Ewch i’r prif gynnwys

Cefnogaeth yn yr ystafell ddosbarth gan fyfyrwyr sy’n gwirfoddoli


  • CalendarAr gael ar gais
  • Clock outlineHyblyg

Mae ein gwirfoddolwyr sy’n fyfyrwyr ar gael i gynnig cefnogaeth ystafell ddosbarth i ysgolion cynradd ac uwchradd. Hefyd, gallwn gefnogi disgyblion 16+oed i ymgymryd â chyfleoedd gwirfoddoli.

Gwirfoddoli mewn ysgol gynradd

Ar hyn o bryd, mae ein gwirfoddolwyr yn cefnogi chwe ysgol gynradd leol ac rydym am sefydlu partneriaethau â mwy o ysgolion.

Gallwch ofyn i fyfyrwyr sy’n gwirfoddoli gefnogi ystod eang o weithgareddau, er enghraifft:

  • gwrando ar ddarllenwyr
  • helpu gyda gwaith grŵp
  • helpu i hwyluso chwarae yn ystod amserau cinio’r ysgol.

Mae gwirfoddolwyr am gael cipolwg ar amgylchedd yr ystafell ddosbarth a chwricwlwm yr ysgol gynradd.

Cynhelir y prosiect hwn o fis Medi tan fis Gorffennaf.

Gwirfoddoli mewn ysgol uwchradd

Ar hyn o bryd mae ein myfyrwyr sy’n gwirfoddoli’n gweithio gyda nifer o ysgolion uwchradd lleol i gynnig cymorth yn yr ystafell ddosbarth. Rydym am gydweithio â rhagor o ysgolion.

Mae’r gwirfoddolwyr yn cefnogi disgyblion all fod angen mwy o gymorth arnynt gydag adolygu ar gyfer TGAU Saesneg, Mathemateg, Celf neu Ffotograffiaeth. Hefyd, gallant eich helpu gyda chefnogaeth gyffredinol yn yr ystafell ddosbarth ac o gwmpas yr ysgol.

Rydym wedi sefydlu cynlluniau mwy penodol gyda rhai o’r ysgolion yr ydym yn gweithio gyda nhw. Er enghraifft, mae ein Cynllun Llythrennedd a Rhifedd i Blant (CLANS) yn cynnig cefnogaeth un-i-un i ddisgyblion ysgol uwchradd drwy sesiynau darllen mewn parau a chefnogaeth gyda mathemateg. Mae disgyblion sydd angen help i wella eu darllen a’u llythrennedd wir wedi elwa ar y cyfle hwn i gael cefnogaeth ychwanegol.

Mae gwirfoddolwyr sy’n fyfyrwyr yn astudio amrywiaeth o bynciau gradd ac yn dod o wahanol gefndiroedd Safon Uwch a TGAU.

Cynhelir y prosiect hwn o fis Medi tan fis Gorffennaf.

Codi Gwên

Mae pob plentyn yn haeddu plentyndod ac rydym yn deall y gall salwch neu anabledd wneud hyn yn anodd iawn i rai plant. Mae Codi Gwên yn brosiect sy’n gobeithio helpu. Gall unrhyw fyfyriwr prifysgol neu ddisgybl chweched dosbarth wirfoddoli drwy:

  • ymweld ag ysbytai
  • siarad mewn digwyddiadau mawr
  • siarad mewn digwyddiadau cymunedol
  • cynnal digwyddiadau codi arian
  • digwyddiadau gyda phobl hŷn
  • darllen o lyfrau
  • celf a chrefft
  • ymweliadau unigol fel cymeriadau.

Mae gwirfoddolwyr yn broffesiynol, yn cynllunio ac wedi cael hyfforddiant da, ond hwyl yw’r brif flaenoriaeth i’r plant a’r gwirfoddolwyr. Mae gwirfoddolwyr yn gwisgo fel cymeriadau Disney neu ddewiniaid ac yn mynd i ddigwyddiadau ac yn cynnal dosbarthiadau.

