Ewch i’r prif gynnwys

Ysgoloriaethau Llywodraeth Tsieina

Mae Llywodraeth Tsieina yn cynnig nifer o ysgoloriaethau tymor hwy, o chwe mis i bedair blynedd.

Mae'r rhain ar gael i fyfyrwyr israddedig, myfyrwyr ôl-raddedig ac ymchwilwyr. Mae rhai o ysgoloriaethau Llywodraeth Tsieina ar gael ar gyfer lleoedd i astudio ym Mhrifysgol Xiamen ond maent hefyd ar gael mewn nifer o sefydliadau ledled Tsieina. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Derbyniadau Prifysgol Xiamen.

Gall Sefydliad Confucius Caerdydd weithredu fel Sefydliad Confucius cynhaliol i fyfyrwyr cymwys sydd am wneud cais am unrhyw un o'r ysgoloriaethau hyn.

Mae dwy raglen o ysgoloriaethau Llywodraeth Tsieina:

Rhaglen ddwyochrog

Grŵp targedPob ymgeisydd
Categori cefnogolBagloriaeth, Meistr, Doethurol, Rhaglenni ymweld hir-dymor
Cyfnod ymgeisioIonawr - Ebrill
Asiant ar waithSwyddfa Addysg Llysgenhadaeth Tsieina

Rhaglen Prifysgol Tsieineaidd

Grŵp targedPob ymgeisydd
Categori cefnogolCyrsiau Meistr, Rhaglenni doethurol
Cyfnod ymgeisioChwefror - Ebrill
Asiant ar waithSwyddfa Derbyniadau XMU