Ewch i’r prif gynnwys

Mae Gwobrau (tua) 30 Prifysgol Caerdydd yn dathlu llwyddiannau cynfyfyrwyr sydd wedi gwneud cyfraniad cadarnhaol i'w cymuned, a'r cyfan cyn eu bod yn 30 oed. Wel, (tua) 30.

Gan osgoi’r fformat traddodiadol o gael rhestr o '30 o dan 30', roedd Gwobrau (tua) 30 yn agored i gynfyfyrwyr o dan 30, yn ogystal â rhai hŷn, ond sy'n teimlo eu bod (tua) 30. Cafodd y Gwobrau eu creu i gydnabod cynfyfyrwyr o Brifysgol Caerdydd sydd wedi creu newid, arloesi a thorri tir Newydd, cafwyd ymateb anhygoel.

Cafodd cynfyfyrwyr o bob cwr o'r byd ac ystod eang o ddiwydiannau eu henwebu naill ai ganddyn nhw eu hunain neu gynfyfyrwyr eraill, staff neu gydweithwyr.

Ar ôl cryn ystyriaeth, dewiswyd enillwyr (tua)30 a'u gwahodd i ddigwyddiad gwobrwyo arbennig ar 5 Hydref/neithiwr. Cynhelir yn adeilad arloesol sbarc | spark y Brifysgol. Cynhelir y digwyddiad gan Lywydd ac Is-Ganghellor newydd Prifysgol Caerdydd, yr Athro Wendy Larner, a bydd Matt Barbet (BA 1997, PgDip 1999) yn arwain y noson. Yn arbennig i ni eleni, bydd y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Bablin Molik, yn ymuno â ni (BSc 2001, PhD 2008, TAR 2014) a fydd yn cyflwyno gwobr cydnabyddiaeth arbennig Cymru i’r Byd.

Rydym wedi trefnu'r rhestr yn grwpiau i'ch helpu i lywio drwy straeon ein henillwyr:

  • Effaith Gymdeithasol
  • Iechyd a Lles
  • Entrepreneuriaeth
  • Gweithredwr Amgylcheddol
  • Eiriolwr Tegwch
  • Arloesedd
  • Cymru i'r Byd
  • Newyddiaduraeth a'r Cyfryngau

Guy Verrall-Withers (BMus 2013)

Mae Guy yn Gyfarwyddwr Artistig ac yn Brif Swyddog Gweithredol ar Ŵyl Opera Waterperry, cwmni a sefydlodd yn 2017 yn Waterperry House & Gardens yn Swydd Rydychen. Ei weledigaeth oedd creu gŵyl opera awyr agored arloesol sy’n hygyrch, yn fforddiadwy ac yn gyffrous. O dan gyfarwyddyd Guy, mae’r cwmni wedi cynnal chwe gŵyl a 32 o gynyrchiadau a phrosiectau addysg, i dros 15,500 o fynychwyr.

Mae’r cwmni’n cynnig tocynnau am ddim i bobl o dan 16 oed, yn ogystal â dosbarthiadau meistr a gweithdai am ddim. Mae addysg a mynediad yn flaenoriaethau allweddol i Guy a’r cwmni, sydd wedi arwain at ddatblygu rhaglen artistiaid ifanc wedi’i hariannu’n llawn ac wedi’i harwain gan y diwydiant, i chwalu’r rhwystrau cymdeithasol ac economaidd yn y celfyddydau.

Gydag angerdd am weithio i deuluoedd, mae’r cwmni wedi mynd â sioeau ar daith ledled y wlad, gan gyflwyno cerddoriaeth glasurol i blant, gan gynnwys Revolting Rhymes gan Roald Dahl mewn partneriaeth ag Ystâd Roald Dahl. Mae 10% o gynulleidfa’r ŵyl bob blwyddyn yn gwbl newydd i opera. Dywedodd y Telegraph yn ddiweddar fod Guy yn ‘dod ag opera i genhedlaeth newydd’.

Guy Verrall-Withers (BMus 2013)

Cynthia Lee (LLB 2015, PgDip 2017)

Mae Cynthia yn cydbwyso bywyd fel cyfreithiwr gweithredol, ymgeisydd PhD, cynorthwyydd ymchwil graddedig, ac aelod o Bwyllgor Hawliau Menywod (WRC) Cyngor Bar Malaysia. Fel ymgyrchydd hawliau dynol angerddol, mae wedi arwain sawl prosiect o dan y Pwyllgor i rymuso menywod a helpu’r rhai y mae anghyfiawnderau yn effeithio arnynt.

Yn ystod pandemig Covid-19, gweithiodd Cynthia a’i thîm yn ddiflino o dan fenter #KitajagaKita y Pwyllgor Hawliau Menywod i helpu menywod a theuluoedd sy’n agored i niwed ledled y wlad. Drwy waith caled ac ymrwymiad, cododd y fenter dros RM45,000.00 mewn chwe mis.

Yn 2022, arweiniodd dîm o dan ymgyrch #PeriodPower y Pwyllgor i godi ymwybyddiaeth o stigma’r mislif mewn cymunedau wedi’u hymyleiddio ym Malaysia.

Chwaraeodd Cynthia rôl yn y Pwyllgor yn lobïo ar gyfer gweithredu cyfreithiau aflonyddu rhywiol a gwrth-fasnachu pobl ym Malaysia. Mae hi a’i thîm wrthi’n gweithio ar droseddoli trais rhywiol mewn priodas ym Malaysia.

Cynthia Lee (LLB 2015, PgDip 2017)

Cellan Hall (BSc 2019, MSc 2021)

Derbynnydd Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig Effaith Gymdeithasol

Fel eiriolwr dros feddalwedd ffynhonnell agored, mae Cellan wedi datblygu llyfrgell Python sy’n defnyddio data sydd ar gael am ddim gan Transport for London i ddiwallu ei anghenion hygyrchedd. Mae Cellan, sydd â pharlys yr ymennydd sbastig diplegia, yn dibynnu ar gadair olwyn â llaw i symud gan fod y cyflwr yn effeithio ar ei goesau yn bennaf. Mae’n defnyddio’r trên tanddaearol yn Llundain yn aml i deithio o amgylch ei ddinas, ond nid yw’r apiau sy’n bodoli yn darparu’r wybodaeth hygyrchedd angenrheidiol yn gyson.

