Ewch i’r prif gynnwys

Ymgysylltu â Diwydiant

Rydym yn cydweithio â diwydiant ar draws ein gweithgareddau addysgu ac ymchwil. Mae amrywiaeth eang o gyfleoedd i gydweithio â'n staff a'n myfyrwyr, ac mae enghreifftiau nodedig yn cynnwys:

National Software Academy

Academi Meddalwedd Genedlaethol

Canolfan ragoriaeth ar gyfer addysg peirianneg meddalwedd yng Nghymru a rhan o’r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg.

Data analytics in a server room

Academi Gwyddor Data

Mae Academi Gwyddor Data yn ganolfan ar gyfer gwyddoniaeth ddwys ei data ac mae wedi’i sefydlu i addysgu’r to nesaf o arbenigwyr yn y maes hwn.

Rydym yn mynd ati i geisio ymgysylltu â'r diwydiant ym mhob maes o'n gweithgareddau. Mae enghreifftiau o'r ffyrdd rydym yn cydweithio â diwydiant yn cynnwys:

  • Cynnig lleoliadau, interniaethau haf neu brofiad gwaith arall i'n myfyrwyr
  • Ymgysylltu â'n Hacademi Meddalwedd Genedlaethol drwy:
    • Gynnig heriau neu syniadau am brosiectau i fyfyrwyr
    • Rhoi cyflwyniadau gwadd neu gyfraniadau at y cwricwlwm
    • Gweithio gyda'n staff academaidd i ddylanwadu ar y cwricwlwm
    • Cyflogi prentis ac ymgysylltu â'n rhaglen prentisiaeth gradd
  • Ymgysylltu â'n Hacademi Gwyddor Data drwy:
    • Gynnig heriau neu syniadau am brosiectau i fyfyrwyr
    • Rhoi cyflwyniadau gwadd neu gyfraniadau at y cwricwlwm
    • Gweithio gyda'n staff academaidd i ddylanwadu ar y cwricwlwm
  • Cyfleoedd cyflogaeth i raddedigion — rydym yn cynnal nifer o ddigwyddiadau rhwydweithio rheolaidd drwy gydol y flwyddyn academaidd i hyrwyddo cyfleoedd cyflogaeth.
  • Ymgysylltu â'n cymuned ymchwil drwy fentrau megis:
    • Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP)
    • Ymgynghori
    • Ymchwil Contract
    • Ymchwil ar y cyd a/neu geisiadau am gyllid ar y cyd i gyrff fel Innovate UK
    • Secondiadau staff

Archwilio

Cysylltu

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Joanna Emery

Joanna Emery

Knowledge Transfer Officer

Email
emeryjl4@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 0851