Ewch i’r prif gynnwys

Enwebu neu ymgeisio

Gallwch chi enwebu pobl nawr! Felly p'un a ydych chi'n cymryd yr awenau ac yn enwebu eich hun, neu'n adnabod arloeswr arall sy’n haeddu cydnabyddiaeth yn eich barn chi, cofiwch gyflwyno'ch cais erbyn 21 Gorffennaf 2024.

Enwebu neu ymgeisio heddiw

Enillwyr blaenorol

Cymerwch ychydig o ysbrydoliaeth ar gyfer eich enwebiad neu gais drwy edrych ar ein hen enillwyr Gwobrau 30(ish).

Gwobrau (tua)30 2023

Darllenwch straeon enillwyr gwobrau (tua) 30 sy’n rhan o’n rhestr 2023 derfynol o gynfyfyrwyr o Brifysgol Caerdydd sy’n arloesi ac yn torri tir newydd yn ogystal â rheolau.

Gwobrau (tua)30 2022

Darllenwch straeon y 30(ish) o enillwyr sy'n rhan o'n rhestr derfynol o wneuthurwyr newid ac arloeswyr o gymuned alumni Prifysgol Caerdydd yn 2022.

Telerau ac amodau

  1. Mae'n rhaid i enwebeion fod yn gynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd.
  2. Mae ceisiadau ar gyfer gwobrau 2023 yn agor dydd Iau 17 Ebrill am 12:00 (BST) ac yn cau dydd Sul 21 Gorffennaf am 00:00 (BST).
  3. Os ydych chi'n enwebu rhywun arall, mae'n rhaid i chi roi caniatâd i ni gysylltu â'r unigolyn i wneud yn siŵr ei fod yn hapus i gael ei ystyried ar gyfer gwobr.
  4. Drwy wneud enwebiad, rydych yn rhoi caniatâd i'r brifysgol ddefnyddio'r cynnwys rydych wedi'i ddarparu ar ein gwefan, ar gyfer deunydd cyhoeddusrwydd a marchnata.
  5. Dewisir y rhai sy'n cyrraedd y rownd derfynol gan banel o feirniaid a benodir gan y brifysgol. Bydd penderfyniad y panel yn derfynol, ac ni fyddwn yn cymryd rhan mewn unrhyw ohebiaeth bellach ynglŷn â’r penderfyniad.
  6. Bydd y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol a'r rhai a'u henwebodd, yn cael gwybod yn uniongyrchol cyn i unrhyw gyhoeddiadau gael eu gwneud. Os na fydd rhywun sydd yn y rownd derfynol yn dymuno derbyn y wobr, neu os yw wedi dewis peidio â chael gohebiaeth gan swyddfa'r cynfyfyrwyr, mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i ddewis a hysbysu'r nesaf ar y rhestr.
  7. Bydd pawb sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn cael eu gwahodd i ddigwyddiad Gwobrau (tua) 30 oed yng Nghaerdydd ym mis Hydref 2024. Sylwch ni fydd gallu’r enwebion i ddod i’r digwyddiad yn effeithio ar ganlyniad y cais.
  8. Nid oes rhodd ariannol yn rhan o’r wobr.
  9. Mae'r brifysgol yn cadw'r hawl i ganslo'r gystadleuaeth neu ddiwygio'r rheolau ar unrhyw adeg, heb roi rhybudd ymlaen llaw.
  10. Drwy wneud cyflwyniad, rydych yn caniatáu i'r data a ddarperir gennych gael ei ddefnyddio gan y brifysgol at ddibenion gweinyddu'r gystadleuaeth, ac yn unol â pholisi diogelu data Prifysgol Caerdydd. Bydd Tîm Cysylltiadau Cynfyfyrwyr yn cofnodi'r holl enwebiadau yn erbyn cofnod yr enwebai ar y gronfa ddata cynfyfyrwyr er mwyn cyfeirio atynt yn y dyfodol.
  11. Nid yw'r brifysgol yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am geisiadau a gwblhawyd yn anghywir, neu a gollwyd neu a ohiriwyd, nac am beidio â chynnwys cofnodion o ganlyniad i fethiannau technegol.