Ewch i’r prif gynnwys

Gwirfoddolwch i fod yn Llysgennad Cynfyfyrwyr

Cawsom air â Elliot Howells (BSc 2016) yn Niwrnod Agored Prifysgol Caerdydd (Gorffennaf 2019)

Cofrestrwch eich diddordeb mewn bod yn Llysgennad Cynfyfyrwyr a helpwch i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr a chynfyfyrwyr Caerdydd.

Rydym yn cynnig cyfoeth o gyfleoedd gwahanol i gynfyfyrwyr sy’n gwirfoddoli i ymgysylltu â darpar fyfyrwyr a myfyrwyr presennol yn ogystal â'r Brifysgol ehangach. Rydym yn ceisio paru Llysgenhadon Cynfyfyrwyr sy’n gwirfoddoli â'r cyfleoedd mwyaf addas iddynt.

Drwy gydol y flwyddyn, rydym yn cynnal ac yn cefnogi llawer o adrannau ledled y Brifysgol, gyda siaradwyr gwadd sy'n gynfyfyrwyr a digwyddiadau. Rydym yn cysylltu â Llysgenhadon Cynfyfyrwyr cofrestredig i ofyn iddynt gymryd rhan yn seiliedig ar y digwyddiad. Os oes gennych ddiddordeb penodol yn y cyfleoedd hyn, cysylltwch â ni a byddwn yn rhoi gwybod i chi wrth iddynt ddod ar gael.

certificate

Datblygu

Datblygu sgiliau a gwella eich CV

people

Rhwydwaith

Ehangu eich rhwydwaith proffesiynol

academic-school

Rhoi yn ôl

Rhowch rywbeth yn ôl i gymuned y Brifysgol

Cwblhau proffil cynfyfyrwyr

  • Mwyaf addas ar gyfer: yr holl gynfyfyrwyr.
  • Ymrwymiad o ran amser: 30 munud.

Ar ba drywydd aeth eich bywyd ar ôl graddio? Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i fyfyriwr presennol neu rywun sy'n ystyried dod i Brifysgol Caerdydd? Sut mae eich amser yng Nghaerdydd wedi dylanwadu ar eich gyrfa a'ch bywyd?

Mae proffiliau cynfyfyrwyr yn ein helpu i ysbrydoli a denu'r darpar fyfyrwyr gorau, gan arddangos y mathau o yrfaoedd a llwyddiant all ddeillio o astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. Gellir defnyddio proffiliau ar-lein neu mewn prosbectysau, cylchgronau a deunyddiau hyrwyddo a mewnol eraill.

Rydym yn croesawu proffiliau ysgrifenedig neu fideo. Cyflwynwch eich proffil ysgrifenedig, neu cyflwynwch fideo 2 funud o hyd.

Cyflwyno cynnwys i'n platfform gyrfaoedd ar-lein 'Taith Eich Gyrfa'

Mae ein tîm gyrfaoedd yn gwneud eu gorau glas i roi cymorth i'n myfyrwyr, yn enwedig y rhai sy'n dod i ddiwedd eu graddau eleni ac sy'n dechrau chwilio am swydd i raddedigion. Er mwyn cynorthwyo hyn, rydym yn datblygu cynnwys pwrpasol ar gyfer ein platfform gyrfaoedd ar-lein.

Mae cynnwys fideo byr gan gynnwys argymhellion a gweminarau wedi'u recordio ymlaen llaw gan gyflogwyr yn ffordd wych o gyfathrebu â'n myfyrwyr ac adeiladu eich brand. Gallwch hefyd hyrwyddo swyddi gwag am ddim ar ein hysbysfwrdd swyddi.

I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr - ysgrifennwch erthygl neu hysbysebwch ddigwyddiad

  • Mwyaf addas ar gyfer: pob cynfyfyriwr sydd am rannu stori neu arbenigedd.
  • Ymrwymiad o ran amser: 2 awr.

I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr yw ein cyfres blogiau a digwyddiadau sy’n rhoi rhywfaint o sylw i'r straeon yr hoffech adrodd i’ch cyfoedion. Wedi bod yn rhan o brosiect cymunedol arbennig? Ydy eich ymchwil neu eich sefydliad yn arloesol ac yn datrys problemau? Ydy eich gwaith yn grymuso neu’n hyrwyddo amrywiaeth? Eisiau rhannu eich atgofion o Gaerdydd, neu amlygu eich diddordebau? Rydym eisiau clywed gennych.

Os hoffech gymryd rhan, llenwch ein ffurflen fer a rhannwch eich syniad â ni.

