Esgyrn ac Organau
- Ar gael ar gais
- Hyd at 2 awr
Nod ein gweithgaredd Esgyrn ac Organau yw addysgu disgyblion am leoliad organau a’u swyddogaeth.
Rhennir y gweithgaredd i ddwy ran. Mae’r rhan gyntaf yn cynnwys lleoliad organau ac mae’r ail ran yn ymwneud â maint, gan ddefnyddio propiau i ddyfalu pa mor hir yw coluddyn yn y corff, pa mor drwm yw ymennydd a faint o groen sy’n gorchuddio corff maint plentyn.
Rydym yn gallu cynnal y gweithgaredd hwn mewn amryw o leoliadau. Rydym yn hapus i ddod i’ch ysgol, digwyddiad yn y gymuned neu siarad â chi am drefnu i ymweld â Phrifysgol Caerdydd.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.
Ynglŷn â'r trefnydd
Athrofa Peirianneg a Thrwsio Meinweoedd Caerdydd sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Amy Smith yn citer@caerdydd.ac.uk neu +44 (0)29 2087 0129 i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
Gallwn gynnal y gweithgaredd hwn mewn amryw o leoliadau ar gyfer ysgolion neu ddigwyddiadau cymunedol. Anfonwch ebost atom gyda’ch ymholiad.
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim
Rydym yn dod atoch chi
Rydym am ei gwneud yn hawdd i chi weithio gyda ni. Lle bynnag y bo modd, byddwn yn dod â'r gweithgaredd hwn i'ch ysgol neu'ch coleg.
Cynulleidfa
Mae angen goruchwyliaeth athrawon.