Ewch i’r prif gynnwys

Grŵp Nyrsio, Bydwreigiaeth a Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd (NMAHP)

Nursing, Midwifery and Allied Health Professionals (NMAHP) Group

Pwy ydym ni

Mae ein Grŵp NMAHP yn y Ganolfan Treialon Ymchwil yn cynrychioli ymchwilwyr profiadol sydd hefyd â chefndir clinigol. Mae'r rhain yn cynnwys nyrsys, bydwragedd, ffisiotherapyddion a seicolegwyr clinigol. Mae gan y grŵp amrywiaeth o rolau gan gynnwys nyrsys ymchwil ac ymchwilwyr sy’n nyrsys/bydwragedd/proffesiynau perthynol i iechyd sy'n datblygu ac yn arwain eu meysydd ymchwil eu hunain yn y Ganolfan Treialon Ymchwil.

Ein Strategaeth

Hyrwyddo rhagoriaeth mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol drwy fanteisio ar arbenigedd clinigol ac ymgysylltu mewn cydweithio rhyngddisgyblaethol effeithiol i ddatblygu a darparu ymchwil gynhwysol o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Yr hyn a wnawn

Mae aelodau’r Grŵp NMAHP yn cynnwys ymchwilwyr sydd â diddordeb mewn ymchwil ynghylch profiadau cleifion a methodoleg treialon, a nyrsys ymchwil sy'n cefnogi’r gwaith o gynllunio a chyflwyno treialon.  Mae ymgorffori nyrsys, bydwragedd a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn y Ganolfan yn ein galluogi i chwarae rhan allweddol o ran sicrhau bod treialon yn hygyrch, yn ymarferol, ac wedi'u cynllunio mewn ffordd sy'n bwysig i'r rhai y bwriedir iddynt elwa o’r treialon.

Rolau a chyfrifoldebau allweddol Nyrs Ymchwil y Ganolfan Treialon Ymchwil

  • dylunio a datblygu protocolau
  • adolygu a chyfrannu at ddogfennau sy'n gysylltiedig ag astudiaethau
  • datblygu canllawiau ar gyfer dichonoldeb safleoedd
  • cynllunio a chynnal hyfforddiant safleoedd
  • sefydlu a chychwyn safleoedd astudio
  • recriwtio cyfranogwyr, darparu ymyriadau a chasglu data
  • gweithredu fel prif bwynt cyswllt ar gyfer ymholiadau clinigol rhwng safleoedd a chyfranogwyr astudiaethau
  • monitro lles/diogelwch cyfranogwyr ac adolygu digwyddiadau clinigol niweidiol
  • cydlynu proses ddysgu cymheiriaid rhwng timau mewn gwahanol safleoedd astudiaethau
  • arwain a chyfrannu at gyhoeddiadau
  • cyflwyno a lledaenu canlyniadau astudiaethau

Enghreifftiau o astudiaethau llwyddiannus a gefnogwyd gan Nyrsys Ymchwil y Ganolfan Treialon Ymchwil

PRINCESS

Roedd treial PRINCESS (Probiotics to Reduce Infections iN CarE home reSidentS) yn dreial dwbl-ddall a reolir gan blasebo i werthuso effeithiolrwydd probiotigau i leihau gwrthfiotigau ar gyfer haint mewn preswylwyr cartrefi gofal. Roedd heriau allweddol y treial hwn yn ymwneud â'r lleoliad (y tu allan i'r GIG, heb brofiad blaenorol o wneud ymchwil) a phoblogaeth y treial (roedd gan lawer o gyfranogwyr broblemau ychwanegol yn ymwneud â chydsyniad). Chwaraeodd nyrsys ymchwil y Ganolfan Treialon Ymchwil rôl allweddol o ran meithrin cysylltiadau rhwng gwahanol sefydliadau a grwpiau yn ogystal â datblygu sgiliau ymchwil staff cartrefi gofal i feithrin gallu ymchwil yn y lleoliad hwn a rhannu dysgu methodolegol ynghylch recriwtio preswylwyr sydd heb alluedd mewn treial clinigol.

