Canghennau a grwpiau cynfyfyrwyr
Mae Canghennau Cynfyfyrwyr yn gyfle i'n cynfyfyrwyr gysylltu, rhwydweithio, datblygu perthnasoedd cryf a rhannu cyfleoedd. Mae ein Canghennau yn helpu o ran cynrychioli Prifysgol Caerdydd yn y lle dan sylw ac maent yn cyd-fynd â’n hamcanion strategol.
Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda gwirfoddolwyr i sefydlu Canghennau Cynfyfyrwyr ledled y byd, ac mae cyfres o ddigwyddiadau lansio yn digwydd yn ystod y misoedd nesaf. Dysgu rhagor am ymuno â'n Canghennau sefydledig isod. Os oes gennych ddiddordeb mewn helpu i ddechrau un yn eich ardal, neu os ydych yn aelod o grŵp o gynfyfyrwyr, ac yr hoffech i’r grŵp hwnnw gael ei gydnabod yn Gangen yn ffurfiol, cysylltwch â ni.
Dod o hyd i Gangen Cynfyfyrwyr
Efrog Newydd
Cyd-Gadeiryddion Canghennau
Angus Scott (BSc 1985) a Gabriel Yomi Dabiri (LLB 2008).
Ymunwch â'n grŵp preifatar LinkedIn i rwydweithio ag aelodau eraill.
Kuala Lumpur
Cyd-Gadeiryddion Canghennau
Junaidy Ab-Mutalib (BSc 1996) a Larissa Ann Louis (PgDip 2014).
Ymunwch â'n grŵp preifatar LinkedIn i rwydweithio ag aelodau eraill.
Shanghai
Rhagor o fanylion cyn bo hir.
Beijing
Rhagor o fanylion cyn bo hir.
Hong Kong
Rhagor o fanylion cyn bo hir.
Mumbai
Cysylltwch â ni os hoffech helpu i sefydlu'r Gangen hon.
New Delhi
Cysylltwch â ni os hoffech helpu i sefydlu'r Gangen hon.
Saudi Arabia
Cysylltwch â ni os hoffech helpu i sefydlu'r Gangen hon.
Sefydlu Cangen Cynfyfyrwyr
Os oes gennych ddiddordeb mewn sefydlu Cangen newydd ar gyfer Cynfyfyrwyr yn eich ardal, darllenwch y wybodaeth isod. Cysylltwch â ni os oes gennych chi ragor o gwestiynau:
Byddwn yn cefnogi Canghennau rhyngwladol swyddogol drwy:
- Roi cefnogaeth ac arweiniad gan aelod(au) o staff o’r swyddfa
- Rhestru'r grŵp a nodi’r sawl sy’n ei arwain ar y dudalen we hon
- Helpu gyda chyhoeddusrwydd ar gyfer digwyddiadau/gweithgareddau – dylid cyflwyno’r holl wybodaeth i swyddfa’r cynfyfyrwyr chwe wythnos cyn y digwyddiad
- Darparu data sy’n berthnasol i’r lle dan sylw i arweinwyr grwpiau, a hynny at ddibenion llywio cynlluniau o ran gweithgareddau. Bydd dadansoddiad demograffig o’r cynfyfyrwyr hynny rydyn ni’n ymwybodol ohonynt sy’n byw yn y lle dan sylw yn rhan o’r data.
- Darparu cynlluniau sy’n berthnasol i’r lle dan sylw ar gyfer gweithgareddau’n ymwneud â’r brifysgol, gan gynnwys cyflwyniadau, ymweliadau, ymweliadau recriwtio, fel sy’n berthnasol
Yr hyn yr ydym yn ei ddisgwyl gan ein Canghennau rhyngwladol cysylltiedig:
- Dylent sicrhau bod y grŵp yn groesawgar ac yn gynhwysol o ran yr holl drigolion lleol, neu’r cynfyfyrwyr hynny o brifysgol Caerdydd sy’n ymweld â’r lle dan sylw Dylent sicrhau bod aelodau’r grŵp yn gweithredu er lles gorau Prifysgol Caerdydd a’u bod yn llysgenhadon iddi
- Dylent sicrhau bod y grŵp yn hunangynhaliol yn ariannol. Ni fydd y Brifysgol yn ariannu gweithgareddau grwpiau cynfyfyrwyr fel mater o drefn, megis lleoliadau a chostau arlwyo, ar gyfer digwyddiadau nad ydynt yn cael eu trefnu gan y Brifysgol. Bydd angen i grwpiau ystyried sut y byddant yn ariannu gweithgareddau, ac a ddylid codi tâl aelodaeth a/neu werthu tocynnau ar gyfer digwyddiadau
- Dylent ystyried gofynion yswiriant a iechyd a diogelwch lleol wrth drefnu digwyddiadau
- Dylent roi ystyriaeth i offer cyfathrebu grwpiau lleol e.e. LinkedIn, WhatsApp, WeChat, ac ati.
- Dylent sicrhau bod manylion cyswllt y grŵp sydd ar gael ar wefan y cynfyfyrwyr yn gyfredol, a bod unrhyw blatfformau cyfryngau cymdeithasol a restrir yn cael eu monitro’n rheolaidd
- Dylent sicrhau bod gweithgareddau grŵp yn cael eu hyrwyddo trwy blatfform rhwydweithio cynfyfyrwyr, Cysylltiad Caerdydd
- Dylent gyflenwi data o ran cofrestru a phresenoldeb i swyddfa'r cynfyfyrwyr ar ôl pob digwyddiad
- Dylent sicrhau bod yr holl ddata yn cael ei drin mewn modd diogel, yn unol â rheoliadau diogelu data lleol
Ymunwch â grŵp Facebook
Mae miloedd o gynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn aelodau o'n grwpiau Facebook. Mae'n le gwych i rannu atgofion, dod o hyd i hen ffrindiau a rhannu eich newyddion.
Pan fyddwch yn gwneud cais i ymuno, gofynnir ambell i gwestiwn syml er mwyn gwirio pwy ydych chi. Gofynnwn i bob aelod barchu rheolau’r grŵp.
Cysylltwch, tyfwch eich rhwydwaith proffesiynol, a chefnogwch fyfyrwyr a chynfyfyrwyr eraill. Cysylltu Caerdydd yw’r lle i ddod o hyd i gyfleoedd newydd a manteisio ar gymuned fyd-eang cynfyfyrwyr Caerdydd.