Mae gwirfoddolwyr yn cael goruchwyliaeth agos yn ystod cyfnod prawf 20 awr pan fyddant yn cael cefnogaeth ac adborth. Mae ein holl wirfoddolwyr yn mynd drwy wiriad DBS a hyfforddiant mewn astudiaethau cymeriad a gweithio gyda phlant. Hefyd, maent yn cael cynnig i gael hyfforddiant yn Iaith Arwyddion Prydain, ymwybyddiaeth o awtistiaeth, cyfrinachedd, cyfathrebu di-eiriau, chwarae’n fyrfyfyr a rhagor.

Mae hwn yn gyfle gwych i unrhyw un sy’n 16+ mlwydd oed ac a hoffai gael profiad o weithio gyda phlant sydd ag anghenion ychwanegol. Hefyd, mae’n gyfle cyffrous i ysgolion gyflwyno cyfleoedd diogel a hanfodol i blant chwarae, na allent fod wedi cael y cyfleoedd hyn fel arall.

Mae sefydlydd a phrif wirfoddolwr Codi Gwên, Luke, wedi ennill Gwobr y Prif Weinidog, Pwynt o Olau, am ei ymdrechion gyda Chodi Gwên. Daeth y prosiect yn drydydd yn Whatuni hefyd? Gwobrau dewis yng nghategori rhoi’n ôl. Hefyd, mae’r prosiect wedi ennill gwobrau gan Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd am gyfraniad ardderchog a’r prosiect newydd gorau.

Dysgwch fwy am Godi Gwên.

Amdanom ni

Gwirfoddoli Caerdydd yw elusen fewnol Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Ein nod yw rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr a’r gymuned leol weithio gyda’i gilydd i gyflwyno’r cyfleoedd gorau i’r ardal.

Mae gennym dros 30 o brosiectau gwirfoddoli mewn canolfannau cymunedol, ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd, canolfannau chwarae, parciau, camlesi a rhandiroedd.

Rydym yn cydlynu sawl prosiect ar gyfer disgyblion ysgol rhwng 4 a 18 oed, a gallwn ddarparu gwiriadau DBS i’n myfyrwyr cyn iddynt ddechrau gwirfoddoli.

Gellir cynnal prosiectau, digwyddiadau a gweithgareddau mewn ysgolion, hostelau, ysbytai a chanolfannau cymunedol. Mae cymryd rhan yn ein holl brosiectau’n rhad ac am ddim.

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.


Ynglŷn â'r trefnydd

Gwirfoddoli Caerdydd sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Hannah Snape or Lauren Dovey yn volunteering@caerdydd.ac.uk neu +44 (0)29 2078 1419 i gael rhagor o fanylion.

Sut i gadw lle

Cysylltwch â ni i ddysgu mwy am sefydlu partneriaeth wirfoddoli neu drefnu rhywbeth gyda Chodi Gwên.


TicketMae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim

Rydym yn dod atoch chi

Rydym am ei gwneud yn hawdd i chi weithio gyda ni. Lle bynnag y bo modd, byddwn yn dod â'r gweithgaredd hwn i'ch ysgol neu'ch coleg.

Cynulleidfa

  • TickSylfaen - 3-7 oed, blwyddyn sylfaen 2
  • TickCyfnod allweddol dau - 7-11 oed, blynyddoedd 3-6
  • TickCyfnod allweddol tri - 11-14 oed, blynyddoedd 7-9
  • TickCyfnod allweddol pedwar - 14-16 oed, blynyddoedd 10-11
  • TickCyfnod allweddol pump - 16-18 oed, blynyddoedd 12-13

Themâu cwricwlwm

  • TickCelfyddydau mynegiannol
  • TickIechyd a lles
  • TickY Dyniaethau
  • TickIeithoedd, llythrennedd a chyfathrebu
  • TickMathemateg a rhifedd
  • TickGwyddoniaeth a thechnoleg
  • TickGwyddorau bywyd
  • TickGwyddorau Cymdeithasol
  • TickCymraeg
  • TickCymhwysedd digidol
  • TickGyrfaoedd a chyflogadwyedd
  • TickAllgyrsiol

Math o weithgaredd

  • TickGweithgaredd
  • TickDigwyddiad
  • TickProfiad preswyl
  • TickSioe deithiol
  • TickCefnogaeth gan fyfyriwr y Brifysgol
  • TickProfiad gwaith
  • TickGweithdy

Diben

  • TickGyrfaoedd a chyflogadwyedd
  • TickEhangu cyfranogiad yn y brifysgol

Rhannwch y digwyddiad hwn