Ewch i’r prif gynnwys

Cyfres o ddarlithoedd cyhoeddus

Digwyddiadau rhad ac am ddim yw ein darlithoedd cyhoeddus, ac maent yn denu cynulleidfaoedd sy’n amrywio o’r cyhoedd, disgyblion ysgolion uwchradd a gweithwyr proffesiynol. Nod y gyfres yw agor y drws i feysydd o ddiddordeb ym maes gwyddorau’r Ddaear a’r amgylchedd, gan gynnwys cyflwyno ymchwil newydd yn y maes hwn i'r cyhoedd.

Cynaliadwyedd – beth nesaf?

Pa fath o le yr hoffwn i’r byd fod yn 2030, a sut mae cyflawni hyn? Yn 2015, cytunodd Aelod-wladwriaethau’r Cenhedloedd Unedig ar y Nodau Datblygu Cynaliadwy – glasbrint ar gyfer mynd i’r afael â llawer o’r heriau sy’n effeithio ar gymunedau ledled y byd. I gyflawni’r nodau hyn, mae angen i bawb ymgysylltu, gan gynnwys y rhai sy’n ymwneud â gwyddorau’r Ddaear a’r amgylchedd. Yn rhan o’r gyfres hon, mae arbenigwyr o amrywiaeth o ddisgyblaethau’n ymchwilio i’r cysyniad o ddatblygu cynaliadwy a’i effaith ar y defnydd o adnoddau naturiol amrywiol.

Yn rhan o gyfres 2022/23, bydd darlith yn cael ei rhoi bob mis yn Narlithfa Wallace (ystafell 0.13) yn y Prif Adeilad. Mae’r darlithoedd yn dechrau am 18:30.

Nid oes angen cadw lle yn y darlithoedd.

DyddiadSiaradwr gwaddPwnc
9 Mai 2023Dr Steve Smith (Prifysgol Rhydychen)Sero net a thu hwnt: rôl tynnu CO2
18 Ebrill 2023Yr Athro Jianzhong Wu (Prifysgol Caerdydd)Seilwaith ynni integredig yn gyrru’r trawsnewid i allyriadau sero net
14 Mawrth 2023Muneta Grace Kangara (Prifysgol Nottingham)Diwallu anghenion diogelwch bwyd a maeth poblogaeth sy’n tyfu
14 Chwefror 2023Dr Caroline Wainwright (Prifysgol Caerdydd)Heriau glaw tymhorol: Deall heriau dibyniaeth ar law mewn hinsawdd lle nad yw'n bwrw glaw drwy gydol y flwyddyn
13 Rhagfyr 2022Dr Tracy Shimmield (Arolwg Daearegol Prydain, Caeredin) a’r Athro Chris MacLeod (Prifysgol Caerdydd)Bydd Chris yn ymchwilio i ddyddodion sylffid masfawr ar Grib Canol yr Iwerydd. Yn dilyn cyflwyniad wedi'i recordio ymlaen llaw gan Tracy ar fwyngloddio gwely’r môr, bydd sesiwn holi ac ateb.
8 Tachwedd 2022Dr Eva Marquis (Ysgol Mwyngloddiau Cambourne, Prifysgol Caerwysg)Sicrhau cydbwysedd yn rhan o’r trawsnewidiad gwyrdd
11 Hydref 2022Yr Athro Wolfgang Maier (Prifysgol Caerdydd)Mwynau ar gyfer y trawsnewidiad ynni: adnoddau'r glannau
13 Medi 2022Dr Joel C. Gill (Prifysgol Caerdydd)Y dyfodol sydd arnom ei eisiau: sut rydym yn ei sicrhau?

Parcio

Mae ein rheolau ar gyfer parcio ar y campws wedi newid. Dim ond i’r rhai sy’n rhoi rhif cofrestru eu cerbyd fydd yn gallu parcio’n rhad ac am ddim ym maes parcio Adeilad Bute. Bydd taflen gofrestru ar gael yn ystod y darlithoedd. Rhowch eich manylion ym mhob digwyddiad.

Dim ond deiliaid bathodyn glas a all barcio ym maes parcio’r Prif Adeilad. Mae lleoedd parcio'n brin iawn. Ceir pum lle parcio hygyrch yno. I gadw lle parcio ymlaen llaw, ebostiwch carparking@caerdydd.ac.uk.

Gellir defnyddio’r lleoedd parcio cyhoeddus ar y stryd ym Mhlas y Parc a Rhodfa’r Amgueddfa. Bydd angen talu i barcio cyn 19:00.

Cysylltu â ni

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau ynghylch y gyfres hon, cysylltwch â’r Athro Dianne Edwards drwy ebostio edwardsd2@caerdydd.ac.uk.

Os bydd angen i chi gymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb yn Gymraeg, ebostiwch edwardsd2@caerdydd.ac.uk o leiaf bythefnos cyn y digwyddiad.