Mae llyfrgell Python Cellan ar gael am ddim i ddatblygwyr ei defnyddio ac ehangu arni. Ei nod yn y pen draw yw datblygu ap sydd â nodweddion hygyrchedd cynhwysfawr a all fod o fudd i gynulleidfa ehangach. Mae’n credu bod cyfrannu at feddalwedd ffynhonnell agored yn ffordd wych o gydweithio gyda phobl ledled y byd. Mae’n cydnabod pwysigrwydd rhoi yn ôl i’r gymuned, ac yn annog eraill i wneud yr un fath. Yn ôl Cellan, drwy rannu gwybodaeth ac adnoddau, gallwn greu datrysiadau mwy cynhwysol a hygyrch sydd o fudd i bawb.

Cellan Hall (BSc 2019, MSc 2021)

Laila Rashid (LLB 2009)

Ganed Laila yn Saudi Arabia, ac fe ddysgodd pan yn ifanc i gwestiynu’r anghyfiawnderau oedd i’w gweld yn y gymdeithas o’i chwmpas. Er gwaetha’r heriau roedd hi’n eu hwynebu, fe welodd drwy ei phrofiad fod grymuso menywod a merched yn cael effaith bwerus ar amodau cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd yn fyd-eang.

Ochr yn ochr â’i harfer cyfreithiol heriol, mae angerdd Laila am gydraddoldeb i fenywod wedi ei harwain at nifer di-ri o fentrau gwirfoddol, sy’n canolbwyntio ar hyrwyddo hawliau menywod yn y Dwyrain Canol, Canolbarth Asia, ac yn fyd-eang.

Yn fwyaf nodedig, mae Laila’n gwasanaethu fel Cadeirydd Bwrdd Menywod Canada dros Fenywod yn Affganistan (CW4WAfghan), sef sefydliad dyngarol a hawliau dynol sy’n grymuso menywod a merched o Affganistan drwy addysg deg ac o ansawdd. O dan arweinyddiaeth Laila ar y Bwrdd, mae’r sefydliad yn parhau i weithredu a darparu rhaglenni hollbwysig i wireddu’r hawl i ddysgu, er gwaetha’r gwaharddiad llwyr bron ar addysg i ferched yn Affganistan.

Laila Rashid (LLB 2009)

Lucky Chukwudi Aziken (MSc 2023)

Derbynnydd Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig Iechyd a Lles

Optometrydd yw Lucky Aziken sy'n gweithio i ddarparu mynediad cynaliadwy i wasanaethau gofal llygaid fforddiadwy o ansawdd mewn cymunedau sydd wedi'u hesgeuluso. Yn 2006, ymosododd lladron arfog ar gartref Lucky, a saethwyd ei dad yn ei wyneb. Er iddo gael gofal meddygol prydlon, nid oedd modd iddo gael mynediad at ofal llygaid o ansawdd, a achosodd yn anffodus iddo golli ei olwg. Dechreuodd Lucky wirfoddoli gyda nifer o fentrau iechyd ac arwain tîm gofal llygaid Menter Iechyd Affrica Wledig (RAHI).

Yn 2016, sefydlodd Lucky fenter Vision Care Givers International initiative (VCGi), sy’n fenter nid-er-elw â’r nod o ddarparu gwasanaethau gofal llygaid ym mhob gwlad. O dan ei arweinyddiaeth, darparodd VCGi fynediad at ofal llygaid sylfaenol i dros 21,250 o bobl yn Nigeria a Malawi, gyda deunyddiau addysgol yn cyrraedd dros 2 filiwn o bobl. Yn 2018, lansiodd Prevent Blindness Africa.

Yn ystod y pandemig, dechreuodd Lucky glinig llygaid symudol, gan ddarparu gwasanaethau hanfodol i gleifion yn eu cartrefi. Gweithiodd gyda thîm 4SD i ddarparu cyfarwyddyd byd-eang, a lansiodd COVID-19 Mission to Prisons, gan eirioli dros amddiffyn carcharorion. Mae hefyd yn Ysgolhaig y Gymanwlad, yn gymrawd Mandela Washington, yn gymrawd LEAP Africa, ac yn Llysgennad One Young World.

Lucky Chukwudi Aziken (MSc 2023)

Dr Afroditi Maria Konidari (MSc 2012, PhD 2017) a Rui Zhang (BSc 2008)

Afroditi a Rui yw cyd-sylfaenwyr Tendertec, busnes deallusrwydd artiffisial newydd yng Nghaerdydd sy’n datgloi heneiddio’n iach a gofalu’n iach. Mae’r ddau ymhlith yr 11 miliwn o ofalwyr di-dâl sydd yng ngwledydd Prydain. Dechreuon nhw Tendertec yn 2017 i drawsnewid y farchnad heneiddio ac i greu dyfodol mwy teg lle mae’r henoed a gofalwyr yn gallu ffynnu gyda’i gilydd.

Mae llwyfan cymorth gofal arloesol Tendertec, sef Hestia,yn defnyddio dysgu peiriannol a synhwyro thermol i helpu gofalwyr i ganfod risgiau cudd wrth heneiddio yn y cartref, a chael mynediad at ofal gwell sydd wedi’i deilwra i anghenion y bobl maen nhw’n eu cefnogi. Yn fwy eang, mae Tendertec yn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd drwy arloesi a chyd-greu atebion gyda grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli, gan gynnwys unigolion ag anableddau dysgu a phobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig ledled gwledydd Prydain a’r Undeb Ewropeaidd.

Mae Tendertec yn gwmni Wales Tech 50, cafodd ei enwi yn Enillydd Seren Newydd Rhanbarthol Cymru yn 2021 gan Tech Nation, enillodd wobr ‘Disruptive Product’ yn 2018 gan EIT Health a GE Healthcare, ac mae wedi cael grantiau gan Lywodraeth Cymru, UKRI a’r Comisiwn Ewropeaidd i drawsnewid heneiddio a gofalu yn yr 21ain ganrif.

Dr Afroditi Maria Konidari (MSc 2012, PhD 2017) a Rui Zhang (BSc 2008)

Bayan Mohajeri (BSc 2019)

Mae Bayan yn Gyfarwyddwr Datblygu Busnes ac yn Ymddiriedolwr Elusen o Lundain.

