Ewch i’r prif gynnwys

Dyfodol Hyderus


  • CalendarIonawr, Chwefror, Mawrth, Ebrill, Gorffennaf, Hydref, Tachwedd, Rhagfyr
  • Clock outlineHyd at 2 awr

Mae'r prosiect hwn ar gael i blant sy'n derbyn gofal a phobl ifanc 14 oed a hŷn sy’n gadael gofal ac sy'n byw yn ne-ddwyrain Cymru.

Bydd pobl ifanc sy'n ymuno â'r prosiect yn cael cyfle i gyfarfod yn rheolaidd â myfyrwyr presennol y Brifysgol sy'n gweithredu fel mentoriaid. Bydd y bobl ifanc yn cymryd rhan yn y canlynol:

  • diwrnodau blas ar y brifysgol
  • gweithdai i gefnogi eu hastudiaethau a’u ceisiadau i’r coleg, prifysgol a gwaith
  • nosweithiau cymdeithasol (megis ffilm neu noson gemau)
  • teithiau grŵp (mae disgyblion wedi mynd i’r theatr, bowlio deg a Gŵyl y Gaeaf Caerdydd yn y gorffennol).

Caiff y rhai hynny sy’n ymuno â’r prosiect hefyd eu gwahodd i Ysgol Breswyl Haf Dyfodol Hyderus i gael profiad o fywyd myfyriwr yn y brifysgol.

Cynhelir y prosiect bob mis o fis Hydref i’r Pasg ar hyn o bryd, ond mae’n cael ei ddatblygu ac yn debygol o newid. Cynhelir yr Ysgol Breswyl Haf ym mis Gorffennaf.

Rydym yn ailddatblygu’r rhaglen Dyfodol Hyderus ar hyn o bryd, ac efallai y bydd rhai o’r manylion hyn yn newid.

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.


Ynglŷn â'r trefnydd

First Campus, Tîm Ehangu Cyfranogiad, yr Adran Cyfathrebu a Marchnata sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â ni yn firstcampus@southwales.ac.uk i gael rhagor o fanylion.

Sut i gadw lle

Anfonwch ebost atom i gael mwy o wybodaeth a chadw lle.

Emailfirstcampus@southwales.ac.uk


TicketMae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim

  • Lleoliad i'w gadarnhau.

Cynulleidfa

  • TickCyfnod allweddol pedwar - 14-16 oed, blynyddoedd 10-11
  • TickCyfnod allweddol pump - 16-18 oed, blynyddoedd 12-13
  • TickAddysg bellach

Themâu cwricwlwm

  • TickCelfyddydau mynegiannol
  • TickIechyd a lles
  • TickY Dyniaethau
  • TickIeithoedd, llythrennedd a chyfathrebu
  • TickMathemateg a rhifedd
  • TickGwyddoniaeth a thechnoleg
  • TickGwyddorau bywyd
  • TickGwyddorau Cymdeithasol
  • TickCymhwysedd digidol
  • TickGyrfaoedd a chyflogadwyedd

Math o weithgaredd

  • TickMentora
  • TickProfiad preswyl
  • TickCefnogaeth gan fyfyriwr y Brifysgol

Diben

  • TickEhangu cyfranogiad yn y brifysgol

Rhannwch y digwyddiad hwn


Partneriaid

  • First Campus