Bywyd ar ôl Caerdydd

Mae'r profiadau a gewch yng Nghaerdydd yn mynd y tu hwnt i'ch amser ar y campws. Mae’n rhoi aelodaeth rad ac am ddim i gymuned o dros 180,000 o gynfyfyrwyr.
Fel cynfyfyriwr, mae gennych fynediad i ystod o wasanaethau dethol sydd wedi’u cynllunio er mwyn cyfoethogi eich bywyd ar ôl graddio. Er mwyn sicrhau eich bod yn gallu manteisio, gwnewch yn siŵr eich bod yn diweddaru eich manylion os gwelwch yn dda.
Gwasanaethau llyfrgell
Fel cynfyfyriwr, mae gennych fynediad i lyfrgelloedd y Brifysgol lle gallwch fenthyg hyd at 6 eitem ar y tro, heb gynnwys eitemau benthyciad byr. Mae gennych fynediad hefyd i rai adnoddau electronig penodedig gan ddefnyddio’r mynediad cerdded-i-mewn i’n gwasanaeth Adnoddau Electronig.
Mae’r cerdyn llyfrgell a’ch llun arno yn costio £10 i ddechrau (bydd ffi flynyddol o £25 i’w adnewyddu wedi hynny).
Er mwyn cofrestru am gerdyn llyfrgell, ewch i Lyfrgell Senghennydd gydag un math o ddogfen adnabod sydd a’ch llun arni (megis pasbort neu drwydded yrru).
Cyfleusterau chwaraeon
Gall cynfyfyrwyr sy’n aros yng Nghaerdydd gael aelodaeth i holl gyfleusterau chwaraeon y Brifysgol am bris gostyngol.
Er mwyn ymaelodi, ewch i ganolfan Ffitrwydd & Sboncen Prifysgol Caerdydd ar Blas y Parc gyda’ch rhif aelodaeth cynfyfyriwr. Yna, bydd gennych fynediad i’r cyfleusterau chwaraeon yng Nghanolfan Chwaraeon Talybont, Y Ganolfan Sboncen ym Mhlas y Parc a’r Caeau Chwarae yn Llanrhymni.