Darllenwch fwy am PRINCESS

PriMUS

Mae astudiaeth PriMUS (Primary care Management of lower Urinary tract Symptoms in men) yn ddarpar astudiaeth cywirdeb diagnostig mewn dynion sy'n cyflwyno eu hunain i’w meddyg teulu gyda symptomau yn eu llwybr wrinol is. Heriau allweddol: roedd y prawf cyfeirio yn yr astudiaeth hon yn weithdrefn wrodynamig a gynhelir fel arfer mewn ysbyty gan weithwyr iechyd proffesiynol sydd wedi'u hyfforddi yn y dechneg arbenigol hon. Llwyddiannau allweddol: hyfforddwyd nyrsys ymchwil i gynnal asesiadau wrodynamig a gwnaethant gyflawni’r rôl hon yn llwyddiannus ac yn ddiogel o fewn eu meddygfeydd lleol ledled Cymru a Lloegr fel rhan o'r astudiaeth, gan olygu bod yr ymchwil yn cael ei chymryd at y claf yn hytrach na bod y claf yn gorfod mynd i'r ymchwil.

Darllenwch fwy am PriMUS  

PANORAMIC

Mae PANORAMIC yn dreial clinigol platfform addasol o gyffuriau gwrthfeirysol newydd (yn wahanol i’r gofal arferol) ar gyfer COVID-19 yn y gymuned ar draws 60 o safleoedd yn y DU. Mae PANORAMIC yn ddull arloesol o gyflwyno astudiaeth. Mae’r holl weithgareddau gan gyfranogwyr yn cael eu gwneud o bell ac mae bod yn dreial platfform yn golygu y gellir profi sawl triniaeth wrthfeirysol dros amser gyda'r nod o leihau symptomau COVID-19 pobl yn gynt ac felly atal pobl rhag cael eu derbyn i'r ysbyty.

Heriau allweddol: Recriwtiwyd nifer fawr o gyfranogwyr dros gyfnod byr. Arweinyddiaeth rheoli treialon o ran gweithio gyda mwy nag un sefydliad mewn cyd-destun sy'n newid yn barhaus.  Llwyddiannau allweddol: Dull Un Safle Cymru — cydweithio gydag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, yr Is-adran Meddygaeth Boblogaeth, meddygon teulu ledled Cymru.  Cydlynodd tîm astudiaeth glinigol a gweinyddol y Ganolfan Treialon Ymchwil y galwadau diogelwch dilynol a’r holiaduron dilynol ar ôl 3 a 6 mis, gan ateb unrhyw ymholiadau gan gleifion.

Darllenwch fwy am PANORAMIC

LISTEN

Mae astudiaeth LISTEN (GWRANDO) yn gwerthuso ymyriad cymorth hunanreoli personol a gynlluniwyd ar y cyd ar gyfer COVID hir. Mae nyrsys ymchwil y Ganolfan Treialon Ymchwil yn rhan o’r broses o gyflwyno'r ymyriad sy'n cael ei gyflwyno o bell dros chwe sesiwn ar-lein gyda defnydd o lawlyfr darganfod ac adfer wedi'i ddylunio ar y cyd â phobl sy'n byw gyda COVID hir. Heriau allweddol: mae hwn yn dreial o ymyriad sy'n cael ei ddarparu ar gyfer cyflwr newydd. Mae deall safbwyntiau cyfranogwyr a'u profiadau o'r ymyriad wedi galluogi nyrsys ymchwil i roi dealltwriaeth well i dîm y treial o unrhyw rwystrau sy'n codi, sut mae'r ymyriad cymhleth yn cael ei roi ar waith mewn amser real, a sut mae'n cyfrannu at roi’r canfyddiadau yn eu cyd-destun.  Roedd nyrsys ymchwil hefyd yn cefnogi’r broses recriwtio drwy godi ymwybyddiaeth am y treial gyda'r cyhoedd, er enghraifft drwy gymryd rhan mewn cyfweliadau radio.

Darllenwch fwy am LISTEN

Ein tîm

  • Victoria Shepherd
  • Monica Busse-Morris
  • Sue Channon
  • Alison Johnson
  • Gladys Makuta
  • Nicola Ivins
  • Ffion Davies
  • Jane Davies
  • Hayley Prout

I gael rhagor o wybodaeth am y grŵp, cysylltwch â Dr Jane Davies, Ffion Davies neu Nicola Ivins.