drwy'r dydd o rôl platfform y cyfryngau cymdeithasol ym maes celf a diwylliant sy'n cynnwys artistiaid lleol ac arbenigwyr academaidd o ystod o ddisgyblaethau.

Dilynwch ni

Dilynwch ni ar Twitter neu Instagram neu ymunwch â'n rhestr bostio trwy ein ebostio ar imageworks@cardiff.ac.uk.