Gwobrau (tua) 30
Mae Gwobrau (tua) 30 yn dathlu'r cynfyfyrwyr o Brifysgol Caerdydd sy’n arloesi, ac yn torri tir newydd yn ogystal â thorri rheolau. Byddwn yn cydnabod rhestr o (tua) 30 o bobl sydd wedi gwneud cyfraniad cadarnhaol yn eu cymuned cyn eu bod yn 30 oed. Wel, (tua) 30 oed.
Enwebu neu ymgeisio
Mae'r cyfnod enwebu bellach wedi cau.
Cymhwysedd
Rydym yn sefydliad blaenllaw ar gyfer addysg uwch. Rydyn ni’n gwrthod cael ein cyfyngu gan rifau di-ystyr. Ac yn unol â’r bobl rydyn ni’n eu dathlu, sy’n torri’r rheolau ac yn arloeswyr, rydyn ninnau'n gwneud pethau mewn ffordd ychydig yn wahanol. Felly, os ydych chi'n gynfyfyriwr o dan neu hyd yn oed dros 30 oed, a chi'n teimlo (tua) 30 oed, gwnewch gais.
Gwobr, rhestr a ddigwyddiad
Bydd y rhai sy’n cyrraedd rownd derfynol y Gwobrau (tua) 30 yn mynd ar y rhestr (tua) 30, yn cael gwobr a gwahoddiad i ymuno â ni i ddathlu yn nigwyddiad y gwobrau ddydd Iau 5 Hydref 2023.
Cynhelir y digwyddiad gan yr Llywydd ac Is-Ganghellor newydd Prifysgol Caerdydd Athro Wendy Larner, a bydd Matt Barbet (BA 1997, PgDip1999) yn arwain y noson.
Ni fydd angen i chi wisgo'r tei du traddodiadol - dyma dathliad o gynfyfyrwyr dawnus Prifysgol Caerdydd. Bydd y rhai sy’n cyrraedd rownd derfynol y Gwobrau (tua) 30 oed yn cael eu hystyried ar gyfer cydnabyddiaethau arbennig hefyd ar y noson.
Bachwch ar y cyfle i gael eich gweld a chysylltu â chynfyfyrwyr arloesol eraill o Brifysgol Caerdydd. Hyd yn oed os na allwch ddod i’r digwyddiad, gallwch fod yn falch o gael eich cydnabod ar y rhestr fawreddog hon. Rydym yn gwybod bod gennym gynfyfyrwyr gwych ledled y byd a fydd yn cael eu henwebu, a bydd y rhai sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn cael eu dewis gan y panel ar sail teilyngdod, nid eu gallu i fynd i’r digwyddiad.
Telerau ac amodau
- Mae'n rhaid i enwebeion fod yn gynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd.
- Mae ceisiadau ar gyfer gwobrau 2023 yn agor dydd Mercher 26 Ebrill am 12:00 (BST) ac yn cau dydd Llun 24 Gorffennaf am 23:59 (BST).
- Os ydych chi'n enwebu rhywun arall, mae'n rhaid i chi roi caniatâd i ni gysylltu â'r unigolyn i wneud yn siŵr ei fod yn hapus i gael ei ystyried ar gyfer gwobr.
- Drwy wneud enwebiad, rydych yn rhoi caniatâd i'r brifysgol ddefnyddio'r cynnwys rydych wedi'i ddarparu ar ein gwefan, ar gyfer deunydd cyhoeddusrwydd a marchnata.
- Dewisir y rhai sy'n cyrraedd y rownd derfynol gan banel o feirniaid a benodir gan y brifysgol. Bydd penderfyniad y panel yn derfynol, ac ni fyddwn yn cymryd rhan mewn unrhyw ohebiaeth bellach ynglŷn â’r penderfyniad.
- Bydd y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol a'r rhai a'u henwebodd, yn cael gwybod yn uniongyrchol cyn i unrhyw gyhoeddiadau gael eu gwneud. Os na fydd rhywun sydd yn y rownd derfynol yn dymuno derbyn y wobr, neu os yw wedi dewis peidio â chael gohebiaeth gan swyddfa'r cynfyfyrwyr, mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i ddewis a hysbysu'r nesaf ar y rhestr.
- Bydd pawb sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn cael eu gwahodd i ddigwyddiad Gwobrau (tua) 30 oed yng Nghaerdydd ym mis Hydref 2023. Sylwch ni fydd gallu’r enwebion i ddod i’r digwyddiad yn effeithio ar ganlyniad y cais.
- Nid oes rhodd ariannol yn rhan o’r wobr.
- Mae'r brifysgol yn cadw'r hawl i ganslo'r gystadleuaeth neu ddiwygio'r rheolau ar unrhyw adeg, heb roi rhybudd ymlaen llaw.
- Drwy wneud cyflwyniad, rydych yn caniatáu i'r data a ddarperir gennych gael ei ddefnyddio gan y brifysgol at ddibenion gweinyddu'r gystadleuaeth, ac yn unol â pholisi diogelu data Prifysgol Caerdydd. Bydd Tîm Cysylltiadau Cynfyfyrwyr yn cofnodi'r holl enwebiadau yn erbyn cofnod yr enwebai ar y gronfa ddata cynfyfyrwyr er mwyn cyfeirio atynt yn y dyfodol.
- Nid yw'r brifysgol yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am geisiadau a gwblhawyd yn anghywir, neu a gollwyd neu a ohiriwyd, nac am beidio â chynnwys cofnodion o ganlyniad i fethiannau technegol.