Ewch i’r prif gynnwys

Defnyddio geneteg i ddod o hyd i'r targedau gorau ar gyfer trin clefyd Huntington

Trosolwg

Mae clefyd Huntington (HD) yn glefyd niwroddirywiol prin, etifeddol sy'n achosi marwolaeth celloedd yn yr ymennydd. Mae gan bobl sydd â chlefyd Huntington symudiadau afreolus, problemau gyda meddwl a threfnu ac weithiau newidiadau personoliaeth pan fyddant yn datblygu’r clefyd ac nid oes iachâd ar gael.

Er mwyn helpu i chwilio am driniaethau, rydym wedi bod yn chwilio am ffactorau genetig sy'n newid yr oedran pan fydd clefyd Huntington yn datblygu. Gallai mynd i'r afael â'r targedau genetig hynny y gwyddys eu bod yn peri i’r clefyd ddatblygu’n gynharach ein helpu i drin y clefyd mewn pobl i ohirio’i ddatblygiad.

Newspaper clipping of George Huntington's 'On Chorea' article from 1872
The first thorough description of the disease was by George Huntington in 1872.

Cefndir

Achosir clefyd Huntington gan ailadrodd CAG estynedig yn y gennyn huntingtin. Mae’r ailadrodd hwn yn digwydd yng ngennyn huntingtin pawb, ond yn achos y rhan fwyaf o bobl, mae’n cynnwys 35 CAG neu lai - pan fydd clefyd Huntington ar bobl, ehangir yr ailadrodd i 36 neu fwy o CAGs.

Nid ydym yn deall sut mae hyn yn achosi clefyd ond rydym yn gwybod bod yr ehangiad hwn yn cynhyrchu cynnyrch protein o'r gennyn sydd â llwybr hirfaith o'r asid amino glwtamin. Mae hyn yn gwneud protein huntingtin yn ludiog ac mae'n ffurfio agregau, y tu mewn i gelloedd yn yr ymennydd, yr ymddengys eu bod yn gysylltiedig â cholli celloedd yr ymennydd sy'n achosi symptomau'r afiechyd.

Fodd bynnag, mae'r digwyddiadau moleciwlaidd sy'n arwain at farwolaeth celloedd yn dal yn aneglur. Rydym yn defnyddio geneteg i geisio darganfod beth yw'r digwyddiadau hynny er mwyn gallu ymyrryd i drin y clefyd.

Dull yr ymchwil

Fel rhan o gydweithrediad rhyngwladol mawr, rydym wedi dadansoddi genom cyfan cleifion clefyd Huntington sydd wedi cyfrannu at lawer o astudiaethau mewn sawl gwlad yn ystod y degawdau diwethaf. Mae ein hastudiaethau cyfredol wedi archwilio DNA o fwy na 6000 o bobl ac wedi canfod sawl rhan o'r genom sy'n gysylltiedig â newid oedran datblygiad clefyd Huntington.  Mae'r rhanbarthau hyn yn awgrymu y gall llwybrau biolegol sy'n ymwneud ag atgyweirio a manipwleiddio DNA mewn celloedd fod yn gysylltiedig â newid oedran datblygiad clefyd Huntington.

Mae'r wybodaeth hon yn ein helpu i sefydlu arbrofion newydd i ddeall y moleciwlau a'r mecanweithiau a amlygwyd. Gallwn gynhyrchu modelau newydd a cheisio newid y prosesau sydd ymhlyg yn yr astudiaeth gan ddefnyddio cyffuriau a chyfansoddion sydd eisoes ar gael mewn systemau arbrofol presennol a newydd.

Canlyniad arfaethedig

Bydd canlyniad y gwaith hwn o bosibl yn darparu targedau therapiwtig y gellir cynhyrchu triniaethau newydd yn eu herbyn, gan helpu, yn y pen draw, i arafu neu atal clefyd Huntington mewn pobl.