Ewch i’r prif gynnwys

Qualitative Research Group

Mae Grŵp Ymchwil Ansoddol (QRG) CTR yn grŵp o ymchwilwyr iechyd a gofal cymdeithasol ansoddol profiadol o gefndiroedd amrywiol gan gynnwys cymdeithaseg a seicoleg.

Grŵp Ymchwil Ansoddol (QRG)

Mae gennym arbenigedd yn y canlynol:

  1. Gwerthusiadau o brosesau ymyriadau cymhleth
  2. Gweithredu ac addasu ymyriadau
  3. Astudiaethau ansoddol annibynnol (yn arbennig mynd i'r afael â phrofiadau poblogaethau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu'n ddigonol)
  4. Dulliau a damcaniaeth
  5. Optimeiddio dulliau treialon (e.e. heriau ac atebion recriwtio)

Rydym yn gweithio’n genedlaethol ac yn rhyngwladol o fewn timau rhyngddisgyblaethol, gan weithio ochr yn ochr â’r claf ac ymchwilwyr cyhoeddus, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol, ystadegwyr, ac economegwyr iechyd i gynnal ymchwil dulliau cymysg. Mae gennym hanes rhagorol o sicrhau cyllid gan gyllidwyr blaenllaw gan gynnwys NIHR, MRC a HCRW. Mae gennym brofiad helaeth o oruchwylio myfyrwyr PhD a diddordeb mewn goruchwylio myfyrwyr newydd.

Mae'r tîm bob amser yn awyddus i weithio gyda chydweithredwyr newydd. Cysylltwch ag Arweinydd y Grŵp Ymchwil Ansoddol am drafodaeth anffurfiol Dr Lucy Brookes-Howell, CTR-Qualitative@caerdydd.ac.uk.

Dulliau ymchwil ansoddol

Mae cynnal gwaith ymchwil gan ddefnyddio dulliau ansoddol yn ein galluogi i blymio’n ddwfn a threiddio dan yr wyneb. Drwy wneud hynny, rydyn ni’n gallu canolbwyntio'n fwy agos ar y cwestiynau 'sut' a 'pam' sy'n ymwneud â threialon ymchwil, gan drin a thrafod safbwyntiau’r unigolion hynny sy’n cymryd rhan mewn ymchwil o’r fath. Er mwyn inni allu casglu’r math o wybodaeth sydd ei hangen arnom i fynd ati i wneud hyn, rydyn ni’n defnyddio ystod eang o ddulliau casglu data, ac yn eu plith mae’r canlynol:

  • arsylwadau, wedi’u cynnal fel un sy’n cymryd rhan neu’n arsylwi yn unig
  • cyfweliadau, naill ai dros y ffôn neu wyneb yn wyneb, a chan ddefnyddio dulliau gweledol o bryd i’w gilydd
  • trafodaeth grŵp ffocws
  • rhyngweithiadau sain neu fideo sydd wedi'u recordio
  • dyddiaduron, blogiau a chyfraniadau mewn fforwm
  • trafodaeth gyhoeddus, ar y teledu neu’r radio, mewn papurau newydd a chylchgronau, neu ddogfennau polisi

Gellir dadansoddi data ansoddol mewn amryw o ffyrdd, lle mae’r dull penodol yn dibynnu ar nod yr astudiaeth a'r cwestiynau ymchwil penodol yr ydym yn ceisio eu hateb. Isod, ceir detholiad bach o'r dulliau sy’n cael eu defnyddio mewn treialon ac astudiaethau cyfredol yn y Ganolfan Treialon Ymchwil:

  • dadansoddi cynnwys
  • dadansoddi fframweithiau
  • theori sylfaenol
  • dadansoddi naratif
  • dadansoddi disgwrs

Yn aml, mae'r rhain yn cael eu cyfuno â dadansoddi data meintiol yn rhan o’r un astudiaeth, gan ddefnyddio dulliau cymysg.

Manteision defnyddio dulliau ansoddol

Rydym yn defnyddio dulliau ansoddol mewn treialon oherwydd eu bod yn caniatáu inni “gyrraedd y rhannau na all dulliau eraill eu cyrraedd” (Pope a Mays 1995). Gallant ein helpu i fynd i'r afael â chwestiynau nad ydynt yn hawdd neu nad ydynt yn cael eu hateb yn gyfan gwbl drwy ddulliau meintiol.

