Ewch i’r prif gynnwys

Clefyd Huntington

mri scans and hand with pen

Ni yw un o'r canolfannau mwyaf blaenllaw yn y Deyrnas Unedig ar gyfer ymchwil i glefyd Huntington.

Mae dod â chlinigwyr ac academyddion blaenllaw o bob rhan o Gymru ynghyd yn ein galluogi i gynnal ymchwil o safon fyd-eang a darparu cyngor a gofal clinigol arbenigol.

Beth yw clefyd Huntington?

Cyflwr etifeddol yw clefyd Huntington sy'n niweidio celloedd nerfol yn yr ymennydd.

Mae’n gyflwr dirywiol, felly mae’r niwed y mae’n ei wneud i’r ymennydd yn gwaethygu’n raddol dros amser a gall effeithio ar symudiad, gwybyddiaeth (canfyddiad, ymwybyddiaeth, meddwl, barn) ac ymddygiad.

Ein hymchwil

Mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar ddod o hyd i therapïau ar gyfer clefyd Huntington. Rydym yn defnyddio dau brif ddull i wneud hyn.

Rydym yn ymchwilio i therapi amnewid celloedd ar gyfer clefyd Huntington gan ddefnyddio dull amlddisgyblaethol sy'n cynnwys seicoleg ymddygiad, bioleg ddatblygiadol, bioleg celloedd a bôn-gelloedd, geneteg ac imiwnoleg. Mae’n bosib y gall y therapïau hyn hefyd helpu pobl y mae clefyd Parkinson a strôc wedi effeithio arnynt. Rydym hefyd yn ymchwilio i ffactorau genetig sy'n gohirio dyfodiad afiechyd i dynnu sylw at lwybrau a rhwydweithiau biolegol y gellir eu targedu i ohirio'r clefyd.

Rydym hefyd yn ymchwilio i amrywiadau genynnau sy'n modiwleiddio oedran cychwyniad a dilyniant clefyd Huntington. Mae'r rhain yn rhoi cliwiau ynghylch pa lwybrau biolegol ddylai fod yn dargedau ar gyfer therapïau cyffuriau yn y clefyd. Maen nhw wedi datgelu bod llwybrau sy'n gweithredu i atgyweirio DNA sydd wedi'i ddifrodi yn dargedau pwysig ar gyfer ymchwiliad.

Gweithio gyda chleifion a pherthnasau

Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda chleifion clefyd Huntington a'u teuluoedd i wella cefnogaeth a darpariaeth gwasanaeth, cynyddu ymwybyddiaeth ac annog cyfranogiad mewn ymchwil.

Yn benodol, ein nod yw helpu i fynd i’r afael â materion gan gynnwys:

  • Pryderon am risg posib
  • Rheoli pobl sydd â chlefyd Huntington datblygedig
  • Cwestiynau am gymryd rhan mewn ymchwil

Rydym hefyd yn rhedeg Grŵp Cynnwys Pobl clefyd Huntington Cymru, sy'n cynnwys pobl â'r clefyd, eu teuluoedd a'u gofalwyr ac sy'n gweithio i wella ymchwil, cyfathrebu a hyfforddiant. Fe’i cefnogir gan Cynnwys Pobl, sefydliad sy’n gweithio i gefnogi ac annog cyfranogiad gweithredol cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.