Ar ôl cael diagnosis o Sglerosis Ymledol (MS) yn 2020, daeth yn gydlynydd ar MS Together, sef grŵp cymorth i oedolion ifanc ag MS ledled gwledydd Prydain ac Iwerddon. Yna, cafodd ei benodi i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr yn MS Society UK, a fe oedd yr Ymddiriedolwr ifancaf ar yr elusen yn ei hanes dros 70 mlynedd.

Mae’n eiriolwr angerddol dros y gymuned MS, gan ymddangos ar y teledu ac mewn papurau newydd yn siarad am y cyflwr a’r realiti y mae pobl ag MS ac anableddau yn ei wynebu bob dydd, yn ogystal ag effaith polisïau ar eu bywydau. Uchelgais Bayan yw sicrhau bod yr oddeutu miliwn o bobl yng ngwledydd Prydain y mae MS yn effeithio arnynt yn teimlo wedi’u cynrychioli a’u cefnogi gan yr elusen, yn ogystal ag ariannu ymchwil a fydd yn helpu i atal MS.

Bayan Mohajeri (BSc 2019)

Josh Burke (PGCert 2016)

Ers cwblhau tystysgrif ôl-raddedig mewn Addysg Feddygol, mae Josh wedi dod yn arweinydd ym maes technoleg lawfeddygol ac addysg arloesi. Cafodd Josh ei ethol yn Llywydd ar Gymdeithas y Llawfeddygon mewn Hyfforddiant, lle bu’n cynrychioli llawfeddygon dan hyfforddiant yng ngwledydd Prydain a Gweriniaeth Iwerddon, ac yn llywio newidiadau i asesiadau cymhwysedd i gefnogi llawfeddygon i barhau â’u hyfforddiant yn ystod y pandemig.

Cafodd werth dros £250,000 o grantiau a bwrsariaethau addysgol i gefnogi addysg llawfeddygon dan hyfforddiant ledled Prydain. Yn 2022, comisiynodd adroddiad ‘Future of Surgery: Technology Enhanced Surgical Training’, gyda Choleg Brenhinol y Llawfeddygon yn Lloegr. Llywiodd y papur nodedig hwn ddarganfyddiadau a newidiadau polisi yn Swyddfa’r Cabinet yn y DU.

Mae ei waith wedi’i gyhoeddi’n eang ym maes llawfeddygaeth y colon a’r rhefr, hyfforddiant llawfeddygaeth robotig, ac ym maes datblygu sgiliau arloesi. Yn 2023, cyhoeddwyd mai Josh oedd Cyfarwyddwr Addysg Hwb Arloesi Coleg Brenhinol y Llawfeddygon yn Lloegr, lle lansiodd y cwrs Sgiliau Addysg Arloesi cyntaf a oedd yn cael ei redeg am ei gost wirioneddol i lawfeddygon dan hyfforddiant. Drwy’r fforwm hwn, mae’n cefnogi clinigwyr i ddatblygu eu sgiliau arloesi gan barhau i weithio yn y GIG.

Josh Burke (PGCert 2016)

Harsh Dahiya (MBA 2019)

Harsh yw sylfaenydd Grŵp Harvesto, sef prif wneuthurwr offer labordy arbenigol a gwneuthurwr citiau profi pridd digidol mwyaf y byd, sy’n cael eu defnyddio mewn dros ddeugain o wledydd ledled y byd ar hyn o bryd.

Mae technoleg Harvesto o dan genhadaeth Cerdyn Iechyd Pridd Llywodraeth India, wedi bod o fudd i dros 200 miliwn o ffermwyr yn India. Mae Harsh wedi creu dros 1,500 o entrepreneuriaid gwledig yn India, gan gyflogi dros 500 o bobl bob blwyddyn.

Cafodd Harsh wobr ‘Entrepreneur y Flwyddyn’ gan Weinidog Anrhydeddus Undeb India Mr KJ Alphons yn 2019. Yn 2022, cafodd ei enwi ar restr ‘25 o’r Cyn-fyfyrwyr Gorau’ Sefydliadau Addysgol Manav Rachna, o dros 35,000 o gyn-fyfyrwyr. Yn 2017, cafodd ei waith yn Harvesto ei gydnabod gan Sefydliad Bill a Melinda Gates.

Mae Harvesto a gwaith Harsh Dahiya wedi cael ei wobrwyo a’i gydnabod sawl tro gan Brif Weinidog Anrhydeddus India, Arlywydd Anrhydeddus India, Llywodraeth India, Fforwm Economaidd y Byd, Niti Aayog, a Gweinyddiaeth Amaeth India.

Harsh Dahiya (MBA 2019)

Dr Arron Cullen (PhD 2023)

Derbynnydd Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig Entrepreneuriaeth

Mae Arron yn droseddegydd ymroddedig sydd wedi cydweithio yn LabordyGwrthGasineb Prifysgol Caerdydd ers pum mlynedd i ddatblygu llwyfan o’r radd flaenaf i fonitro mynegi casineb er mwyn helpu i amddiffyn sefydliadau, brandiau ac unigolion rhag niwed ar-lein.

Ers hynny, mae wedi cyd-sefydlu cwmni deillio’r Brifysgol, nisien.ai, ac yn Brif Swyddog Gweithredol arno. Mae’r cwmni technoleg yn defnyddio deallusrwydd artiffisial a dynol i ddiogelu ar-lein yn foesegol ac yn effeithiol yn erbyn ystod eang o fathau o niwed ar-lein ar gyfer cleientiaid byd-eang.

Wrth i’r busnes ddatblygu ac aeddfedu, mae Arron yn ymroddedig i wneud mannau ar-lein yn fwy diogel i bobl allu rhyngweithio a chyfathrebu â’i gilydd. O dan ei gyfarwyddyd, mae nisien.ai yn darparu ymagwedd gydweithredol tuag at arloesi drwy ymchwil, er mwyn sicrhau bod ei gynhyrchion masnachol ar flaen y gad o ran technoleg.

Dr Arron Cullen (PhD 2023)

He (River) Huang (MA 2013)

Cafodd He (River) Huang ei eni yn Tsieina, a chafodd ei angerdd am y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus ei danio ar ôl ymrestru ar gyfer cwrs Meistr ym Mhrifysgol Caerdydd i astudio Cysylltiadau Cyhoeddus Rhyngwladol a Rheoli Cyfathrebu Byd-eang. Nid yn unig y gwnaeth hyn siapio ei lwybr addysgol, ond gosododd y sylfaen ar gyfer ei gyflawniadau yn y dyfodol.