Gall dulliau ansoddol wella, ymhelaethu neu egluro canfyddiadau treialon a’n helpu i fynd i’r afael â chwestiynau sy’n ymwneud â materion megis:

  • canlyniadau treial sy’n anarferol neu’n annisgwyl
  • cyfranogwyr yn gwrthod cofrestru mewn treial
  • cyfranogwyr yn tynnu'n ôl ei ganiatâd yn gynnar yn ystod y treial
  • diffyg cydymffurfio â’r fethodoleg dreialon ymchwil

Pan gânt eu defnyddio wrth werthuso’r broses ymchwil, maent yn ein galluogi i ddatblygu darlun mwy cyflawn o'r hyn a ddigwyddodd yn ystod y treial, gan gyfoethogi ein dealltwriaeth ac yn gwneud y treialon ymchwil yn fwy credadwy.

Cyflwyniad cyflym i’n gwaith

1. Gwerthusiadau o Brosesau Ymyriadau Cymhleth

Hyder mewn Gofal

Profodd y Gwerthusiad Hyder mewn Gofal (CiC) p’un ai a oedd y cwrs hyfforddi 'Maethu Newidiadau' ar gyfer gofalwyr maeth a gofalwyr sy'n berthnasau wedi sicrhau canlyniadau gwell na chymorth a chyngor safonol. Cynhaliwyd gwerthusiad proses ansoddol o'r rhaglen Maethu Newidiadau i wella dealltwriaeth o ganlyniadau treialon, ac i bennu model rhesymeg Maethu Newidiadau, gan nodi mecanweithiau effaith posibl.

Darllenwch ragor: S Channon et al. 2020. Qualitative process evaluation of the Fostering Changes program for foster carers as part of the Confidence in Care randomized controlled trial Child Abuse and Neglect 109, rhif erthygl: 104768.

2. Gweithredu ac addasu ymyriadau

PUMA

Gyda'r nod o wella'r gwaith o ganfod dirywiad mewn cleifion ysbyty pediatrig, cynhyrchodd yr Astudiaeth PUMA, a gomisiynwyd gan NIHR, raglen wella sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac sydd wedi’i hysbysu gan wybodaeth ddamcaniaethol ar gyfer systemau rhybuddio pediatrig (Y Rhaglen PUMA) i'w defnyddio mewn lleoliadau pediatrig acíwt. Tynnodd yr astudiaeth yn ganolog ar ddulliau ansoddol: defnyddiwyd arsylwadau ethnograffig o arferion clinigol a chyfweliadau â staff a rhieni i lywio datblygiad theori ac ymyrraeth, gwerthuso effaith y rhaglen ar arfer clinigol ar draws pedwar safle’r astudiaeth, a chynhyrchu gwerthusiad o brosesau’r astudiaeth. Defnyddiwyd canfyddiadau ansoddol ymhellach i lywio dadansoddiad meintiol (cyfres amser gydag ymyriad).

Darllenwch ragor: D Allen et al. 2022. Development, implementation and evaluation of an evidence-based paediatric early warning system improvement programme: the PUMA mixed methods study BMC Health Services Research 22(1), rhif erthygl: 9. (10.1186/s12913-021-07314-2)

ADAPT

Buom yn gweithio ar yr Astudiaeth ADAPT i roi arweiniad ar sut i addasu a throsglwyddo ymyriadau presennol i gyd-destunau newydd, e.e. system gofal iechyd newydd, neu i wella effaith ar gyfer is-grwpiau o’r boblogaeth.

Darllenwch ragor: G Moore et al. 2021. Adapting interventions to new context - the ADAPT guidance The BMJ 374, rhif erthygl: n1679. (10.1136/bmj.n1679)

3. Astudiaethau ansoddol yn deall profiadau poblogaethau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu'n ddigonol

SenITA

Roedd yr Astudiaeth SenITA yn canolbwyntio ar blant ag awtistiaeth ac anawsterau prosesu’r synhwyrau (SPD), gan edrych ar effeithiolrwydd clinigol therapi integreiddio’r synhwyrau. Fel rhan o’r astudiaeth hon, defnyddiwyd cyfweliadau lled-strwythuredig wedi’u cefnogi gan linell amser gyda rhieni/gofalwyr i archwilio eu profiadau o gymorth i deuluoedd plant ag awtistiaeth ac SPD a’u mynediad at y cymorth hwn.