Byddwch yn Llysgennad dros Gysylltiad Caerdydd

  • Mwyaf addas ar gyfer: yr holl gynfyfyrwyr.
  • Ymrwymiad amser: o leiaf dwy awr y mis.

Cysylltiad Caerdydd yw ein cymuned rhwydweithio proffesiynol digidol preifat i fyfyrwyr, staff a chynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Mae'n lle sy'n rhoi cyfle i chi rwydweithio â chymuned fyd-eang Caerdydd. Byddwn yn defnyddio'r platfform i gysylltu grwpiau rhanbarthol, cynnal digwyddiadau, a chreu grwpiau sy'n seiliedig ar ddiddordebau i gefnogi eich datblygiad proffesiynol a phersonol. Gall defnyddwyr bostio swyddi neu interniaethau am ddim a hysbysebu digwyddiadau yn eich rhanbarth.

Yn rhan o'r gymuned breifat hon, rydym yn gofyn i lysgenhadon y platfform sy'n postio cynnwys, hyrwyddo'r platfform ar eu rhwydwaith Caerdydd all-lein eu hunain er mwyn ein helpu i ddatblygu'r platfform ymysg grwpiau a digwyddiadau sydd o ddiddordeb i'r gymuned

Llysgennad Cynfyfyrwyr Byd-eang

  • Mwyaf addas ar gyfer: unrhyw gynfyfyriwr nad yw'n byw yn y DU.
  • Ymrwymiad amser: yn amrywio.

Gallwch gymryd rhan fel rhan o’n cymuned fyd-eang o gynfyfyrwyr hyd yn oed os na allwch ddod yn ôl adref i Gaerdydd. Rydym yn cefnogi digwyddiadau rhyngwladol gyda Swyddfa Ryngwladol y Brifysgol drwy gydol y flwyddyn lle byddwch yn cwrdd â darpar fyfyrwyr, yn ateb eu cwestiynau yn seiliedig ar eich profiad a chynrychioli Prifysgol Caerdydd yn eich mamwlad. Mae'n bosibl y bydd gofyn i chi fod yn fan cyswllt ar gyfer ymweliadau Prifysgol eraill â'ch rhanbarth, neu gynnal digwyddiadau "dychwelyd" yn cyflwyno graddedigion diweddar i'r gymuned leol o gynfyfyrwyr Caerdydd.

Rydym ni’n trefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn ym mhob cwr o’r byd. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • digwyddiadau cyn ymadael
  • digwyddiadau recriwtio rhyngwladol

Rydym hefyd yn cynnig rhai cyfleoedd rhithwir sy'n caniatáu i ddarpar fyfyrwyr a rhieni gysylltu â chi i ddysgu am eich profiad yng Nghaerdydd a thu hwnt.

Mynd i Ddiwrnod Agored/Diwrnod i Ddeiliaid Cynnig

  • Mwyaf addas ar gyfer: cynfyfyrwyr wnaeth raddio hyd at 5/10 mlynedd yn ôl (yn dibynnu ar yr ysgol).
  • Ymrwymiad o ran amser: 2 i 7 awr.

Mae Diwrnodau Agored a Diwrnodau i Ddeiliaid Cynnig yn rhoi cyfle i ddarpar fyfyrwyr grwydro campws a chyfleusterau'r Brifysgol a dysgu sut beth yw astudio yng Nghaerdydd ac ymgyfarwyddo â'u hysgol academaidd. Ar y diwrnodau hyn, byddwch yn cwrdd â darpar fyfyrwyr, yn ateb cwestiynau am eich profiadau eich hunain o Brifysgol Caerdydd, ac yn siarad â darpar fyfyrwyr â'u rhieni mewn sgyrsiau a drefnir gan eich ysgol.  Efallai bydd eich ysgol yn trefnu eich bod yn cymryd rhan mewn sgwrs fer neu sesiwn holi ac ateb. Mae ymwelwyr yn teimlo bod cyngor a phrofiadau graddedigion diweddar yn werthfawr iawn, a byddwch yn cael cyfle i roi enghreifftiau diriaethol o sut mae eich amser yng Nghaerdydd wedi bod o fudd i chi ar ddechrau eich gyrfa.

Mae diwrnodau agored fel arfer yn cael eu cynnal 4 gwaith y flwyddyn, ac mae digwyddiadau i ddeiliaid cynigion yn amrywio rhwng mis Rhagfyr a mis Mawrth.

Darparu hyfforddiant ac arbenigedd i'n myfyrwyr Menter a Dechrau Busnes

  • Mwyaf addas ar gyfer: cynfyfyrwyr entrepreneuraidd sydd ynghlwm wrth fusnesau newydd neu sydd â phrofiad yn y meysydd hynny.