Trodd llwybr River at fyd entrepreneuriaeth, gan arwain at gyd-sefydlu PingPongDigital, asiantaeth farchnata ddigidol amlwg yn Tsieina. Dros ddegawd, mae’r asiantaeth wedi blodeuo i fod yn endid ffyniannus, gan adael marc parhaol ar y tirlun marchnata digidol. Mewn diwydiant cystadleuol sy’n esblygu’n barhaus, mae ysbryd diwyro River yn parhau i fod yn rym y tu ôl i gyflawniadau parhaus yr asiantaeth. Mae ei ymrwymiad diwyro i ragoriaeth yn mynd â PingPongDigital i archwilio gorwelion newydd a mentro copaon newydd yn barhaus.

He (River) Huang (MA 2013)

Rashi Sanon Narang (BSc 2003)

Dechreuodd Rashi ‘Heads Up For Tails’, sef prif frand gofal anifeiliaid anwes India, yn 2008. Ar y pryd, roedd y farchnad gofal anifeiliaid anwes yn y wlad yn ddi-drefn, heb ddim darpariaeth o ansawdd. Ar ben y stigma israddoldeb oedd yn gysylltiedig ag e, doedd neb yn credu yn ei botensial. Cafodd ei gwrthod gan gannoedd o werthwyr, manwerthwyr a hyd yn oed ei ffrindiau a’i theulu. Ond roedd hi’n gwybod bod yna rieni eraill i anifeiliaid anwes, fel hi, yn chwilio am gynhyrchion o ansawdd, ac fe gadwodd hynny iddi fynd.

Bymtheg mlynedd yn ddiweddarach, mae gan HUFT 85 o siopau ledled India. Mae hi wedi adeiladu brand sydd wedi dod yn gyfystyr â gofal anifeiliaid anwes yn y wlad, ac wedi creu marchnad lle nad oedd un yn bodoli o’r blaen. Serch hynny, mae ei chyfraniad yn fwy na darparu dros 5,000 o gynhyrchion anifeiliaid anwes o ansawdd, a dros 50 o spas gyda thrinwyr anifeiliaid anwes hyfforddedig i bobl India. Mae Rashi, trwy lwyfan HUFT, wedi chwarae rôl allweddol yn grymuso rhieni anifeiliaid anwes gyda gwybodaeth sy’n eu galluogi i ddeall ac i ofalu am eu hanifeiliaid anwes yn well. Mae’r brand hefyd yn helpu miloedd o gŵn a chathod cymunedol drwy Sefydliad HUFT.

Rashi Sanon Narang (BSc 2003)

Andrea San Gil León (MSc 2016)

Mae Andrea’n arbenigwraig ryngwladol ac yn arweinydd meddwl ym maes cynaliadwyedd, dinasoedd a thrafnidiaeth. Arweiniodd y gwaith o ddatblygu rhaglen niwtraliaeth carbon y wlad yn 2011. Daeth i Gaerdydd fel Ysgolhaig Chevening yn 2014, ac wedi hynny sefydlodd y Ganolfan ar gyfer Cynaliadwyedd Trefol, sef corff anllywodraethol sy’n gweithio i gyflymu’r trosglwyddiad at ddinasoedd mwy cynaliadwy, cynhwysol a gwydn yn y De Byd-eang.

Yn 2018, daeth yn gynghorydd llywyddol i lywodraeth Costa Rica, gan weithio gyda’r Brif Foneddiges i drawsnewid a datgarboneiddio trafnidiaeth a datblygiad trefol. Yn 2019, cyd-sefydlodd y Rhwydwaith Byd-eang ar gyfer Trafnidiaeth Boblogaidd, sef menter sydd â’r nod o gydnabod, integreiddio, a chefnogi trafnidiaeth boblogaidd ledled y byd. Mae’n gwasanaethu ar hyn o bryd fel Cyfarwyddwr Gweithredol y Rhwydwaith.

Gall Andrea bellach ychwanegu (tua) 30 ochr yn ochr ag anrhydeddau eraill, gan gynnwys cyrraedd rhestr ‘40 Prif Arweinwyr o dan 40’ Costa Rica gan Bapur Newydd ‘El Financiero’, Siapiwr Byd-eang Fforwm Economaidd y Byd, un o ffigurau benywaidd pwysig LATAM ym maes trafnidiaeth gan y Banc Datblygu Rhyng-Americanaidd, ac un o Leisiau Ffeministaidd Nodedig mewn Trafnidiaeth yn 2023 gan y fenter Transforming Urban Mobility Initiative (TUMI).

Andrea San Gil León (MSc 2016)

Eleanor Humphrey (LLB 2014)

Sefydlodd Eleanor TOPL yn 2021 i brofi bod byd heb gwpanau untro yn gallu bodoli.  

Nid oes modd ailgylchu cwpanau tafladwy yn hawdd – maen nhw’n cynnwys leinin plastig ar y tu mewn er mwyn dal dŵr, felly dim ond ffatrïoedd arbenigol all eu hailgylchu – sy’n golygu bod y rhan fwyaf yn mynd i safleoedd tirlenwi.

Mae TOPL bellach yn gweithio gyda chadwyni coffi ledled y byd i gael gwared â chwpanau tafladwy o’u hecosystemau gyda’u cwpanau arloesol IoT Connected Coffee.

Eu nod yw trawsnewid y diwydiant coffi drwy ddarparu opsiynau amgen clyfar ac ailddefnyddiadwy – ar ôl datblygu cwpan coffi â phatent rhyngwladol (a restrwyd gan yr FT a GQ fel un o’r teclynnau coffi gorau) gyda thechnoleg i dracio defnydd a gwobrwyo ailddefnydd.

Mae gwledydd ledled y byd bellach yn trethu cwpanau tafladwy, gan greu marchnad fyd-eang fawr ar gyfer cwpanau ailddefnyddiadwy, gyda 2.25 biliwn o gwpanau coffi yn cael eu defnyddio bob dydd. Mae TOPL yn gweithio mewn dros hanner cant o wledydd ledled y byd, ac megis dechrau mae gwaith y tîm wrth i’r ‘latte levies’ barhau i gael eu cyflwyno. Mae TOPL a’u cwpanau sy’n cael eu galluogi gan dechnoleg, mewn sefyllfa dda i gymryd mantais ar y newid byd-eang hwn, o un-defnydd i ailddefnydd.