Darllenwch ragor: S Milosevic et al. 2022. Understanding the support experiences of families of children with autism and sensory processing difficulties: A qualitative study Health Expectations 25 (3) , tud. 1118-1130. 10.1111/hex.13465

PHACT

Mae’r Treial PHACT yn canolbwyntio ar gael pobl i mewn i dai sefydlog a gwella iechyd pobl sy'n gadael y carchar. Mae’n defnyddio cyfweliadau â chyfranogwyr, staff carchardai a staff ymyrraeth i ddeall profiadau o gymryd rhan yn y treial.

Darllenwch ragor: PHaCT Trial Preventing Homelessness, improving health for people leaving prison: a pilot randomised controlled trial of a Critical Time intervention

4. Dulliau a damcaniaeth

PEACH

Datblygodd yr astudiaeth PEACH brotocol triongli wedi’i arwain gan bobl, gyda chynrychiolydd cleifion a’r cyhoedd, clinigwyr, ymchwilwyr ansoddol, ac ystadegwyr yr astudiaeth i integreiddio canlyniadau ansoddol a meintiol ar sut y dylanwadodd marciwr haint prawf gwaed ar y defnydd o wrthfiotigau mewn Gofal Brys yn ystod y pandemig COVID.

Darllenwch ragor: Euden, J. et al. 2022. Procalcitonin evaluation of antibiotic use in COVID-19 hospitalised patients (PEACH): protocol for a retrospective observational study. Methods and Protocols 5(6), rhif erthygl: 95. (10.3390/mps5060095)

Prosiect SFP Cymru

Defnyddiodd y Gwerthusiad Prosesau ar gyfer y Rhaglen Cryfhau Teuluoedd Theori Prosesau Normaleiddio Estynedig i archwilio sut roedd yr ymyriad yn rhyngweithio â systemau darparu lleol i ddylanwadu ar y gwaith o gyflawni’r rhaglen, y dos, recriwtio a chyrhaeddiad.

Darllenwch ragor: Segrott, J. et al. 2017. An application of Extended Normalisation Process Theory in a randomised controlled trial of a complex social intervention: process evaluation of the Strengthening Families Programme (10-14) in Wales, UK. SSM - Population Health 3, tud. 255-265. (10.1016/j.ssmph.2017.01.002)

5. Optimeiddio dulliau treialon

Trafod Treialon

Daeth y prosiect Trafod Treialon â grŵp o gyd-ymchwilwyr o gefndiroedd ethnig amrywiol ynghyd i drafod ymchwil iechyd a threialon clinigol. Gan gyfuno dull democrataidd ymgynghorol â methodoleg celfyddyd gyfranogol, datblygodd y grŵp set o ganllawiau ymarferol i fynd i’r afael â thangynrychiolaeth pobl o gymunedau ethnig leiafrifol mewn treialon a newid arferion o fewn yr uned treialon clinigol.

Darllenwch ragor: Trafod Treialon

ABACus3

Profodd y treial ABACus 3 effeithiolrwydd ymyriad ymwybyddiaeth canser ar gyfer oedolion sy'n byw mewn cymunedau difreintiedig mewn lleoliadau gofal iechyd a chymunedol. Gan gydnabod bod recriwtio cyfranogwyr ymchwil yn arwain at heriau penodol o fewn ardaloedd difreintiedig o safbwynt economaidd-gymdeithasol, gwnaethom nodi ystod o strategaethau a lwyddodd i ymgysylltu â sefydliadau a thrigolion lleol. Roedd y rhain yn cynnwys recriwtio yn y gymuned, cysylltu ag unigolion lleol dylanwadol, a defnyddio dull gweithredu dilynol personoledig.