Mae’r Tîm Menter a Busnesau Newydd yn cefnogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau busnesau newydd, hunan-gyflogaeth ac arloesedd. Mae ein myfyrwyr yn arloeswyr talentog a chreadigol gydag angerdd gwirioneddol dros archwilio syniadau newydd. Rydym yn chwilio am hyfforddwyr cyn-fyfyrwyr i'w hannog a'u harwain ar eu taith, drwy adolygu cynlluniau busnes, paratoi adborth ac awgrymiadau, a chynnig mewnwelediad i'r sector cyffredinol.

Cynnig mentora anffurfiol

  • Mwyaf addas ar gyfer: yr holl gynfyfyrwyr.
  • Ymrwymiad o ran amser: cyn lleied ag 1 awr.

Gan gael ei gynnal ar ein platfform rhwydweithio proffesiynol digidol newydd, Cysylltiad Caerdydd, gallwch gynnig eich arbenigedd neu geisio cyngor gan gyd-gynfyfyrwyr.

Yn wahanol i'n rhaglen fentora ffurfiol sy'n digwydd dros gyfnod o 4 mis, dylai'r math hwn o fentora fod ar ffurf sesiynau cyflym a hyblyg untro. Gall fod er mwyn adolygu CV, rhoi cyngor ar awgrymiadau cyfweliad, eich cyflwyno i'ch rhwydwaith eich hun, neu hyd yn oed cael sgwrs am eich diwydiant neu swydd. Dyma ffordd wych o adeiladu'ch rhwydweithiau o fewn y gymuned cynfyfyrwyr, a helpu'r rheiny sydd angen cymorth, heb ymrwymo i berthynas fentora hirach am dymor penodol.

Ymunwch â'n rhaglen mentora myfyrwyr

  • Ymrwymiad o ran amser: o leiaf 5 sesiwn mentora rhwng mis Rhagfyr a mis Ebrill.
  • Cymorth: arweinydd prosiect pwrpasol er mwyn cynnig arweiniad i chi a'r sawl rydych yn ei fentora drwy gydol y rhaglen.
  • Llinell amser recriwtio: rhwng mis Medi a mis Tachwedd. Caiff unrhyw fynegiannau o ddiddordeb a ddaw i law ar ôl yr amser hwn eu hystyried ar gyfer y flwyddyn ganlynol.

Rydym yn awyddus i glywed gan gynfyfyrwyr a hoffai wirfoddoli eu hamser i gefnogi'r genhedlaeth nesaf o raddedigion Prifysgol Caerdydd.

Mae Rhaglen Mentora Gyrfa Prifysgol Caerdydd yn cael ei chynnal gan y Tîm Profiad Gwaith ac mae'n rhoi cyfle i chi weithio gyda myfyriwr sydd wedi mynegi diddordeb mewn dysgu rhagor am eich sector diwydiant. Rydym yn paru mentoriaid a myfyrwyr ac yn rhoi fframwaith i chi ar gyfer eich sgyrsiau.

Cynnig lleoliad gwaith neu interniaeth

  • Mwyaf addas ar gyfer: cynfyfyrwyr mewn swyddi addas.
  • Ymrwymiad o ran amser: gall amrywio, a gall lleoliadau bara ychydig ddyddiau neu hyd at flwyddyn.

Caiff interniaethau eu cynnal gan y Tîm Profiad Gwaith, sy’n gweithio gyda chyflogwyr i'w cysylltu â myfyrwyr a graddedigion diweddar Caerdydd sy'n chwilio am brofiad gwaith ystyrlon.

Cefnogi strategaeth y Brifysgol

  • Mwyaf addas ar gyfer: cynfyfyrwyr sydd mewn rôl lefel uwch neu sy'n ddylanwadol mewn maes penodol.
  • Ymrwymiad o ran amser: amrywio.

Mae prifysgolion yn fannau cydweithredol, ac yr ydym yn croesawu cynfyfyrwyr i rannu eu harbenigedd a'u cyngor mewn sawl man gwahanol. Gallai hyn olygu, ymhlith pethau eraill, yn eistedd ar Fyrddau Cynghori neu Lys y Brifysgol, fod yn gyfaill beirniadol o ran creu cyrsiau newydd a chynorthwyo deilliannau dysgu mewn cyrsiau neu fod yn rhan o banel Cyfweld.

Mynegi eich diddordeb

Cysylltiadau Datblygu a Chynfyfyrwyr