Eleanor Humphrey (LLB 2014)

Aleena Khan (BSc 2020, MSc 2023)

Derbynnydd Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig Gweithredwr Amgylcheddol

Nod Aleena yw creu neu wella amgylcheddau trefol gyda phwyslais ar liniaru tlodi, lleihau anghydraddoldebau iechyd, a defnyddio adnoddau cynaliadwy drwy ddarparu anghenion hanfodol fel dŵr, ynni, trafnidiaeth a gofod. Hi yw comisiynydd ieuengaf Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (NICW), ac mae’n canolbwyntio ar anghenion seilwaith cynaliadwy Cymru.

Fel cyd-arweinydd prosiect Ynni Adnewyddadwy NICW a chadeirydd Grŵp Cynghori’r Prosiect, mae Aleena’n herio’r ymagwedd ‘busnes fel arfer’ tuag at ddarparu seilwaith, drwy roi argymhellion radical i’r llywodraeth ar gyfer defnyddio seilwaith ynni adnewyddadwy yng Nghymru i helpu i gyflawni Cymru Sero Net erbyn 2050.

Mae Aleena’n herio normau cymdeithasol ac yn cyfrannu at amrywiaeth a chynwysoldeb yng Nghymru drwy gymryd rolau arwain. Hi yw Arweinydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Sefydliad Siartredig Trafnidiaeth a Thraffyrdd Cymru, ac mae’n cyfrannu’n rheolaidd i’r BBC ac S4C ar faterion amgylcheddol, diwylliannol a chymdeithasol, yn Gymraeg a Saesneg.

Ar hyn o bryd mae Aleena’n Gynllunydd Trafnidiaeth Graddedig yn Atkins, lle mae’n gyd-arweinydd ar ‘Fforwm Gyrfaoedd Ifanc Trafnidiaeth y DU ac Ewrop’ Atkins, ac yn aelod o ‘Fforwm Arweinwyr Graddedigion y DU ac Ewrop’.

Aleena Khan (BSc 2020, MSc 2023)

Yousef Ahmed (BEng 2019)

Mae Yousef, myfyriwr graddedig Peirianneg Fecanyddol 26 oed gweledigaethol ac entrepreneur, yn haeddu cydnabyddiaeth am ei gyfraniadau eithriadol i argraffu 3D a’i ymrwymiad diwyro i ysgogi newid cadarnhaol.

Fel cyfarwyddwr LUNIA 3D, mae ysbryd entrepreneuraidd Yousef wedi gwthio’r cwmni i flaen y gad o ran datrysiadau argraffu 3D. Gan gynnig gwasanaethau addysgol, gweithgynhyrchu ac atgyweirio, mae partneriaethau strategol LUNIA 3D wedi symleiddio cynhyrchiant gan hyrwyddo cynaliadwyedd.

Mae ymroddiad Yousef i gyfrifoldeb amgylcheddol i’w weld drwy wasanaethau atgyweirio LUNIA 3D, gan feithrin economi gylchol. Mae gweithdai addysgol yn grymuso darpar beirianwyr, gan sbarduno arloesedd.

Fel yr unig gwmni argraffu 3D yng Nghymru sy’n cynnig gwasanaethau pwrpasol, mae ymagwedd arloesol Yousef yn gosod LUNIA 3D ar wahân, gan arddangos ei allu i nodi cyfleoedd yn y farchnad a chreu effaith barhaol. Gan barhau i ehangu ei wybodaeth ym maes peirianneg, mae taith Yousef yn enghraifft o hyblygrwydd a meddylfryd dysgu gydol oes, gan ei wneud yn fodel rôl i ddarpar entrepreneuriaid.

Yousef Ahmed (BEng 2019)

Elliot Howells (BSc 2016)

Mae Elliot yn gweithio yn Microsoft, yn arwain ar werthiannau technegol ledled gwledydd Prydain ar gyfer un o lwyfannau menter Microsoft. Mae Elliot hefyd yn gadeirydd ar rwydwaith LHDTCRhA+ Cenedlaethol Microsoft, GLEAM, sy’n sicrhau bod Microsoft yn lle rhagorol i weithio ar gyfer y gymuned. Mae’r rhwydwaith yn falch o’r gwaith a wnaed i gyflwyno buddion gofal iechyd newydd i weithwyr, fel gwasanaethau trawsnewid rhywedd a chymorth ffrwythlondeb i rieni un-rhyw, gan ddathlu cerrig milltir allweddol yng nghalendr LHDTCRhA+.

Mae Elliot hefyd yn eistedd ar fwrdd TEDxLondon; sy’n canolbwyntio ar roi llwyfan i leisiau nas clywir ledled Llundain. Yn ddiweddar, mae hefyd wedi dychwelyd i fwrdd Undeb Myfyrwyr Caerdydd fel Ymddiriedolwr, gan gadeirio’r pwyllgor Pobl, Datblygu a Chynhwysiant, ar ôl gwasanaethu fel Is-Lywydd a Llywydd pan oedd yn astudio yng Nghaerdydd.

Gan barhau â’r thema o gyfle cyfartal, yn ddiweddar gorffennodd Elliot ei dymor fel Ymddiriedolwr ar y sefydliad celfyddydol Cymru gyfan, Elusen Aloud, ar ôl bod yn fuddiolwr blaenorol ei hun. Mae’r sefydliad yn darparu profiadau cerddorol rhagorol i bobl ifanc ledled Cymru, gan feithrin hyder, iechyd meddwl cadarnhaol, uchelgais a sgiliau gweithio mewn tîm.

Elliot Howells (BSc 2016)

Patience Nyange (MA 2021)

Newyddiadurwr, Arbenigwr Cysylltiadau Cyhoeddus Rhyngwladol ac Eiriolwr Byd-eang dros hawliau menywod a merched yw Patience, sy’n byw yn Kenya. Gyda dros ddeunaw mlynedd o brofiad mewn sawl maes cyfathrebu, mae hi wedi bod yn flaengar yn eirioli dros newyddiadura sy’n sensitif i rywedd yn Affrica.

