Cyfres gweminarau GeoTalks
Bydd ein hymchwilwyr yn trafod prosesau naturiol ein planed a’i hamgylchedd, yn ogystal â phwysigrwydd gwyddorau’r ddaear i’n cymdeithasau ni.
Mae cyfres gweminarau GeoTalks yn addas i sawl cynulleidfa megis y cyhoedd, disgyblion yr ysgolion uwchradd a phroffesiynolion.
Rydym wedi gohirio’r darlithoedd hyn ar gyfer yr haf a byddwn yn ailddechrau gweddill y gyfres yn hydref 2022. Bydd y dyddiadau newydd yn cael eu cyfleu cyn gynted â phosibl.
Byddwn ni’n recordio’r rhan fwyaf o ddarlithoedd ac yn eu cynnig wedyn trwy YouTube.
Dyddiad | Siaradwr | Seminar | |
---|---|---|---|
27/10/2021 | Y Dr Ake Fagereng | Daeargrynfeydd distaw: Beth, ble a pham? Dros y degawdau diwethaf hyn, mae technoleg well wedi datgelu ffenomen eang iawn, sef daeargrynfeydd ‘araf’ neu ‘ddistaw’. Maen nhw’n debyg i ddaeargrynfeydd arferol o ran faint o newid tanddaearol y gallan nhw ei achosi, er na fyddwn ni’n eu teimlo am nad oes cymaint o gyflymder nac egni gyda nhw. Bydd y ddarlith hon yn trafod natur daeargrynfeydd o’r fath, ble maen nhw’n digwydd a pham yn ôl yr hyn sy’n hysbys. | |
17/11/2021 | Y Dr Diana Contreras Mojica | Ymateb cyfryngau cymdeithasol, GIS, a'r gwasanaethau brys ar ôl daeargrynfeydd Y ffordd arferol o asesu effeithiau daeargryn yw trwy gyflawni gwaith maes neu gynnal arolygon o’r tir. Mae cyfryngau cymdeithasol a gwefannau ariannu torfol yn ddefnyddiol bellach ar gyfer hel llawer o ddata yn y fan a’r lle ar ôl trychineb. Serch hynny, bydd angen tipyn o ymchwil o hyd ynghylch didoli gwybodaeth ddefnyddiol mewn data heb strwythur. Rwy’n dadansoddi teimladau a phynciau i asesu ymateb gwasanaethau brys i drychinebau ac asesu’r adfer wedyn. Mae ‘dadansoddi teimladau’ yn ffordd o brosesu iaith naturiol i bennu pegynedd data a’r pynciau sydd wedi’u crybwyll mewn testun. | |
26/01/2022 | Maximiliaan Jansen | O’r dyfnder y daeth! Astudio natur a hanes ein cefnforoedd mewn lle anarferol Mae mynyddresi hwyaf y Ddaear ar waelod ein cefnforoedd: cribau canol y cefnforoedd, cadwn losgfynyddol miloedd o gilometrau o hyd. Mae’r cribau hynny wastad yn ychwanegu at waelod y cefnforoedd yn sgîl ymlediad y platiau tectonig ac yn ffurfio tua dau draean o wyneb y Ddaear o ganlyniad. Gan eu bod mor anodd eu cyrraedd, ychydig iawn sy’n hysbys am y sustemau llosgfynyddol hynny. Weithiau, daw darnau o waelod y môr i’r tir, gan ddatgelu ychydig am yr hyn sy’n digwydd yno. Yn y ddarlith hon, bydda i’n esbonio natur y darnau hynny a’r cliwiau y gallan nhw eu rhoi. | |
23/02/2022 | Y Dr Liz Bagshaw | Effaith toddiant llen iâ’r Ynys Las Mae llen iâ’r Ynys Las yn toddi, ac mae’r dŵr tawdd sy’n llifo i’r cefnforoedd yn cael effaith bellgyrhaeddol. Yn ystod y cyflwyniad hwn, byddaf yn mynd i'r afael â rhai o oblygiadau biogeocemegol a ffisegol llai cyfarwydd llen iâ sy’n toddi fwy a mwy a sut y gallai’r sefyllfa ddatblygu yn y dyfodol. | |
27/04/2022 | Y Dr Samantha Buzzard | Llynnoedd, afonydd… a rhaeadrau? Meirioli ar wyneb silffoedd iâ Antarctica Mae silffoedd iâ arnofiol Antarctica yn hanfodol i gadw trefn ar lif yr iâ o’r cyfandir hwnnw i Gefnfor y De. Mae’n hanfodol pennu sut y gall iâ sy’n meirioli ar wyneb y silffoedd hynny effeithio ar eu cyflwr fel y gallwn ni ddeall sut y byddan nhw’n symud yn y dyfodol a faint y bydd Antarctica yn effeithio ar lefelau moroedd byd-eang. | |
