Ewch i’r prif gynnwys

Canolfan Datblygu Pêl-droed

FDC Coaching

Rhoi cyfle i bêl-droedwyr talentog ddatblygu o fewn y llwybr.

Nod Canolfan Datblygu Pêl-droed Prifysgol Caerdydd yw gwella gallu technegol a dealltwriaeth dactegol chwaraewyr ifanc addawol a'u galluogi i chwarae a ymarfer ar lefel uwch.

Mae Chwaraeon Prifysgol Caerdydd yn falch o barhau â'i phartneriaeth â Chymdeithas Bêl-droed Ysgolion Caerdydd a'r Fro i wneud yn siŵr bod chwaraewyr talentog yn cael cyfle i fanteisio’n llawn ar eu gallu.

Cardiff and Vale Schools Football Association

Bydd chwaraewyr sy'n rhagori yn y Ganolfan Datblygu Pêl-droed Prifysgol Caerdydd yn cael cyfle i symud ymlaen i garfan Chymdeithas Pêl-droed Ysgolion Caerdydd a'r Fro.

Proses adnabod talent

Mae ein proses adnabod talent gyda Chymdeithas Pêl-droed Ysgolion Caerdydd a'r Fro wedi'i chwblhau ac mae carfannau ar gyfer y tymor presennol (2021 - 2022) wedi'i ddewis. Fodd bynnag, mae ein rhaglen yn parhau i fod yn hygyrch i bêl-droedwyr talentog yn ardal Caerdydd a'r Fro ac rydym yn eich annog i gysylltu â ni os hoffech gael rhagor o wybodaeth.

Ymarfer

Mae chwaraewyr a ddewiswyd ar gyfer carfan Canolfan Datblygu Pêl-droed Prifysgol Caerdydd yn mynd i sesiynau ymarfer wythnosol rhwng Medi 2021 a Ebrill 2022 yn naill ai Caeau Chwaraeon Prifysgol Caerdydd neu Pentref Hyfforddiant Chwaraeon Prifysgol Caerdydd.

Rhaglen gemau

Yn ogystal â sesiynau hyfforddi wythnosol, maent yn chwarae gemau yn erbyn timau cynrychiolydd sirol Ysgolion Cymru ac academïau CBDC/EFL yng Nghymru a Lloegr, gan gynnig cystadleuaeth o ansawdd uchel i aelodau'r garfan a chyfleoedd i ddangos eu gallu.

Mae gemau rhwng Canolfan Datblygu Pêl-droed Prifysgol Caerdydd ac Chymdeithas Pêl-droed Caerdydd a’r Fro yn cael eu cynnal yn ystod y tymor i ganiatáu i bob hyfforddwr a rheolwr asesu datblygiad chwaraewyr.

Mae gemau yn gyfle ychwanegol i weithio ar bynciau sy'n cael sylw yn y sesiynau hyfforddi wythnosol, gyda'r pwyslais yn cael ei roi ar ddatblygiad chwaraewyr yn hytrach na’r canlyniadau.

Datblygiad

Bydd chwaraewyr yn ein rhaglen yn cael cyfle i ddatblygu eu gallu technegol a'u dealltwriaeth dactegol mewn amgylchedd dysgu strwythuredig a hwyliog. Mae pwyslais ein hyfforddwyr ar ddatblygu chwaraewyr 'Ffordd Gymreig' CBDC. Mae'r chwaraewyr a ddewisir yn mynd i’n sesiynau ymarfer a'n gemau Canolfan Datblygu Pêl-droed yn ogystal ag unrhyw ymrwymiadau pêl-droed clwb/ysgol.

Mae pob chwaraewr yn cymryd rhan mewn bloc 3 wythnos o futsal (pêl-droed dan do) i herio ac ehangu eu haddysg bêl-droed ymhellach. Mae chwaraewyr yn cael cefnogaeth gwyddor chwaraeon ac yn derbyn cynlluniau datblygu unigol ganol/diwedd tymor.

Mae aelodau'r carfan yn derbyn hyfforddiant o safon dan arweiniad hyfforddwyr cymwysedig Trwydded CBDC/UEFA B.

Cysylltu â ni

Cysylltwch â ni os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth: