Gweithdy Athroniaeth, Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg
-
Dydd Llun 10 Gorffennaf 2023, 13:00 - 16:00
- Ar gael yn Gymraeg
Sesiwn 1, 13:00-13:50: Grwp Ffocws
Sesiwn ar ffurf grwp ffocws er mwyn cyfnewid a rhannu profiadau a sialensau addysgu Astudiaethau Crefyddol a Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg. Bydd ffocws penodol ar sut gall yr elfen athronyddol o’r cwricwlwm gael ei integreiddio’n fwy buddiol a gyda’r cynnwys crefydd ar y meysydd llafur TGAU a Lefel A.
Te a choffi
Sesiwn 2, 14:10-15:10: Technegau Athronyddol
Cyflwyniad i dechnegau athronyddol a sut i gymhwyso’r rhain at yr elfennau o CGM sy’n ymwneud â gwerthuso cynnwys a dadleuon o blaid ac yn erbyn safbwyntiau gwahanol, boed rheiny’n rai crefyddol, anghrefyddol, neu athronyddol.
Sesiwn 3, 15:10-1600: Sgwrs Astudiaethau Crefyddol
Sgwrs gyda darlithwyr Astudiaethau Crefyddol yn dilyn ymlaen o’r prif bwyntiau a godwyd yn y grwp ffocws. Bydd y sesiwn hwn yn canolbwyntio ar sut i integreiddio cynnwys CGM yn fwy effeithiol, er enghraifft trwy wneud mwy o ddefnydd o dechnegau naratif sy’n helpu disgyblion i gymhathu’r wybodaeth a deall ei berthnasedd yn well.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.
Ynglŷn â'r trefnydd
Philosophy Department and Religious Studies Department sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â ni yn i gael rhagor o fanylion.
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim
- ENCAP, Adeilad John Percival
- Rhodfa Colum
- Caerdydd
- CF10 3EU