Mae Patience, sy’n Gyfarwyddwr Gweithredol ar Gymdeithas Menywod y Cyfryngau yn Kenya (AMWIK), hefyd yn Is-Gadeirydd ar Fforwm Nodau Datblygu Cynaliadwy Kenya (SDGsForum-Kenya).

Patience yw sylfaenydd #KenyaWomenSeries, sef llwyfan sy’n curadu proffiliau ysbrydoledig o fenywod o Kenya a’u heffaith ar y byd. Mae hi’n helpu i rymuso menywod drwy ei gwaith ysgrifennu toreithiog, sy’n arddangos eu potensial. Cafodd wobr Ffigur Cymunedol Affrica yn ystod seremoni Gwobrau Voice Achievers 2021.

Mae hi hefyd yn fentor ac yn aelod bwrdd yn Emerging Leaders Foundation-Africa. Mae ELF-Africa yn grymuso, yn cefnogi, ac yn paratoi pobl ifanc i gyflawni cyfranogiad ystyrlon, urddasol ac effeithiol ym meysydd llywodraethu, yr economi a materion cyhoeddus. Mae ei llais a’i hangerdd parhaus dros hawliau dynol, hawliau menywod a grymuso pobl ifanc yn golygu ei bod yn frand adnabyddus yn lleol ac yn rhyngwladol.

Patience Nyange (MA 2021)

Will Moore (BA 2019, MTh 2021)

Derbynnydd Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig Eiriolwr Ecwiti

Mae Will yn eiriolwr dros ddealltwriaeth fwy iach o wrywdodau er mwyn gweithio at gyfiawnder rhywedd. Cyhoeddwyd ei lyfr, 'Boys Will Be Boys, and Other Myths: Unravelling Biblical Masculinities' yn 2022 pan oedd ond yn 24 oed, gyda’r cyhoeddwyr diwinyddol adnabyddus SCM Press. Mae’r llyfr yn gwthio ffiniau dealltwriaeth hanesyddol o’r hyn mae’n ei olygu i fod yn ddyn fel y’i canfyddir yn y Beibl, sy’n sylfaen i lawer o’r ddealltwriaeth gyfoes sydd gan bobl o’u hunain.

Mae dealltwriaeth ac ymrwymiad Will i Astudiaethau Cwiar a Rhywedd, Astudiaethau Gwrywdod, a Diwinyddiaeth yn glodwiw. Mae ei gyhoeddiadau yn anghyfforddus i’w darllen gan eu bod yn herio ein dealltwriaeth o ddiwinyddiaeth a phwy ydyn ni, gan ein hannog ni i weld safbwynt gwahanol.

Mae ei ymddangosiadau yn y wasg ar Radio’r BBC a BBC One wedi dod â’i waith i sylw’r cyhoedd, ac yn dangos bod Will eisoes yn addysgwr diwinyddol ifanc dylanwadol. Cafodd ei dderbyn i Eglwys Loegr fel Ordinand, ac mae hynny yn ogystal â’i astudiaethau PhD, yn dangos hyder yr Eglwys Anglicanaidd ynddo fel darpar offeiriad.

Will Moore (BA 2019, MTh 2021)

Dr Emma Yhnell (BSc 2012, PhD 2016)

Mae Dr Emma Yhnell yn gwneud niwro(wyddoniaeth) yn fwy hygyrch, cynhwysol a phosib i bobl yng Nghymru, ledled gwledydd Prydain, a’r byd.

Fel cynrychiolydd cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant etholedig Cymdeithas Niwrowyddoniaeth Prydain (BNA), gwirfoddolodd Emma i arwain ar waith datblygu sefydliadol, gweledigaeth strategol, darpariaeth a gwelliant parhaus y strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Arweiniodd ar y gwaith o greu Cynllun Ysgolhaig gyda’r nod o fynd i’r afael ag ethnigrwydd amrywiol sydd wedi’u tangynrychioli ym maes niwro(wyddoniaeth). Wedi’i chymell gan ei phrofiad ei hun, sefydlodd grantiau gyrfa i alluogi pobl â chyfrifoldebau gofalu i gael mynediad at gyfleoedd a chyllid i fynd i gynadleddau. Mae gwaith Emma wedi sbarduno newid diwylliannol pellach, gan gynnwys sefydlu polisi Mannau Mwy Diogel.

Yn ogystal, mae Emma wedi dod â niwro(wyddoniaeth) at gynulleidfaoedd newydd fel llysgennad STEM, ac wedi cyflawni dros 250 o weithgareddau, drwy gael effaith ar gannoedd o filoedd o bobl ifanc, yn chwalu mythau, yn dinistrio ystrydebau ac yn rhoi cyfleoedd i gyfranogi ym maes niwro(wyddoniaeth) ac Addysg Uwch.

Dr Emma Yhnell (BSc 2012, PhD 2016)

Jenny Mathiasson (MSc 2013) a Kloë Rumsey (MSc 2014)

The C Word – The Conservator's Podcast, yw podlediad mwyaf disglair ac addysgiadol y byd ar gyfer cadwraeth treftadaeth. Mae Jenny a Kloë yn arloeswyr, a dechreuon nhw’r podlediad yn 2017, bedair blynedd ar ôl graddio ym Mhrifysgol Caerdydd. Gyda’i gilydd maen nhw wedi cynhyrchu 13 o gyfresi a 110 o benodau. Roedden nhw’n gynnar iawn i fyd y podlediadau, a dydyn nhw ddim yn ofni herio’r proffesiwn ac archwilio materion fel anabledd, mamolaeth a chydraddoldeb, yn ogystal â thrafod pethau sy’n bwysig i gadwraethwyr fel ystlumod mewn clochdai, moeseg ac ailwladoli, plant mewn arddangosfeydd, a chyfrifiaduron mewn treftadaeth.

Mae eu lleisiau’n gyfarwydd ac yn annwyl i gadwraethwyr ledled y byd, sy’n egluro pam eu bod nhw, mewn proffesiwn mor fach, wedi cael dros 200,000 o lawrlwythiadau, ychydig filoedd o wrandawyr i bob pennod, a chynulleidfaoedd mewn 120 o wledydd.