25/05/2022 | Ana Samperiz Vizcaino | Straeon o’r creigresi: Effaith newid amgylcheddol ar gwrelau Mae cwrelau, yr anifeiliaid bychain sy’n adeiladu rhai o strwythurau byw mwyaf y Ddaear, o dan fygythiad cynhesu byd-eang, gormod o asid yn y cefnforoedd, llygredd dŵr a gorbysgota. Yn y weminar hon, byddwn ni’n plymio i’r greigres i weld sut mae gwyddonwyr cwrelau yn hel cliwiau amgylcheddol o hen gwrelau a pham mae’r wybodaeth honno’n bwysig o ran deall sut y bydd creigresi cwrel yn ymateb i newid. | |
08/06/2022 | Y Dr David Buchs | Archwilio ynysoedd llosgfynyddol o dan ddeheubarth Cefnfor Iwerydd trwy dyllu Rhwng 6ed Rhagfyr 2021 a 5ed Chwefror 2022, bydd llong ymchwil JOIDES Resolution yn teithio ar hyd Crib y Morfil, cadwyn o losgfynyddoedd tanfor sy’n ymestyn o ddeheubarth Affrica i ganol Môr Iwerydd. Bydd tîm rhyngwladol o wyddonwyr y ddaear yn turio trwy rai o’r llosgfynyddoedd hynny i edrych ar eu gwreiddiau a deall sut maen nhw’n ymwneud â symud wyneb y Ddaear a ffurfio Môr Iwerydd. Yn y ddarlith hon, bydd David Buchs yn sôn am ei brofiad yn aelod o’r tîm hwnnw yn ddiweddar ac yn trafod canfyddiadau am losgfynyddoedd Crib y Morfil, sydd heb eu deall yn drylwyr hyd yma. | |
22/06/2022 | Y Dr Michael Singer | Anawsterau diogelwch dŵr ar diroedd sych Corn Affrica Mae dŵr yn hanfodol i fywydau a bywoliaethau, yn arbennig mewn gwledydd sych lle mae’r cymdeithasau wedi’u trefnu yn ôl tymhorau bwrw glaw. Yn rhan o brosiect mawr DOWN2EARTH mae Undeb Ewrop yn ei ariannu i drin a thrafod anniogelwch dŵr a bwyd ar diroedd sych Corn Affrica, bydd y ddarlith hon yn trafod cyfuniad o ddadansoddi a modelu data i ddeall yn well anawsterau cymdeithasol poblogaethau gwledig yn wyneb digwyddiadau hinsoddol eithafol megis sychder a newid hinsoddol hirdymor. | |
06/07/2022 | Kimberly Marshall-Mills | Bywyd cudd cregyn y môr: tystiolaeth mwynau byw cregyn bylchog enfawr Mae cregyn y môr fel cylchoedd coed. Gall cylchoedd tyfiant coed ddatgelu hanes yr amgylchedd ac, yn yr un modd, mae llinellau tyfiant a strwythurau bychain cregyn yn cyfleu peth o hanes y môr. Yn y ddarlith hon, byddwn ni’n gweld pam mae cregyn bylchog enfawr yn dangos y gorffennol a sut y gall hynny ein helpu i ddeall yn well gynefinoedd creigresi cwrel a allai wrthsefyll y newid hinsoddol. | |
I'w gadarnhau | Y Dr Peter Brabham | Pyllau glo gwag a chynhyrchu ynni o’r ddaear yn y deyrnas hon Mae ffynonellau ynni cartrefi’r deyrnas wedi newid yn fawr dros y degawd diwethaf. Mae gorsafoedd trydan glo eu tanwydd wedi’u cau ac mae miloedd o ffermydd gwynt wedi’u codi ar yr arfordir ac yn y môr. Mae eisiau ffyrdd eraill o gynhyrchu ynni gwyrdd yn gyson am y bydd cyfnodau heb wynt weithiau. Mae ymchwilwyr yn archwilio miloedd o dwneli a thyllau hen lofeydd y deyrnas i weld a oes modd defnyddio’r dŵr cynnes sydd ynddyn nhw ar gyfer cynhyrchu ynni. Bydd y Dr Brabham yn trafod cyflwr y glofeydd ac yn sôn am arbrofion yn neheubarth Cymru a rhannau eraill o’r deyrnas i ddefnyddio’r ynni. |
Seminarau blaenorol
Mae modd gwylio darlithoedd GeoTalks 2020 trwy restr GeoTalks 2020 YouTube neu un o’r dolenni isod.
