Ewch i’r prif gynnwys

Ysgolion, colegau ac ymgysylltu â'r gymuned

School children looking at equipment in the server room, cables coming from the back

Rydym yn gweithio gydag ysgolion, colegau a grwpiau cymunedol drwy raglen allgymorth i hyrwyddo sgiliau digidol a gyrfaoedd digidol i bobl ifanc yn Ne Cymru.

Rydym yn gwneud yn siŵr bod ein gwaith yn cael effaith y tu allan i'r byd academaidd drwy sefydlu cysylltiadau cryf ag ysgolion lleol a sefydliadau allgymorth o fewn cymuned De Cymru.

Rydym yn cynnal gweithdai a gweithgareddau ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd, gan gynnwys sesiynau DPP i athrawon. Mae enghreifftiau o'r gweithdai a'r gweithgareddau rydym yn eu cynnal ar gael yma.

Cynllun Llysgenhadon STEM

Rydym wedi creu tîm o Lysgenhadon STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) sy'n ymweld ag ysgolion cynradd ac uwchradd lleol i gynnal gweithdai ar godio ac elfennau pwysig eraill ym maes cyfrifiadureg.

Mae tua 100 o fyfyrwyr bob blwyddyn yn manteisio ar y cyfle i fod yn Llysgenhadon STEM, ac maent yn rhan allweddol o'n tîm, gan ymgysylltu'n uniongyrchol ag ysgolion a phobl ifanc i hyrwyddo agweddau ar gyfrifiadura mewn ffordd frwdfrydig.   Rydym yn annog pob myfyriwr yn yr Ysgol i gymryd rhan yn y cynllun Llysgenhadon STEM, gan ei fod hefyd yn datblygu eu sgiliau cyflogadwyedd.

Technocamps

Mae'r cynllun Llysgenhadon STEM yn cefnogi gwaith y Brifysgol fel canolfan Technocamps, rhaglen gan Lywodraeth Cymru sy'n cynnal sesiynau allgymorth cyfrifiadurol ar gyfer pobl ifanc ledled Cymru.

Gall ein Llysgenhadon STEM gynnal gweithdai Technocamps ar ieithoedd rhaglennu rhagarweiniol fel Python, Scratch a Greenfoot, gan roi cyflwyniad ysgafn a hwylus i gyfrifiadureg.

Mae Llysgenhadon STEM hefyd wedi cyfrannu at weithgareddau yn ein Hysgol, cynorthwyo mewn gweithdai DPP i athrawon, diwrnodau agored y Brifysgol a digwyddiadau'r Coleg fel Cynhadledd STEM a digwyddiadau STEM – Yn Fyw.

Programming is fun and better when it is practiced more. It is also really rewarding when you debug something and you wrack your brain for what feels like ages – then it works.
Year 9 pupil following a Technocamps workshop

Cysylltu

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Technocamps