Ewch i’r prif gynnwys

Cynadleddau

Rydym yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau, gan gynnwys cyfleusterau cyfarfod a chynadledda trwy gydol y flwyddyn, arlwyo ar gyfer digwyddiadau a llety dros yr haf o ddechrau mis Gorffennaf hyd ddechrau mis Medi.

Porwch drwy ein hamrywiaeth o wasanaethau arlwyo proffesiynol ar gyfer eich anghenion lletygarwch. O frechdanau a saladau i fwydlenni ciniawau tair a phedair cwrs.

Mae gennym leoliadau ar gyfer cynadleddau a chyfarfodydd yn y ddinas, gyda chyfleusterau o safon uchel a chymorth gan dîm digwyddiadau pwrpasol.

Gallwn gynnig amrywiaeth o ystafelloedd hunanarlwyo i unigolion neu grwpiau o unigolion sy'n dymuno dod i Gaerdydd at ddibenion hamdden neu at ddibenion eraill.

Mae llety ar gael mewn nifer o leoliadau, y rhan fwyaf o fewn pellter cerdded rhwydd o ganol y ddinas. Ceir amrywiaeth o opsiynau, gan gynnwys hunanarlwyo a gwely a brecwast.

Rydym yn cynnig cynadleddau proffil uchel yn rheolaidd sy'n cwmpasu ystod amrywiol o themâu. Darganfyddwch beth sydd ar y gweill, gan gynnwys gwybodaeth gofrestru, manylion a rhaglenni.