Ewch i’r prif gynnwys

Astudio neu weithio yn Tsieina

Trwy ei gysylltiadau â Phrifysgol Caerdydd a'r Cyngor Prydeinig, mae Sefydliad Confucius Caerdydd yn gallu cyfeirio myfyrwyr cymwys ym mhrifysgolion y DU i amrywiaeth o gyfleoedd astudio, gweithio a gwirfoddoli yn Tsieina.

Mae tîm Cyfleoedd Byd-eang Prifysgol Caerdydd yn cefnogi myfyrwyr i ddod o hyd i brofiadau astudio, gweithio neu wirfoddoli yn Tsieina. Er bod rhai newidiadau wedi'u gwneud i raglenni lleoli ac astudio dramor oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19), mae cyfleoedd ar gael o hyd trwy sefydliadau partner yn unol â chyngor y llywodraeth.

Mae'r Cyngor Prydeinig hefyd yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd yn Tsieina.

Cysylltwch â ni

Sefydliad Confucius Caerdydd

Ymholiadau cyffredinol