Ewch i’r prif gynnwys

Cynhadledd llais Caerdydd


    Clock outlineDydd Mawrth 9 Gorffennaf 2024, 09:30 - 14:30
  • Ar gael yn Gymraeg yn unig

Mae'r dirwedd newyddiadurol a chyfryngau ar gyfer pobl ifanc eisoes wedi symud i lwyfannau digidol. Beth mae hyn yn golygu i ddyfodol cymdeithas, i bobl ifanc ac i Gymru?

Mae llwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn parhau i chwarae rhan bwysig wrth lunio sut mae unigolion ifanc yn cael eu newyddion a gwybodaeth, ac yn aml yn arwain at bryderon am wybodaeth ffug, yn ogystal â phryderon am ddiogelwch pobl ifanc.

Fe fydd cynhadledd Llais Caerdydd yn cyflwyno eich disgyblion i nifer o brif bynciau'r maes newyddiadurol a'r cyfryngau yn 2024.

Ydyn ni'n gallu dibynnu ar newyddiaduraeth Tik Tok ac Instagram?
Sut dylem gyfathrebu a pharchu pobl ar lwyfannau digidol?
Ac yw'r byd digidol yn mynd i alluogi i'r iaith Gymraeg ddatblygu a thyfu?

Rydym yn cynnig:

  • Sesiwn cyfnos i athrawon yn Mai/Mehefin ar Teams, ar ddatblygu cynnwys Cymraeg digidol gyda phobl ifanc
  • 15 lle yn y gynhadledd i ddisgyblion blwyddyn 10 (ac athrawon) o Gaerdydd a RCT
  • Grantiau trafnidiaeth i ysgolion o du allan i Gaerdydd

Ynglŷn â'r trefnydd

Academi Gymraeg a JOMEC Cymraeg sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Catrin Jones yn academi@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o fanylion.

Sut i gadw lle

Cysylltwch erbyn 30 Ebrill 2024, i sicrhau lle i’ch ysgol yn y gynhadledd a mynegi eich diddordeb i fynychu’r sesiwn cyfnos i athrawon.

Emailacademi@caerdydd.ac.uk


TicketMae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim

  • JOMEC, 2 Sgwar Canolog

Cynulleidfa

  • TickAthrawon
  • TickCyfnod allweddol pedwar - 14-16 oed, blynyddoedd 10-11

Mae angen goruchwyliaeth athrawon.


Themâu cwricwlwm

  • TickCelfyddydau mynegiannol
  • TickIechyd a lles
  • TickY Dyniaethau
  • TickIeithoedd, llythrennedd a chyfathrebu
  • TickMathemateg a rhifedd
  • TickGwyddoniaeth a thechnoleg
  • TickGwyddorau bywyd
  • TickGwyddorau Cymdeithasol
  • TickCymraeg
  • TickCymhwysedd digidol
  • TickGyrfaoedd a chyflogadwyedd
  • TickBagloriaeth Cymru a'r Cymhwyster Prosiect Estynedig
  • TickAllgyrsiol

Math o weithgaredd

  • TickCynhadledd

Diben

  • TickGyrfaoedd a chyflogadwyedd
  • TickDysgu allgyrsiol neu annibynnol
  • TickEhangu cyfranogiad yn y brifysgol
  • Tickundefined

Rhannwch y digwyddiad hwn