Ewch i’r prif gynnwys

Datblygu cadwyni cyflenwi sy'n gynaliadwy yn ariannol

Mae’n hymchwil ryngddisgyblaethol wedi creu manteision ariannol gwerth miliynau o bunnoedd i sefydliadau yn y deyrnas a thramor.

Globe with transport lines crossing over it

Yn sgîl ansicrwydd ynghylch y galw a sustemau cynhyrchu a dyfeisio cymhleth, mae gormod o stoc gan lawer o gwmnïau.

Pan fo cymaint o nwyddau ychwanegol, gall fod yn anodd ariannu cadwyni cyflenwi.

Helpodd tîm o ymchwilwyr yn Ysgol Busines Caerdydd i ddatrys y broblem hon trwy edrych ar y gyfundrefn.

Llunion nhw bolisïau rhagolygu, rheoli stoc a chynllunio cynhyrchu newydd a helpodd gwmnïau i fuddsoddi llai mewn nwyddau.

Ar y cyd â’r cwmnïau, hwylusodd y tîm fanteision ariannol gwerth miliynau o bunnoedd trwy arbedion effeithlonrwydd, twf incwm, contractau newydd a diogelu a chreu swyddi.

Ymddygiad cadwyni cyflenwi

Rhwng 2001 a 2005, cyfunodd yr ymchwilwyr feddylfryd darbodus â dadansoddiad o ymddygiad cadwyni cyflenwi am y tro cyntaf erioed.

Dangoson nhw sut y bydd ansicrwydd am y galw yn arwain at ansicrwydd ymhlith y rhai sy’n gyfrifol am benderfyniadau ac yn cynyddu costau cynhyrchu a chadw nwyddau.

Ymchwilion nhw i’r math diweddaraf o gadwyni cyflenwi, sy’n defnyddio masnachu electronig, hefyd. Trwy eu cymharu â sustemau gweithgynhyrchu darbodus, gallen nhw gynnig cyfres o strategaethau i reolwyr yn ôl eu hamgylchiadau.

Nod prosiectau ychwanegol oedd lleddfu sgîl-effeithiau ansicrwydd am y galw gan alluogi’r tîm i daflu rhagor o oleuni ar effaith polisïau archebu yn ôl ymddygiad cadwyni cyflenwi. Dyma’r hyn ddysgodd yr ymchwilwyr:

  • rhaid cyfuno rhagolygu’n briodol â pholisïau archebu a chadw stoc
  • bydd gwybodaeth a phenderfyniadau anghywir yn effeithio ar safon rhagolygon a lefelau stoc

At hynny, edrychodd y tîm ar faterion cyfoes megis cadwyni cyflenwi sy’n defnyddio argraffu tri dimensiwn a dylanwadau polisïau rhagolygu ar lefelau stoc.

Boxes of recycled products in a warehouse.

Rheolaeth restru well

Yn sgîl eu hymchwil i ragolygu, rheoli stoc, cynllunio cynhyrchu a chost-effeithiolrwydd cadwyni cyflenwi, lluniodd y tîm atebion hyfyw i fasnachwyr gan helpu pum cwmni mawr i reoli eu stoc yn well.

DSV/Panalpina

Rhwng 2014 a 2015, bu cwmni Panalpina (sy’n rhan o DSV bellach) yn ymwneud ag Ysgol Busnes Caerdydd ar gyfer dwy bartneriaeth trosglwyddo gwybodaeth.

Defnyddiodd y prosiectau ymchwil Prifysgol Caerdydd i helpu cwsmeriaid y cwmni i gadw llai o stoc.

Lluniodd y tîm algorithm ar gyfer darogan y galw gan alluogi’r cwmni i ddadansoddi cadwyni cyflenwi ei gwsmeriaid, nodi cyfleoedd i gwtogi ar stoc, rhyddhau arian a gwella lefelau gwasanaethau.

Cyn dechrau cydweithio â Phrifysgol Caerdydd, roedd Panalpina yn colli €40m y flwyddyn. Erbyn ei werthu i DSV, ar ôl rhoi'r newidiadau ar waith, roedd yn ennill €10 miliwn y flwyddyn (£50 miliwn o ran budd elw blynyddol cyffredinol).
Andrew Lahy Cyfarwyddwr Dylunio Atebion DSV

Lexmark

Dros yr un cyfnod, gwahoddodd Lexmark yr ymchwilwyr i’w helpu i leddfu sgîl-effeithiau ansicrwydd am y galw.

Cydweithiodd y tîm â’r cwmni i gyflwyno ei wybodaeth a’i algorithmau i’w sustem cynllunio adnoddau yno.

O ganlyniad, roedd llawer llai o sgîl-effeithiau ac enillodd y cwmni Wobr Arwain Gweithgynhyrchu 2014 Frost a Sullivan yng nghategori rheoli cadwyni cyflenwi.

Yeo Valley

Yn 2016, cydweithiodd yr ymchwilwyr â chwmni Yeo Valley i symleiddio sustemau rhagolygu, cynllunio cynhyrchu ac ailgyflenwi.

Trwy fireinio algorithmau rhagolygu, byrhau cyfnodau cynhyrchu, pennu lefelau stoc wrth gefn ac adlunio sustem cynllunio cynhyrchu’r cwmni, arweiniodd y prosiect at £3 miliwn ychwanegol trwy arbed arian a masnachu’n well.

Qioptiq

Hanfod partneriaeth trosglwyddo gwybodaeth â chwmni ffotoneg Qioptiq oedd defnyddio arbenigedd darogan y tîm er cadwyni cyflenwi mwy darbodus a chwtogi ar y stoc o 25% gan arbed arian sylweddol.

Trwy’r bartneriaeth, aethon ni ati i symleiddio ein cadwyn gyflenwi a defnyddio ffyrdd newydd o gyflenwi fel y gallen ni bennu’r galw yn fanwl, darogan yr enillion ac archebu stoc yn briodol.
Peter White Cyfarwyddwr Rheoli, Qioptiq

Mae’r cydweithio wedi helpu’r cwmni i ennill contract chwe blynedd gwerth £82 miliwn i gynnal a chadw offer gweld yn y tywyllwch dros Weinyddiaeth Amddiffyn San Steffan.

O achos y contract, gallai’r cwmni wario £3.7 miliwn i adeiladu warws a chreu a diogelu swyddi o safon er lles cymuned ac economi’r ardal.

Accolade Wines

Mae prosiect rhwng 2018 a 2020 wedi helpu cwmni Accolade Wines i symleiddio gweithrediadau a chwtogi’n fawr ar lefelau stoc.

Cyflwynodd y tîm amserlen newydd ar gyfer cynhyrchu ar ôl pennu ffordd well o drefnu'r uned gynhyrchu.

Gallai’r cwmni leihau costau i’w gwsmeriaid trwy newid ei ffordd o bennu lefelau stoc wrth gefn yn sgîl newidiadau algorithmig roedd yr ymchwilwyr wedi’u hargymell.

Er na allwn ni fesur buddion ariannol y newidiadau, does dim amheuon eu bod wedi helpu’r cwmni i arbed llawer o arian trwy gadw llai o stoc. Yn sicr, mae'r prosiect wedi bod o fudd uniongyrchol ac anuniongyrchol i ryw 400 o weithwyr ledled de Lloegr.
Richard Lloyd Prif Reolwr Gweithrediadau a Chadwyni Cyflenwi Ewrop Accolade Wines

Cyhoeddiadau dethol