Sesiynau bywyd yn Tsieina am ysgolion uwchradd
- Ar gael ar gais
- Hyblyg
Cynlluniwyd i’r fideos gael eu defnyddio gan athrawon yn eu hamser eu hunain. Maen nhw hefyd yn galluogi plant ysgolion uwchradd i drin a thrafod bywyd cyfoes a thraddodiadol yn Tsieina.
Mae’r sesiynau’n ymdrin ag ystod o bynciau, gan gynnwys:
- bwyd a maeth: dysgwch sut i baratoi pryd arbennig o nwdls Tsieineaidd ... gan ddefnyddio lasagna!
- Cerddoriaeth: dewch i gael gwybod am y Pipa a gwylio arddangosiad byw
- Dylunio a thechnoleg: dysgwch sut mae pobl yn defnyddio gwahanol fathau o dechnoleg yn Tsieina fodern
- Astudiaethau’r cyfryngau: dysgwch sut mae'r ffilm Mulan 花木兰 yn adlewyrchu rhinweddau allweddol cymdeithas yn Tsieina
Bydd y fideos naill ai'n cynnwys elfen ymarferol i'r disgyblion neu’n cyflwyno gweithgaredd ychwanegol i chi ei ddefnyddio.
Ynglŷn â'r trefnydd
Cardiff Confucius Instiute sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Victoria Ucele yn ucelev@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim
Cynulleidfa
Mae angen goruchwyliaeth athrawon.