Gŵyl Flwyddyn Newydd Tsieineaidd 2024 ar gyfer ysgolion cynradd
-
Dydd Gwener 9 Chwefror 2024, 09:00 - 15:00
Ar gyfer Gŵyl y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd Ar-lein, bydd ein tiwtoriaid yn ffrydio ystod amrywiol o sesiynau rhyngweithiol yn fyw i'ch disgyblion eu mwynhau. Ymhlith y pethau y bydd y disgyblion yn eu gwneud yn y sesiynau mae dysgu caneuon Mandarin syml, dysgu pa anifail ydyn nhw yn y sidydd Tsieineaidd, torri papur a chael gwybod am opera Tsieineaidd. Bydd y disgyblion hyd yn oed yn gallu cyfathrebu â'n tiwtoriaid drwoch chi, a hynny drwy'r opsiwn sgwrsio!
A chithau’n athro, gallwch chi gofrestru i ymuno â rhai neu bob un o’r sesiynau byw gyda’ch dosbarthiadau. Fel arall, os na allwch chi gymryd rhan ar y diwrnod, gallwch chi gael y recordiadau. Byddwn ni hefyd yn anfon adnoddau a gweithgareddau ychwanegol atoch chi er mwyn i chi eu defnyddio gyda'ch disgyblion yn eich amser eich hun.
Er bod y sesiynau byw ar gyfer disgyblion ym mlynyddoedd 3 i 6 yn bennaf, byddwn ni’n anfon adnoddau/gweithgareddau at yr athrawon i’w defnyddio gyda phlant iau.
Ynglŷn â'r trefnydd
Cardiff Confucius Institute sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Victoria Ucele yn ucelev@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o fanylion.
Cynulleidfa
Mae angen goruchwyliaeth athrawon.