Ewch i’r prif gynnwys

Darganfod Mwslimiaid ym Mhrydain ar gyfer CA3


  • CalendarAr gael ar gais
  • Clock outlineHyblyg

Dyma gyfres o adnoddau cynhwysfawr i athrawon sy'n cyflwyno Islam.

Dyma gyfres o adnoddau cynhwysfawr i athrawon sy'n cyflwyno Islam.

Er bod yr adnoddau wedi'u creu ar gyfer Addysg Grefyddol CA3, bydd y rhain o ddefnydd hefyd ar gyfer addysgu am Fwslimiaid ac Islam i oedrannau eraill ac mewn meysydd pwnc gwahanol. Datblygwyd yr adnoddau gan arbenigwyr yn y maes ac maent yn adlewyrchu'r ymchwil sy'n seiliedig ar y gwyddorau cymdeithasol a gynhaliwyd gan Ganolfan Islam y DU ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae'r adnoddau'n cynnwys naw gwers ac asesiad, sy'n canolbwyntio ar y prif gwestiwn ymchwil:

  • beth mae'n ei olygu i fod yn Fwslim ym Mhrydain heddiw?’
  • Sut gallwn ni ddeall crefydd mewn cymdeithas?
  • Beth mae Islam yn ei olygu i Fwslimiaid?
  • Sut mae Mwslimiaid yn dilyn ffynonellau crefyddol o ddoethineb ac awdurdod heddiw?
  • Sut mae Mwslimiaid yn ymarfer eu crefydd?
  • Beth yw hanes Mwslimiaid ym Mhrydain?
  • Ble lleolir cymunedau Mwslimaidd?
  • Beth yw mosg?
  • Sut mae Mwslimiaid yn mynegi eu ffydd drwy’r celfyddydau?
  • I ba raddau mae Mwslimiaid ym Mhrydain yn profi Islamoffobia?

Mae pob un o'r gwersi'n cynnwys y canlynol: Cyflwyniad PowerPoint i Athrawon; Taflen waith i ddisgyblion; Cynllun gwers; Adnoddau cysylltiedig eraill. Dyluniwyd pob gwers gyda Chyfnod Allweddol 3 uchaf mewn golwg, ac maent tua awr o hyd. I gael y profiad gorau, argraffwch yr adnoddau hyn mewn lliw. Roedd yr adnoddau addysgu'n cael eu hystyried fel gwersi ymarferol ac hefyd fel ysgogiadau ar gyfer syniadau addysgu. Rydym wedi sicrhau bod modd lawrlwytho a golygu'r adnoddau hyn yn llawn, ac maent wedi'u dylunio mewn ffordd fodiwlaidd er mwyn ei gwneud mor hyblyg a hawdd eu defnyddio â phosibl. Gan hynny, nid oes unrhyw ffordd gywir o ddefnyddio’r adnoddau hyn. Gellir eu defnyddio fel cynllun gwaith cyfan, yn unigol neu gellir cymryd elfennau allan a'u defnyddio mewn gwersi a ddyluniwyd eisoes. Rydym yn eich annog i addasu ac arbrofi gyda'r adnoddau hyn i ddiwallu anghenion eich ysgol a'ch dosbarthiadau.

Ymwadiad: Mae'r adnoddau addysgu ar hyn ar gael i'w lawrlwytho, eu golygu a'u rhannu'n rhydd, er mwyn eu gwneud mor hygyrch â phosibl i athrawon eu defnyddio. Yng Nghanolfan Islam-y DU, rydym wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn gwneud ein gorau i gefnogi Addysg Grefyddol mewn ysgolion, ac adlewyrchir yr ymrwymiad hwn yma. Fodd bynnag, rydym yn dibynnu ar gael cyllid allanol i ddatblygu'r adnoddau hyn a'u cadw'n rhad ac am ddim. Os ydych yn defnyddio'r adnoddau hyn, a hoffech i ragor o brosiectau tebyg gael eu cynnal yn y dyfodol, gofynnwn i chi roi adborth i ni y gallwn ei ddefnyddio i ddangos gwerth ac effaith y gwaith hwn. Bydd hyn yn ein helpu ni, ac eraill, i berswadio cyllidwyr posibl a sefydliadau o werth prosiectau fel hyn, sy'n annog athrawon ac academyddion i weithio gyda'i gilydd. Felly, rydym wir yn eich annog i roi gwybod i ni sut a pham rydych yn defnyddio'r adnoddau addysgu, yn ogystal â pha effaith y maent wedi'i chael ar eich addysgu/gwaith dysgu eich disgyblion.

At hynny, anogwch eraill i gael gafael ar yr adnoddau drwy'r safle hwn, ac i rannu adborth. Mae cael gafael ar yr adnoddau hyn drwy'r wefan hon yn ein galluogi i gael darlun o ba mor eang y defnyddir yr adnoddau, sy'n ein helpu i arddangos eu gwerth.

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.


Ynglŷn â'r trefnydd

Canolfan Islam y DU, Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Mark Bryant yn bryantmw@caerdydd.ac.uk neu 07738932376 i gael rhagor o fanylion.

Sut i gadw lle

Er mwyn lawrlwytho'r adnoddau addysgu llenwch yr arolwg hwn a dilynwch y ddolen a anfonwyd atoch.


TicketMae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim

Cynulleidfa

  • TickAthrawon
  • TickCyfnod allweddol dau - 7-11 oed, blynyddoedd 3-6
  • TickCyfnod allweddol tri - 11-14 oed, blynyddoedd 7-9
  • TickCyfnod allweddol pedwar - 14-16 oed, blynyddoedd 10-11
  • TickCyfnod allweddol pump - 16-18 oed, blynyddoedd 12-13
  • TickAddysg bellach

Themâu cwricwlwm

  • TickY Dyniaethau
  • TickGwyddorau Cymdeithasol

Math o weithgaredd

  • TickAdnodd ar-lein

Diben

  • TickDatblygiad proffesiynol (DPP) i athrawon

Rhannwch y digwyddiad hwn