Ewch i’r prif gynnwys

Beth yw presgripsiynu cymdeithasol gwyrdd?

Nod presgripsiynu cymdeithasol gwyrdd yw gwella iechyd a lles pobl drwy weithgareddau ac ymyriadau sy'n seiliedig ar fyd natur.

Presgripsiynu cymdeithasol

Math o bresgripsiynu cymdeithasol yw presgripsiynu cymdeithasol gwyrdd. Nod presgripsiynu cymdeithasol yw cysylltu pobl â ffyrdd o gael gafael ar gymorth ymarferol, cymdeithasol ac emosiynol yn eu cymuned leol.

Mae hyn yn golygu cysylltu pobl â rhaglenni anghlinigol yn y gymuned i wella eu hiechyd a’u lles, megis grwpiau sy’n canolbwyntio ar weithgareddau corfforol a chyngor ar fwyta'n iach, cyngor am dai a dyledion, grwpiau cymdeithasol a'r celfyddydau.

Presgripsiynu cymdeithasol gwyrdd

Nod presgripsiynu cymdeithasol gwyrdd yw cysylltu pobl â gweithgareddau ac ymyriadau lleol sy'n seiliedig ar fyd natur i wella eu hiechyd a’u lles. Ymhlith y gweithgareddau y mae: cynlluniau cerdded at ddibenion iechyd, rhedeg o amgylch y parc, garddio cymunedol, rhaglenni tyfu bwyd, gwirfoddoli cadwraeth, gweithgareddau celfyddydol a diwylliannol.

Dangoswyd bod lleoedd gwyrdd megis parciau, coedwigoedd a gerddi yn cael cryn effaith gadarnhaol ar les corfforol a meddyliol, gan hyrwyddo gwytnwch, y teimlad o berthyn cymdeithasol a’r cysylltiad â byd natur. Drwy wella gallu pobl i ymgymryd â gweithgareddau sy'n seiliedig ar fyd natur, mae presgripsiynu cymdeithasol gwyrdd yn cynnig manteision ychwanegol, sef treulio amser yng nghanol byd natur er mwyn cefnogi eu hiechyd a’u lles.

Ein prosiectau

A group of people at the Cynon Valley Organic Adventures site

Presgripsiynu cymdeithasol gwyrdd yng Nghwm Cynon

Rydyn ni’n gweithio gydag Anturiaethau Organig Cwm Cynon i wella iechyd a lles pobl drwy eu cysylltu â byd natur.

More projects

From supporting NHS staff and patients to inspiring school pupils, we're helping our communities improve their wellbeing through connecting with nature.