2020 GeoTalks series
Siaradwr | Seminar |
---|---|
Aidan Starr | Armadâu Mynyddoedd Iâ yn y Gorffennol Daearegol: Rheolaeth annhebygol ar hinsoddau rhewlifol Oddi ar arfordir De Affrica, ceir mân ddarnau o Antarctica ynghudd mewn haenau o laid cefnforol; gweddillion mynyddoedd iâ wrth iddynt doddi yn y gorffennol pell. Yn y weminar, byddwn yn gweld sut mae’r dystiolaeth ryfeddol hon yn helpu daearegwyr, eigionegwyr a gwyddonwyr hinsawdd i gael gwell dealltwriaeth o amodau hinsoddol yn ystod oesoedd iâ yn y gorffennol. |
Dr Ake Fagereng | Archwilio ‘Daeargrynfeydd Mud’ Ymyl y Cefnfor Tawel Yn y weminar hon, byddwn yn trafod dosbarth newydd ei ddarganfod o ‘ddaeargrynfeydd mud’: beth ydyn nhw a pham maen nhw’n gyffrous. Bydd y weminar yn tynnu’n benodol ar ddarganfyddiadau o alldaith drilio cefnforol gwyddonol ddiweddar. |
Oliver Campbell | Effaith Gwrthdaro: Rôl Daeareg mewn Cadwraeth Treftadaeth Beth sydd gan eglwys o’r 13eg ganrif yn ne Lloegr yn gyffredin ag amffitheatr Rufeinig yn Syria? A pham mae daearegwyr yn saethu at greigiau mewn labordy? Cewch yr atebion a mwy yn y weminar hon ac ar wefan treftadaeth yn y croesdân. |
Oliver Francis | Daeargrynfeydd, tirlithriadau a glaw. Canlyniad daeargryn Wenchuan yn 2008 Mae llawer o’r daeargrynfeydd mwyaf yn y byd yn digwydd yn y mynyddoedd. Pan fo’r mynyddoedd hyn yn siglo, bydd pentyrrau mawr o greigiau’n cwympo oddi arnynt ac yn dinistrio adeiladau ac yn rhwystro afonydd gan achosi llifogydd. Ar ôl y ddaeargryn, bydd trefi’n dechrau ailadeiladu ac adfer; fodd bynnag, bydd llawer o’r creigiau wedi’u gadael ar lethr y mynydd a phan fydd hi’n bwrw glaw, gallan nhw symud eto. Bydd y creigiau hyn yn cymysgu â’r glaw ac yn rhuthro i lawr lethr y mynydd gan ddinistrio ffyrdd ac adeiladau sydd newydd eu hatgyweirio. Yn y sgwrs hon, byddwn yn ymchwilio i’r tirlithriadau a achoswyd gan y ddaeargryn yn Wenchuan, Tsieina yn 2008 a’r hyn a ddigwyddodd iddynt yn y blynyddoedd ar ôl hynny. |
Jasmin Millar | Y Ddaear fel Pelen Eira: Creaduriaid iâ’r gorffennol pell Cyn i’r anifeiliaid cyntaf esblygu, roedd microfywyd yn goroesi ar blaned a oedd wedi’i rhewi’n llwyr. Yn y weminar, byddwn yn archwilio sut goroesodd bywyd tua 100 miliwn o flynyddoedd o iâ ac yn dangos i chi pam mae gwyddonwyr yn teithio i’r pegynau heddiw i ddeall y gorffennol. |
Yr Athro Thomas Blekinsop | Mwynau ar gyfer yr Economi Werdd Mae trosglwyddo i economi werdd yn gofyn am newidiadau sylweddol yng nghyflenwad y mwynau i’r gymdeithas. Pa fwynau y bydd eu hangen arnom? Faint ohonynt y bydd eu hangen arnom? A oes digon gennym? Byddwn yn ymdrin â’r cwestiynau hyn yn y weminar. |
Dr Aditee Mitra | Micsoblancton - arwyr di-glod ein cefnforoedd Ymunwch â ni am stori micsoblancton. Mae’r arwyr di-glod hyn wedi cael eu camenwi gan wyddonwyr am fwy na chanrif ac weithiau mae nhw hyd yn oed wedi cael eu galw’n “freaks”! Eto i gyd, am filiynau o flynyddoedd mae’r organebau morol microsgopig hyn wedi bod yn gofalu am ein planed, gan helpu ffurfiau eraill ar fywyd i fodoli. Er enghraifft, wyddech chi fod 50% o’r ocsigen a anadlwn yn cael ei gynhyrchu gan blancton microsgopig yn ein cefnforoedd? |
