Ewch i’r prif gynnwys

Cystadleuaeth Llunio Fy Stryd


    Clock outlineDydd Llun 2 Ionawr 2023, 08:00 - Dydd Gwener 28 Ebrill 2023, 17:00

Mae Ysgol Pensaernïaeth Cymru (WSA) yn cynnal cystadleuaeth Siapio Fy Stryd yn flynyddol. Cynlluniwyd y gystadleuaeth i gyflwyno dysgwyr ifanc i syniadau am y cartref, lle a chymuned.

Lansiwyd y gystadleuaeth yn 2019 gan Dr Ed Green ac mae'n gystadleuaeth ddylunio genedlaethol ar gyfer ysgolion cynradd yng Nghymru, gyda chefnogaeth y rhwydwaith STEM, Comisiwn Dylunio Cymru a Chomisiwn Cenedlaethau'r Dyfodol.

Mae cystadleuaeth Llunio Fy Stryd yn ymwneud â dyluniad ac ansawdd yn ein cymdogaethau, ac yn cyflwyno syniadau craidd am gartref, lle a'r gymuned i ddosbarthiadau o Gyfnod Allweddol 2 sy’n cymryd rhan. Mae'r fenter yn cyfuno dysgu gwyddoniaeth a thechnoleg ag ymarferion creadigol yn seiliedig ar ddylunio a gweithgareddau dysgu wedi’u strwythuro. Bydd disgyblion yn trafod pa agweddau o’r 'cartref' a’r 'stryd' sy’n creu cymdogaethau llwyddiannus.

Bwriad gweithgareddau’r gystadleuaeth yw datblygu dealltwriaeth o bwysigrwydd dylunio ac ansawdd yn yr amgylchedd adeiledig, ac i godi ymwybyddiaeth o yrfaoedd mewn diwydiannau creadigol cysylltiedig. Bwriad y gystadleuaeth yw annog plant o gynifer o ysgolion cynradd â phosibl yng Nghymru i gymryd rhan, a nod penodol y rhaglen yw annog ysgolion o leoliadau daearyddol anghysbell a chymunedau sydd dan anfantais economaidd i fod yn rhan ohono.

I gymryd rhan yn y gystadleuaeth, mae’n ofynnol neilltuo dau hanner diwrnod yn yr ysgol. Bydd yr holl adnoddau a’r deunydd ategol yn cael eu darparu ar gyfer cystadleuwyr.

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.


Ynglŷn â'r trefnydd

Welsh School of Architecture, Cardiff University sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Kelly Butt yn buttkl@caerdydd.ac.uk neu 02920 875968 i gael rhagor o fanylion.

Sut i gadw lle

This activity is organised by Welsh School of Architecture. Contact Kelly Butt at shapemystreet@cardiff.ac.uk or +44 (0)7824 703757 for more details.

Emailbuttkl@caerdydd.ac.uk


TicketMae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim

Rydym yn dod atoch chi

Rydym am ei gwneud yn hawdd i chi weithio gyda ni. Lle bynnag y bo modd, byddwn yn dod â'r gweithgaredd hwn i'ch ysgol neu'ch coleg.

Cynulleidfa

  • TickCyfnod allweddol dau - 7-11 oed, blynyddoedd 3-6

Mae angen goruchwyliaeth athrawon.


Math o weithgaredd

  • TickCystadleuaeth
  • TickGweithdy

Diben

  • TickGyrfaoedd a chyflogadwyedd
  • TickCefnogi themâu cwricwlwm
  • TickCefnogi'r rhwydwaith Seren

Rhannwch y digwyddiad hwn