Cyflwyniad i Fandarin i athrawon ysgolion uwchradd
- Ebrill, Mai, Mehefin, Gorffennaf
- Mwy nag un diwrnod
Dyddiau Iau yn Wythnosol I 17.30-18.30 I Ar-lein (Zoom)
Rhan 1: 11 Ebrill – 23 Mai
Rhan 2: 6 Mehefin – 18 Gorffennaf (14 wythnos)
Mae'r cyrsiau rhad ac am ddim hyn ar gyfer athrawon sy'n dymuno dysgu rhywfaint o Tsieinëeg Mandarin sylfaenol. Efallai y byddwch chi’n dewis un o’r opsiynau hyn er mwyn cefnogi’ch disgyblion gyda dysgu presennol neu yn y dyfodol, neu’n syml i ddarganfod yr iaith drosoch eich hun.
Mae'r cyrsiau hefyd yn gyfle i archwilio rhai o'r adnoddau a ddefnyddir gan diwtoriaid Sefydliad Confucius mewn dosbarthiadau ysgolion uwchradd, gan roi dealltwriaeth sylfaenol i chi o'r hyn sy'n cael ei ddysgu i'ch myfyrwyr.
Gofynion mynediad / Cofrestru
Os nad ydych chi wedi cwblhau'r sesiwn Blasu ar gyfer y cwrs hwn, fe anfonwn ni bedwar sesiwn wedi'u recordio atoch chi a bydd angen i chi eu gwylio er mwyn cael lle.
Cynnydd
Ar ôl cwblhau'r cwrs Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus,, cewch gyfle i ymuno â chwrs rhan-amser Tsieinëeg i Ddechreuwyr II Prifysgol Caerdydd i oedolion o fis Medi 2024. Bydd hyn yn cael ei ariannu'n llawn gan Sefydliad Confucius Caerdydd.
Ynglŷn â'r trefnydd
Cardiff Confucius Institute (School of Modern Languages) sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Victoria Ucele yn ucelev@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o fanylion.