Ewch i’r prif gynnwys

Canolfannau Datblygu Ieuenctid

Mae ein rhaglenni canolfannau datblygu ieuenctid yn darparu mynediad unigryw i ymarferion a hyfforddiant o ansawdd o fewn llwybrau datblygu chwaraewyr.

Nod ein canolfannau datblygu yw gwella gallu technegol a dealltwriaeth dactegol chwaraewyr ifanc addawol a'u galluogi nhw i chwarae ac ymarfer ar lefel uwch.

Mae ein rhaglenni yn rhoi cyfle i chwaraewyr ddatblygu mewn amgylchedd dysgu strwythuredig, hwyliog a diogel, yn ychwanegol i unrhyw sesiynau a gemau ysgol a/neu glwb.

Ein rhaglenni

Pêl-droed

Pêl-droed

Mae ein Canolfan Datblygu Pêl-droed yn rhoi cyfle i chwaraewyr pêl-droed talentog ddatblygu drwy sesiynau hyfforddiant technegol a gemau.

Pêl-rwyd

Pêl-rwyd

Mae Canolfan Datblygu Pêl-rwyd Prifysgol Caerdydd yn rhoi cyfle i chwaraewyr pêl-rwyd talentog ifanc ddatblygu yn y llwybr hwn.

Proses ddethol

Mae mynediad i'n canolfannau datblygu ieuenctid trwy wahoddiad yn unig. Trwy broses dreialon mae chwaraewyr yn cael eu dewis i fynychu ein canolfannau ddatblygu.

Mae chwaraewyr sy'n cael eu gwahodd i'r rhaglen yn derbyn hyfforddiant a chefnogaeth o ansawdd gan ein tîm profiadol o staff hyfforddi cymwys a brwdfrydig.