Dr Adam Beall | Mae’r weminar hon yn rhoi trosolwg byr o sut mae’r Ddaear yn ymddwyn fel lamp lafa enfawr sy’n gyrru tectoneg platiau a pha ran sydd gan haen allanol cryf y Ddaear yn hyn o beth, yn nhyb gwyddonwyr. |
Dr Michael Prior-Jones | Archwilio plymwaith cudd rhewlifau Mae rhewlifau wedi’u gwneud o iâ, ond yn aml mae dŵr hylifol yn llifo y tu mewn iddynt ac oddi danynt. Yn y sesiwn hon, byddwn yn siarad am sut mae ein chwiliedydd “Cryoegg” yn defnyddio technoleg newydd i’n helpu i archwilio’r “plymwaith” cudd o dan rewlifau yn y Swistir a’r Ynys Las. |
Dr David Buchs | Sut helpodd codiad Culdir Panama i lunio’r byd modern Bydd y weminar hon yn mynd â chi i jyngl Panama i ddod o hyd i gliwiau daearegol am ddatblygiad Panama, a bydd yn esbonio pam roedd y digwyddiad daearegol hwn wedi helpu i greu’r byd sy’n gyfarwydd i ni heddiw. Cliciwch ar y ddolen i gael mwy o wybodaeth am ymchwil i Guldir Panama ym Mhrifysgol Caerdydd. |
Niall Groome | Stori Afalonia: Sut bwriodd Cymru a Lloegr yn erbyn yr Alban Bydd y weminar hon yn archwilio sut dechreuodd Ynysoedd Prydain ymuno â’i gilydd fwy na 400 miliwn o flynyddoedd yn ôl, gan adrodd y stori am sut ymwahanodd microgyfandir Afalonia (Cymru a Lloegr) rhag Gondwana ac, yn y pen draw, fwrw yn erbyn Lawrensia (Yr Alban a Gogledd America). |
Dr Marc-Alban Millet | Ymchwiliad i losgfynyddoedd: sut mae daearegwyr yn dadansoddi ffrwydradau yn y gorffennol Mae ffrwydradau llosgfynyddig yn ddigwyddiadau daearegol grymus a allai gael effeithiau dinistriol. Yn y weminar hon, byddwn yn siarad am sut mae daearegwyr yn astudio hen ffrwydradau i gael gwell dealltwriaeth o sut mae magma yn codi trwy gramen y Ddaear ac yn ffrwydro ar yr arwyneb. |
Dr Jack Williams | Yn y weminar hon, byddwn yn archwilio sut gellir cyfuno data o orsafoedd GPS yn Nyffryn Hollt Dwyrain Affrica â chliwiau cynnil yn nhirwedd a daeareg y Dyffryn Hollt i ymchwilio i leoliad a maint posibl daeargrynfeydd yno yn y dyfodol. |
Yr Athro Christopher MacLeod | Dyma gyfle i deithio i’r cefnforoedd dyfnaf ar y llongau ymchwil eigionegol diweddaraf gyda’r Athro Chris MacLeod o Brifysgol Caerdydd, wrth iddo ef a’i gyd-ddaearegwyr morol yn cwestiynu’r farn draddodiadol ar hanfodion tectoneg platiau: sut caiff cramen gefnfor newydd ei chreu gan ymlediad gwaelod môr ar gribau canol cefnfor. Mae’r cadwyni hyn o losgfynyddoedd dan ddŵr yn gorchuddio dau draean o’r blaned ond maen nhw wedi cael eu harolygu’n llai helaeth nag arwyneb Plwton. Dysgwch sut mae darganfyddiadau a wnaed dan amgylchiadau heriol gan yr alldeithiau gwyddonol diweddaraf wrth ffin olaf y Ddaear yn arwain at ddealltwriaeth newydd, wahanol iawn o ymlediad gwaelod môr. |
Ymholiadau am y seminarau
I gyflwyno ymholiad, cysylltwch â: