Cyflwyniad i Tsieina a diwylliant Tsieineaidd ar gyfer athrawon ysgolion uwchradd
- Ebrill, Mai, Mehefin, Gorffennaf
- Mwy nag un diwrnod
Dydd Mawrth yn Fisol I 5.30-6.30pm I Ar-lein (Zoom)
12 Mawrth 2024
16 Ebrill 2024
14 Mai 2024
4 Mehefin 2024
2 Gorffennaf 2024
Mae ein sesiynau misol Cyflwyniad i Tsieina a Diwylliant Tsieina sy’n rhad ac am ddim yn caniatáu ichi ddysgu mwy am wlad a diwylliannau Tsieina.
Nod y cyrsiau hyn yw eich cyflwyno i bum maes allweddol o ddiwylliant Tsieineaidd a rhoi o leiaf un wers lawn i chi i'w defnyddio gyda disgyblion. Ar ôl pob sesiwn, cewch fynediad i sleidiau powerpoint ac adnoddau/gweithgareddau a baratowyd gan diwtoriaid Sefydliad Confucius Caerdydd.
Y pynciau a gwmpesir yn y cwrs hwn yw:
- Gwyliau Tsieineaidd I
Gŵyl cychod draig a gŵyl Qingming - Celf a chrefft Tsieineaidd
- Iechyd a lles Tsieineaidd
- Bwyd Tsieineaidd
- Gwyliau Tsieineaidd II
Gŵyl canol yr Hydref a’r flwyddyn newydd Tsieineaidd
Sylwer bod y sesiynau hyn wedi'u cynllunio fel cyflwyniad i Tsieina yn hytrach na chael ffocws ieithyddol. Mae hyn yn caniatáu i athrawon ddefnyddio'r cyflwyniadau a'r adnoddau yn annibynnol gyda'ch disgyblion, heb gymorth tiwtor Tsieinëeg.
Ynglŷn â'r trefnydd
Cardiff Confucius Institute (School of Modern Languages) sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Victoria Ucele yn ucelev@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o fanylion.