Adnoddau Gŵyl Canol Hydref Tsieina i blant
- Ar gael ar gais
- Hyblyg

Gŵyl draddodiadol yn nwyrain a de-ddwyrain Asia yw Gŵyl Canol Hydref (中秋节; Mae Zhōngqiū Jié).
Mae traddodiad hir yn perthyn i Ŵyl Canol Hydref ymhlith pobl Tsieineaidd gan eu bod wedi bod yn dathlu'r cynhaeaf yn ystod lleuad lawn yr hydref ers cyfnod teyrnlin y Shangiaid (1600-1046 cyn oed Crist). Mae wedi bod yn ŵyl genedlaethol yn swyddogol yn Tsieina ers 2008 a hon yw’r ail ŵyl bwysicaf ar ôl y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd. A hithau’n gymdeithas amaethyddol yn y gorffennol, roedd yr ŵyl yn wreiddiol yn amser i bobl Tsieina fwynhau cynhaeaf reis a gwenith yn ogystal â bwydydd a wnaed i addoli’r lleuad. Heddiw, dyma achlysur i deuluoedd ddod at ei gilydd, a chan mai’r gred yw bod y lleuad ar ei disgleiriaf a'i mwyaf crwn yn ystod Dydd Canol Hydref, mae'r rhain yn amodau perffaith i addoli’r lleuad a mwynhau aduniadau cytûn.
Un o'r mythau mwyaf adnabyddus am Ŵyl Canol Hydref yw Chang E, duwies y lleuad yn Tsieina. Yn ôl y chwedl, cafodd gŵr Chang E, y saethwr arobryn Hou Yi, elicsir bywyd yn wobr am saethu i lawr naw o'r deg haul a oedd wedi bod yn achosi sut gymaint o wres annioddefol, gan beryglu’r boblogaeth. Ar 15 Awst ar galendr lleuadol y Tsieineaid, tra bod Yi oddi cartref, ceisiodd ei brentis Peng Meng orfodi Chang E i roi'r elicsir iddo. Gwrthododd Chang E ac yn lle hynny llyncodd hithau’r elicsir. Pan ddaeth Yi yn ôl yn nes ymlaen yn y dydd, gwelodd fod Chang E wedi hedfan i'r lleuad ar ei phen ei hun. Wedi'i syfrdanu’n llwyr, aeth ati i gynnig aberthau i'r lleuad er cof am ei wraig, a dywedir mai dyma'r rheswm pam mae pobl yn gwneud teisennau’r lleuad ac offrymau ar y 15fed diwrnod o'r wythfed mis.
Cynhelir Gŵyl Canol Hydref ar y 15fed diwrnod o'r wythfed mis yn ôl y calendr lleuadol Tsieineaidd. Yn 2021, bydd yr ŵyl yn digwydd ar ddydd Mawrth 21 Medi ac i ddathlu hyn, mae tiwtoriaid Sefydliad Confucius Caerdydd wedi paratoi rhywfaint o adnoddau ar-lein i athrawon eu defnyddio yn y dosbarth, neu i blant eu mwynhau gartref:
- Dysgwch am arferion Gŵyl Canol Hydref gyda'r fideo yma. -Gall athrawon hefyd ddefnyddio'r sleidiau yn y fideo
- Gwnewch eich llusern Gŵyl Canol Hydref eich hun -Dyluniad 1 - Dyluniad 2
- Yn ôl yr arferion traddodiadol, bydd teisennau’r lleuad, sef toes brasterog sy'n llawn ffa melys, melynwyau wedi'u halltu, cig neu gnau, yn cael eu bwyta yn ystod yr ŵyl hon. Mae natur gron teisennau’r lleuad yn symbol o’r teulu yn dod at ei gilydd yn gytûn. *Dysgwch sut i wneud teisennau’r lleuad: -teisennau’r lleuad â phum math o gnau - teisennau’r lleuad cig yn ôl arddull Su -teisennau’r lleuad â melynwyau’r hwyaden yn ôl yr arddull Gantonaidd
- Defnyddiwch becyn adnoddau'r Cyngor Prydeinig ar gyfer Gŵyl Canol Hydref.
Cliciwch yma i ddefnyddio’r adnoddau uchod.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.
Ynglŷn â'r trefnydd
Sefydliad Confucius Caerdydd sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Victoria Ucele yn ucelev@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
Lluniwyd yr adnoddau ar-lein hyn i athrawon ysgolion cynradd, canol ac uwchradd eu defnyddio gyda'u disgyblion yn y dosbarth. Gall plant eu defnyddio'n annibynnol hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu gyda phlant eraill.
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim
Cynulleidfa
Mae angen goruchwyliaeth athrawon.