Graddedigion newydd
Llongyfarchiadau i chi am raddio. Rydych bellach yn aelod o gymuned Prifysgol Caerdydd o dros 195,000 o gynfyfyrwyr ym mhob cwr o'r byd.
Fel un o gynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd, mae gennych bellach fynediad at amrywiaeth o fanteision - ym mhedwar ban y byd - i roi hwb i'ch gyrfa a'ch helpu i gadw mewn cysylltiad.
Beth nesaf?
Man cychwyn eich bywyd ar ôl Caerdydd yw cael gwybod pa gefnogaeth a chyngor sydd ar gael i chi fel cynfyfyriwr. Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhestru Prifysgol Caerdydd ar eich cyfrif ac yn ein dilyn ar LinkedIn - mae’n lle gwych i greu cysylltiadau gyda chynfyfyrwyr eraill.
Cysylltwch, tyfwch eich rhwydwaith proffesiynol, a chefnogwch fyfyrwyr a chynfyfyrwyr eraill. Cysylltu Caerdydd yw’r lle i ddod o hyd i gyfleoedd newydd a manteisio ar gymuned fyd-eang cynfyfyrwyr Caerdydd.