Ewch i’r prif gynnwys

Ein hanes

Myfyrwyr yn ystod ymweliad maes yn y 1950au cynnar.
Myfyrwyr yn ystod ymweliad maes yn y 1950au cynnar.

Rydyn ni am barhau ag egwyddorion yr Ysgol i’r dyfodol. Ein nod clir yw helpu ein myfyrwyr a’n staff i gyflawni eu llawn dwf er lles ein cymdeithas.

Y 1880au

1883: Agorodd Coleg Prifysgol y Deheubarth a Sir Fynwy yn Adeiladau’r Hen Ysbyty, Ffordd Casnewydd. Er bod diwydiant glo’r deheubarth yn ffynnu bryd hynny, doedd daeareg ddim ymhlith y pynciau.

1889: I atal dirywio diwydiannau a gweithgynhyrchu, fe roes Deddf Cyfarwyddyd Technegol ddyletswydd ar y coleg ynghylch sefydlu addysg dechnegol yng Nghymru a Lloegr, gan sbarduno dechrau dysgu daeareg.

1891: Sefydlwyd yr Adran Fwyngloddio trwy benodi S.W. Galloway (1840-1927) yn Athro a Phennaeth cyntaf yr adran. F. T. Howard oedd darlithydd daeareg cyntaf, wedi’i benodi i gynnal cwrs blwyddyn ar gyfer peirianwyr.

South Wales Daily News ddydd Mawrth 20 Hydref 1891
Erthygl papur newydd o'r South Wales Daily News ddydd Mawrth 20 Hydref 1891.

1891: O ganlyniad i bwysau gwleidyddol, bu rhaid rhoi hyfforddiant ffurfiol i athrawon ym maes daearyddiaeth. Cytunodd Adran Addysg y Llywodraeth i noddi 32 o athrawon ysgol ar gyfer cwrs cyfun daeareg a daearyddiaeth. O dan adain Howard, astudion nhw stratigraffeg, palaeontoleg a phetroleg ynghyd â microsgopeg.

1897: Penodwyd W.S. Boulton yn ddarlithydd daeareg.

Y 1900au

1907: Dyrchafwyd W.S.Boulton i Athrawiaeth Lawn ym maes daeareg - gan nodi dechrau hanes adran ddaeareg bwrpasol. Roedd 15 myfyriwr Yn yr ysgol - dim ond pedwar oedd yn astudio ar gyfer gradd dros dair blynedd.

1920: Roedd yr adran yn ennill ei phlwyf o dan adain yr Athro A.H. Cox gyda dau ddarlithydd a gweithiwr labordy. 

1935: Penodwyd T.D. Jones yn Gadeirydd Mwyngloddio gan sbarduno dechrau newydd i’r Coleg gydag ysgoloriaethau i bum myfyriwr y flwyddyn o dan nawdd perchnogion y pyllau.  

1956-60: Yn sgîl gwladoli’r pyllau glo, daeth rhagor o fyfyrwyr a rhoddwyd arian i'r Adran Fwyngloddio ar gyfer adeilad pwrpasol newydd.

 Myfyrwyr mewn labordy daeareg ym 1962
Myfyrwyr mewn labordy daeareg ym 1962.

1962: Symudodd yr Adran Ddaeareg o safle’r ysbyty i ystafelloedd pwrpasol newydd yn adain dde’r prif adeilad.

1973: Dechreuwyd dysgu daearyddiaeth ffisegol trwy benodi C. Harris i gynnal cwrs gwyddorau amgylcheddol. Arweiniodd hynny at radd gyfunol daeareg a daearyddiaeth a dysgu daearyddiaeth yng Nghyfadran y Gwyddorau a Chelfyddydau fel ei gilydd.

1977: Ar ôl bod yn geoffisegydd yn yr Arolwg Daearegol ac yna’n ddarlithydd yng Ngholeg y Brifysgol, Abertawe, cafodd yr Athro Mike Brooks ei benodi’n Athro Daeareg a Phennaeth Adran.

