Ewch i’r prif gynnwys

Treialon Cymru

Treialon Cymru logo

Mae Treialon Cymru yn fenter gyffrous a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i gynnig cyfleoedd ledled Cymru i bobl gymryd rhan mewn treialon.

Mae'n cael ei arwain gan y Ganolfan Treialon Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn cysylltu ar draws y seilwaith a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a thu hwnt.

Elfennau allweddol

Mae menter Treialon Cymru yn cynnwys tair elfen allweddol:

  1. Rhaglen datblygu ymchwil sydd â'r nod o gynyddu nifer yr astudiaethau ar raddfa fawr sy’n cael eu harwain o Gymru mewn meysydd sy’n flaenoriaeth i’n gwasanaethau
  2. Rhaglen Aelodau Cyswllt i gefnogi pobl sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru i gael cysylltiad ag uned treialon clinigol i ddatblygu eu dealltwriaeth o sut beth yw uned o’r fath a’r hyn y mae’n ei wneud.
  3. Rhaglen ymgysylltu â rhanddeiliaid i sicrhau bod y gwaith hwn yn diwallu anghenion pawb yng Nghymru, gyda phwyslais ar amrywiaeth (gan gynnwys o safbwynt daearyddol)

Gweithgareddau

Yn ystod y ddwy flynedd gyntaf o weithgaredd, mae Treialon Cymru wedi cwblhau:
  • dau gyflwyniad y flwyddyn ar gyfer treialon ar raddfa fawr mewn ardaloedd o flaenoriaeth uchel i Gymru i NIHR a/neu UKRI
  • dwy garfan y flwyddyn o aelodau cyswllt (yn dechrau ar wyth fesul carfan ym mlwyddyn un)
  • digwyddiadau rhithwir misol ynghylch agweddau ar dreialon a phedwar digwyddiad rhanbarthol wyneb y wyneb y flwyddyn

Mae'r gwaith hwn wedi'i ariannu am ddwy flynedd rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2025 yn y lle cyntaf. Thrwy bob elfen byddwn yn cael adborth ac yn asesu canlyniadau er mwyn mireinio a datblygu'r rhaglen.