Mae The C Word yn cysylltu ac yn ysbrydoli cadwraethwyr o’r Ariannin i Singapôr, yn annog datblygiad personol, ac yn sicrhau hygyrchedd drwy gynnig trawsgrifiadau, nodiadau sioe a sawl sianel. Fe wnaethon nhw hefyd ddarparu cymorth a chysylltiad hollbwysig i’r gymuned gadwraeth yn ystod y pandemig.

Jenny Mathiasson (MSc 2013) a Kloë Rumsey (MSc 2014)

Dr Aslam Sulaimalebbe (BEng 2006, PhD 2010)

Mae Aslam yn wyddonydd medrus, yn ddyfeisiwr ac yn weledigaethwr ym maes technoleg, sy’n gwthio ffiniau arloesedd yn barhaus gyda phortffolio nodedig o dros ugain o batentau a hanes helaeth o gyhoeddi ym myd technoleg synwyryddion.

Fel Cyfarwyddwr Technoleg yn Scanna MSC, mae wedi gwneud cyfraniadau sylweddol ar draws diwydiannau amrywiol, gan adael marc parhaol ym meysydd gofal iechyd, diogelwch, mapio pwysedd, modura, ac aerodynameg. Mae wedi cyflawni sawl prototeip â phatent yn llwyddiannus yn y meysydd hyn, wedi arloesi â thechnegau sganio anymyrrol newydd, a chwyldroi’r maes canfod ffrwydron, arfau a chyflyrau iechyd. Nid yn unig y mae’r arloesiadau hyn wedi cynyddu mesurau diogelwch, ond maent hefyd wedi gyrru ffiniau diagnosteg gofal iechyd i uchelfannau digynsail.

Mae llwyddiant y treialon gweithredol sganio esgidiau, mewn cydweithrediad â’r Adran Drafnidiaeth, y Weinyddiaeth Amddiffyn, ac arbenigwyr diogelwch meysydd awyr, wedi sbarduno optimistiaeth ar gyfer gwella protocolau diogelwch. Gwnaed y cynnydd nodedig hwn gan wella cyfforddusrwydd teithwyr ar yr un pryd, drwy gael gwared â’r angen i dynnu esgidiau a lleihau amseroedd aros mewn ciwiau. Cofiwch ddiolch iddo y tro nesaf y byddwch chi’n teithio gyda thyllau yn eich sanau!

Dr Aslam Sulaimalebbe (BEng 2006, PhD 2010)

Dr Will Webberley (BSc 2010, PhD 2015)

Derbynnydd Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig Arloesedd

Will yw cyd-sylfaenydd y cwmni technoleg arloesi Simply Do Ideas (SimplyDo) yng Nghaerdydd. Fel Prif Swyddog Technoleg SimplyDo, mae wedi bod yn arwain gwaith arloesi a datblygu cynnyrch SaaS y cwmni, sydd wedi ennill gwobrau. Mae hyn wedi bod yn allweddol wrth dyfu’r cwmni, drwy gefnogi entrepreneuriaid ifanc i gynllunio ac i dyfu busnesau newydd yn y cyfnod cynnar, yn ogystal â helpu sefydliadau mawr fel y GIG i arloesi drwy welliant sylweddol a pharhaus, a chyfoethogi’r gadwyn gyflenwi. Mae gan Will gefndir busnes a thechnolegol eang, gyda phrofiadau blaenorol mewn technoleg ariannol, SaaS a busnesau newydd.

Mae Will wedi darlithio ar lefelau israddedig ac ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae wedi cyfrannu i nifer o brosiectau ymchwil a chyhoeddiadau newydd a nodedig mewn technolegau cymdeithasol ac arloesedd rheoli gwybodaeth, yn benodol mewn perthynas â chyfathrebu dynoli beiriant a pheiriant i beiriant.

Mae’n angerddol am fusnes ac entrepreneuriaeth, ac mae Will yn mwynhau cydweithio gyda busnesau newydd a rhai sy’n tyfu, yn ogystal â darparu profiad a mewnwelediad i bobl ifanc sy’n gobeithio dechrau eu taith entrepreneuraidd eu hunain.

Dr Will Webberley (BSc 2010, PhD 2015)

Bleddyn Harris (BA 2014)

Derbynnydd Gwobr Dewis y Bobl

Cafodd Bleddyn ei enwi’n ddiweddar yn un o’r 100 o Wneuthurwyr Newid yng Nghymru, ac mae wedi cael ei gydnabod ar y Rhestr Pinc fel un o bobl LHDTC+ mwyaf dylanwadol Cymru ers 2019.

Fel Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Golygyddol LGBTQYMRU, mae Bleddyn yn gweithio tu ôl i’r llen i hyrwyddo ac i rannu straeon pobl LHDTC+ yng Nghymru ac o Gymru, i gynulleidfa fyd-eang.

O dan arweinyddiaeth Bleddyn, mae LGBTQYMRU wedi dod yn elusen sy’n gartref i’r Pride rhithwir Cymru-gyfan cyntaf, a’r cylchgrawn a’r fforwm newyddion LHDTC+ cwbl ddwyieithog cyntaf. Yn fwy diweddar, mae Bleddyn wedi symud LGBTQYMRU at ofod cyhoeddi sy’n gartref i brofiadau croestoriadol y gymuned LHDTC+ sy’n aml yn cael eu diystyru, drwy ‘The Queer Collections’ – menter i gydweithio a chyhoeddi cynnwys creadigol unigolion o gymunedau Cwiar yng Nghymru a’r byd yn ehangach.

Arweiniodd Bleddyn ar ddatblygu interniaeth a chynllun prentisiaeth clodwiw Ymlaen Comisiwn y Senedd. Ar hyn o bryd mae’n Gynghorydd Annibynnol ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant i Heddlu De Cymru, ac mae’n cynrychioli Cymru ar Gomisiwn Cenedlaethau’r Dyfodol cyntaf y Deyrnas Unedig.

Bleddyn Harris (BA 2014)

Kacie Morgan (BA 2010)

Yn ôl yn 2010, sefydlodd Kacie flog bwyd yng Nghymru i ddatblygu ei phortffolio ysgrifennu ar ôl graddio. Dair mlynedd ar ddeg yn ddiweddarach, mae blog The Rare Welsh Bit wedi ennill gwobrau fel blog sy’n canolbwyntio ar fwyd a theithio yng Nghaerdydd, ac mor bell â’r Caribî.