1977: Ehangwyd y staff addysgu i gynnwys athro, tri uwch ddarlithydd, pum darlithydd a dau ddangosydd ymchwil yn ogystal ag wyth gweithiwr technegol ac ysgrifenyddol a dau ddarlithydd ar gyfer cyrsiau daearyddiaeth.

1977: Ehangwyd yr addysgu i gynnwys nifer o gyrsiau newydd megis Daeareg (BSc), Daeareg Peirianneg a Geoffiseg (MSc), Manteisio ar Fwynau (Daeareg Mwyngloddio a Pheirianneg Mwyngloddio), Peirianneg Sifil ac Astudiaethau Amgylcheddol, Geoffiseg (BSc), graddau cydanrhydedd yn ymwneud â Daearyddiaeth a Chwrs Blwyddyn Ragarweiniol.

1983: Penodwyd yr Athro David Rickard yn Gyd-Bennaeth yr Adran Fforio am Fwynau ac yn Athro Daeareg Mwyngloddio.

1988: Yn sgîl uno â Sefydliad Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Cymru, sefydlwyd Adran Astudiaethau’r Môr yn y coleg a chyflwyno cwrs Daearyddiaeth y Môr.

1992: Arweiniodd Adolygiad Gwyddorau’r Ddaear 1987 at gau sawl cwrs Daearyddiaeth. Cadwyd Harris yn Gyfarwyddwr Cwrs MSc Daeareg Amgylcheddol Gymhwysol.

Sesiwn labordy arferol maint canolig i fawr ar gyfer fyfyrwyr gwyddor y Ddaear.
Myfyrwyr mewn labordy daeareg yn 2012.

1994: Newidwyd yr enw i'r Adran Gwyddorau’r Ddaear.

Y 2000au

2000: Yn sgîl cau Adran Astudiaethau’r Môr, ymunodd staff daearyddiaeth y môr ag Adran Gwyddorau’r Ddaear gan sefydlu BSc Daearyddiaeth y Môr sy’n parhau heddiw.

2002: Newidwyd yr enw i'r Adran Gwyddorau’r Ddaear a’r Môr.

2003: Penodwyd Dianne Edwards yn Bennaeth yr Ysgol. Mae Dianne yma o hyd yn swydd Athro Ymchwil.

2008: Yn ôl arolwg RAE 2008, roedd 75% o allbynnau ymchwil yr ysgol yn rhai ‘byd-arweiniol’ neu ‘ryngwladol-ragorol’.

2009: Penodwyd yr Athro R. John Parkes yn Bennaeth yr Ysgol.

2014: Penodwyd yr Athro Ian Hall yn Bennaeth yr Ysgol.

2014: Yn ôl arolwg REF 2014, roedd 94% o allbynnau ymchwil yr ysgol yn rhai ‘byd-arweiniol’ neu ‘ryngwladol-ragorol’.

Taith maes daearyddiaeth amgylcheddol yn y Swistir
Myfyrwyr daearyddiaeth amgylcheddol ar daith maes yn y Swistir yn 2017.

2016: Cyflwynwyd rhaglenni gradd newydd Daearyddiaeth Amgylcheddol (BSc ac MSci). 

2019: Cyflwynwyd rhaglenni gradd newydd Daearyddiaeth Ffisegol (BSc ac MSci) a Dŵr mewn Byd Cyfnewidiol (MSc).  

2020: Mae yn yr ysgol dros 55 o academyddion, gan gynnwys dau o gymrodyr y Gymdeithas Frenhinol.

2020: Enw newydd - Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a’r Amgylchedd.

2022: Daw Dr Jenny Pike yn Bennaeth yr Ysgol.

Ffynhonnell yr wybodaeth hon: ‘From Geology Department to School of Earth & Ocean Sciences: a record of the staff over 125 years (1891–2016) of Geological Science research and teaching in Cardiff’ gan yr Athro Emeritws Bernard Elgey Leake, Cymrawd Ymchwil Mygedol.