Gweithgareddau Gŵyl Cychod y Ddraig 端午
- Ar gael ar gais
- Hyblyg

Gŵyl Cychod y Ddraig
Gŵyl draddodiadol bwysig yn Tsieina ac mewn llawer o wledydd Asiaidd eraill yw Gŵyl Cychod y Ddraig, 'Duanwu' neu 端午.
Dathliad yw’r ŵyl mewn gwirionedd o fywyd Qu Yuan, y bardd hynafol o Tsieina a foddodd, yn ôl y chwedl, mewn afon yn ystod cyfnod y 'Taleithiau Rhyfelgar' (rhwng tua 475 a 221 cyn y cyfnod cyffredin). Yn ôl y sôn, ar ôl i bobl leol ddarganfod beth oedd wedi digwydd, gwnaethant rasio’u cychod yn wyllt i chwilio amdano, gan ollwng swmpiau o reis i'r afon fel na fyddai pysgod yn gwledda ar ei gorff.
Dyma pam mae cymaint o rasys cychod yn cael eu cynnal yn ystod yr yr adeg hon, a pham mae teuluoedd yn gwneud ac yn bwyta 'zongzi' – math o dwmplen reis gludiog wedi'i lapio mewn dail bambŵ.
Gan y dywedir i Qu Yuan foddi ar bumed diwrnod pumed mis y calendr lleuad, cynhelir yr ŵyl bob blwyddyn ar y diwrnod hwn. Fodd bynnag, mae'r dyddiad yn newid i'r rhai ohonon ni sy'n defnyddio calendrau eraill. Felly, yn 2022, bydd yr ŵyl yn digwydd ar 3 Mehefin.
Adnoddau ar-lein
- Dewch i wybod rhagor am arferion Gŵyl Cychod y Ddraig drwy wylio’r fideo hwn sy'n cynnwys:
- cyflwyniad i'r hyn y mae pobl ar dir mawr Tsieina yn ei wneud yn ystod yr amser hwn
- y stori go iawn y tu ôl i'r ŵyl hon
- y gêm 'wyau ar eu sefyll am hanner dydd'
- Mwynhewch wneud eich cwch draig eich hun.
- Dysgwch sut i wneud zongzi, sef twmplenni reis traddodiadol.
Fideos o Diwrnod Gweithgareddau Gŵyl Cychod y Ddraig
Ar 27 Mai 2022, fe wnaeth disgyblion fwynhau sesiynau rhyngweithiol byw ar-lein gyda thiwtoriaid Sefydliad Confucius Caerdydd yn ein Diwrnod Gweithgareddau Gŵyl Cychod y Ddraig.
Mewn sesiynau arbennig, dysgodd y plant am darddiad y digwyddiad; dysgu geiriau Mandarin ac ymadroddion sy'n gysylltiedig â'r ŵyl; dysgu beth mae pobl Tsieineaidd yn ei fwyta; a gwneud papur 'zongzi' (twmplenni reis wedi'u lapio)!
Fideos o'r sesiynau:
I weld yr holl fideos ewch i'n rhestr chwarae YouTube Gŵyl Cychod y Ddraig 2022.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.
Ynglŷn â'r trefnydd
Sefydliad Confucius Caerdydd sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Victoria Ucele yn confucius@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
Gall disgyblion ysgol wneud y gweithgareddau ar-lein hyn ar gyfer Gŵyl Cychod y Ddraig naill ai yn yr ystafell ddosbarth, gartref gyda'r teulu neu ar eu pennau eu hunain.
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim
Cynulleidfa
Mae angen goruchwyliaeth athrawon.