Gwybodaeth i gleifion
Er mwyn ein helpu i ddeall rhagor am achosion arthritis, rydym bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr i'n cynorthwyo gyda'n hymchwil.
Gyda dros 2000 claf ar ein rhestr cleifion, mae eu cyfraniad i'n hymchwil wedi helpu i wella triniaeth, atal yr anhwylder ac adferiad i eraill.
Rydym yn chwilio am bobl sydd â:
- chymalau iach neu;
- sydd wedi cael eu trin am anaf neu;
- sydd ag athritis.
Mae dwy ffordd y gallwch gymryd rhan yn ein hastudiaethau ymchwil drwy naill ai:
Rydym yn gweithio i bolisi moesegol llym. Mae ein gweithgarwch recriwtio cleifion i gyd wedi'i gefnogi gan Ganolfan Ymchwil Clinigol y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, sy'n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i wella iechyd a lles pobl drwy ymchwil.
Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio mewn Clinigau Orthopaedig a Thrawma Lleol yng Nghaerdydd.
Neu os ydych chi'n cael eich trin yn rhywle arall a phe hoffech chi gael gwybod rhagor am ein hastudiaethau, cysylltwch â:
Biomechanics and Bioengineering Research Centre Versus Arthritis
Mae ein hymchwil yn dibynnu ar gymorth a brwdfrydedd parhaus y bobl sy'n cymryd rhan yn ein hastudiaethau. Os oes gennych gymalau iach neu os ydych chi wedi cael eich trin am anaf neu arthritis yna gallwch wirfoddoli i'n helpu ni gyda'n hymchwil mewn amryw o ffyrdd.