Darllenwch ragor: V Kolovou et al. 2020. Recruitment and retention of participants from socioeconomically deprived communities: lessons from the awareness and beliefs about cancer (ABACus3) randomised controlled trial. BMC Med Res Methodology 20, 272 (10.1186/s12874-020-01149-x)

CONSULT

Fel rhan o CONSULT, cynhaliom gyfweliadau ag ymchwilwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i nodi rhwystrau a ffactorau hwyluso i gynnal treialon yn cynnwys oedolion heb y galluedd i gydsynio. Cynhyrchwyd nifer o argymhellion gennym o ran ymarfer ymchwil ac ymchwil yn y dyfodol wedi’u hanelu at gyllidwyr, pwyllgorau moeseg ymchwil, arweinwyr polisi/llywodraethu/seilwaith, timau treialon, a staff ymchwil sy’n recriwtio cyfranogwyr.

Darllenwch ragor: Shepherd, V., Hood, K. a Wood, F. 2022. Unpacking the 'black box of horrendousness': a qualitative exploration of the barriers and facilitators to conducting trials involving adults lacking capacity to consent. Trials 23, rhif erthygl: 471. (10.1186/s13063-022-06422-6)

Cyfarfodydd Rhwydwaith Ymchwil Ansoddol (QRN)

Mae'r QRG yn rhedeg Rhwydwaith Ymchwil Ansoddol (QRN) sydd ar agor i staff a myfyrwyr o bob rhan o Brifysgol Caerdydd a sefydliadau allanol. Mae'r Rhwydwaith yn cyfarfod ar-lein bob deufis. Gwahoddir aelodau i ddefnyddio'r gofod anffurfiol, cydweithredol hwn i gyflwyno canfyddiadau ymchwil, rhannu syniadau neu gwestiynau yn ymwneud â maes eang ymchwil ansoddol, a derbyn adborth a chyngor ar ddylunio astudiaeth neu ddulliau methodolegol.

Mewn cyfarfodydd blaenorol rydym wedi trafod ymchwil ar brofiadau cleifion o ddementia, archwilio’r defnydd o ddulliau ymchwil ansoddol yn ystod y pandemig COVID-19 (mewn cydweithrediad â’rgrŵp Meddygaeth, Gwyddoniaeth a Diwylliant), trafod effaith gymdeithasol labeli diagnostig mewn seiciatreg, a helpu i lywio’r gwaith o gynllunio ymchwil ar gyfathrebu mewn gofal newyddenedigol.

Mae'r rhwydwaith ar agor i unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymchwil ansoddol. I ymuno â'r rhwydwaith a derbyn gwybodaeth am gyfarfodydd y dyfodol, cysylltwch ag arweinydd y rhwydwaith, Dr Heather Strange. CTR-Qualitative@caerdydd.ac.uk.

Y tîm

Pennaeth ymchwil ansoddol

Dr Lucy Brookes-Howell

Dr Lucy Brookes-Howell

Research Fellow - Qualitative

Email
brookes-howelllc@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2068 7145

Rhwydwaith Ymchwil Ansoddol

Hayley Prout

Hayley Prout

Research Associate

Email
prouth@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 20688907
Dr Jeremy Segrott

Dr Jeremy Segrott

Research Fellow in Public Health, DECIPHer

Siarad Cymraeg
Email
segrottj@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 0216
Dr Julia Townson

Dr Julia Townson

Research Fellow - Senior Trial Manager in Children and Young People

Email
townson@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2068 7606
Dr Kim Smallman

Dr Kim Smallman

Research Associate - Trial Manager

Email
smallmank@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2068 7908
Yr Athro Mike Robling

Yr Athro Mike Robling

Director of Population Health Trials

Email
roblingmr@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2068 7177
Dr Sarah Milosevic

Dr Sarah Milosevic

Research Associate

Email
milosevics@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2068 7952
Dr Nina Jacob

Dr Nina Jacob

Research Associate

Email
jacobn@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2068 7264
Dr Sue Channon

Dr Sue Channon

Deputy Director of Research Design and Conduct Service

Email
channons2@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 20875047
Yvonne Moriarty

Yvonne Moriarty

Research Assistant - Qualitative

Email
moriartyy@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2068 7937