Heddiw, mae Kacie’n gweithio’n llawn amser ar ei blog a’i sianeli cymdeithasol, sydd wedi ymddangos ar BBC One, BBC Wales, Food 52, a Metro. Mae’n aelod o Urdd yr Awduron Bwyd, ac mae Kacie wedi ysgrifennu i Croeso Cymru, Cylchgrawn Sainsbury’s, a Co-op Food Mag, ymhlith cyhoeddiadau eraill.

Yn 2018, cafodd wobr ‘Blogiwr y Flwyddyn’ gan Awdurdod Twristiaeth Grenada, i gydnabod ei gwaith ar Ŵyl Siocled Grenada.

Yn fwy diweddar, roedd yn feirniad ar Wobrau Bwyd Stryd Cymru yng Nghaerdydd am yr ail flwyddyn yn olynol. Bu hefyd yn siarad ochr yn ochr â’r cogyddion enwog, The Hairy Bikers, yng nghynhadledd ‘Pŵer Twristiaeth Bwyd’ gan Bwyd a Diod yr Alban.

Kacie Morgan (BA 2010)

James Dunn (BA 2012)

Derbynnydd Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig Cymru i'r Byd

Er iddo gael ei fagu yn Lloegr, mae James yn Gymro mor angerddol ag all fod. Bu’n byw yng Nghaerdydd am 13 blynedd, ac yn cyfrannu’n helaeth i fywyd cyhoeddus Cymru. Roedd yn gynghorydd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru (gynt), yn arwain datblygiad polisi ar gyfer elusen yng Nghymru, ac yn gweithio’n helaeth gyda llywodraethau i wella polisïau myfyrwyr a chydraddoldeb. Gwasanaethodd ar fwrdd Llenyddiaeth Cymru, gyda’r nod o gynyddu mynediad pobl ifanc at lenyddiaeth Cymru a’i statws byd-eang.

Ymunodd â Llywodraeth y Deyrnas Unedig gan arwain ar drafodaethau bargeinion masnach (a oedd yn werth £2 biliwn i economi’r Deyrnas Unedig). Bu’n trefnu teithiau masnach dramor ac yn creu cyfleoedd ar gyfer allforion o Gymru. Pan symudodd i Loegr i weithio i gwmni technoleg amlwladol, parhaodd i arddangos Cymru. Daeth yn Gyfarwyddwr Anweithredol yn Chwaraeon Anabledd Cymru ac mae’n gwasanaethu fel aelod archwilio ar gyfer Coleg y Cymoedd.

James Dunn (BA 2012)

Alexandra Humphreys (BMus 2006)

Cyn dod yn gyflwynydd tywydd ar S4C, roedd Alex yn wyneb cyfarwydd i blant ledled gwledydd Prydain, yn cyflwyno Ffeil ar S4C a Newsround ar CBBC – gan sicrhau bod gan blant ddealltwriaeth glir o ddigwyddiadau’r byd.

Mae’n dal i adrodd yn rheolaidd ar raglenni newyddion y BBC, ac mae wedi creu rhaglenni dogfen ar gemau ar gyfer BBC Radio 4, Gwasanaeth y Byd a Radio Cymru. Yn 2022, ysgrifennodd Alex ei llyfr ffeithiol cynaf ar sut bu i gemau fideo helpu pobl yn ystod y pandemig: ‘Playing with Reality: Gaming in a Pandemic.’

Cyn cyflwyno, bu Alex yn gweithio fel ymchwilydd ar BBC Proms, gan ddefnyddio ei gradd mewn cerddoriaeth, a hefyd ar Blue Peter y BBC, lle dysgodd Barney Harwood i chwarae’r trombôn.

Cafodd Alex ddiagnosis o epilepsi yn 17 oed, ac mae wedi defnyddio ei phroffil i godi ymwybyddiaeth o’r cyflwr – gan ffilmio rhaglen ddogfen yn ddiweddar i roi llais i eraill sy’n byw ag epilepsi. Mae ‘Alex Humphreys: Epilepsi a Fi’ ar gael ar BBC iPlayer.

Alexandra Humphreys (BMus 2006)

Dr Metji Makgoba (PhD 2020)

Mae Metji yn Uwch Ddarlithydd Cyfathrebu ym Mhrifysgol Limpopo yn Ne Affrica, ac yn sylwebydd gwleidyddol a pholisi cyhoeddus clodwiw ar draws cyfryngau De Affrica.

Mae’n hyrwyddo deialog ystyrlon ar bolisïau economaidd-gymdeithasol De Affrica. Mae ei waith yn y maes hwn wedi ailfywiogi diddordeb cenedlaethol a thrafodaethau ar yr effaith wirioneddol y mae polisïau fel Broad-Based Black Economic Empowerment (BBBEE) De Affrica wedi ei chael ar amodau economaidd-gymdeithasol cymdeithas De Affrica.

Mae ei waith, sy’n canolbwyntio ar feirniadu polisi cenedlaethol mewn modd adeiladol i ysbrydoli gwelliant cymdeithasol drwy lunio polisïau yn ystyrlon, yn golygu ei fod yn parhau i fod yn sylwebydd poblogaidd ymhlith darlledwyr cenedlaethol a rhanbarthol ar faterion polisi cenedlaethol a deialog wleidyddol.

Mae Metji yn parhau i gynnal ymchwil ar arferion disgwrs o ran polisi cymdeithasol. Mae wedi cyhoeddi ymchwil mewn sawl cyfnodolyn academaidd gan gynnwys Critical African Studies, African Studies, a’r Journal of Public Administration.

Dr Metji Makgoba (PhD 2020)

Mared Parry (BA 2018)

Derbynnydd Gwobr Dewis y Bobl

Mae Mared yn gyflwynydd clodwiw sy’n gweithio’n agos gydag S4C, BBC Cymru ac ITV Cymru. Enillodd ei chyfres ‘Tisho Fforc?’ ar gyfer platfform ieuenctid Hansh wobr am y Gyfres Gymdeithasol Orau yng Ngwobrau Lleisiau Newydd Gŵyl TV Caeredin, ac mae wedi’i henwebu ar gyfer gwobr Fformat Byr Gorau yng Ngwobrau Broadcast Digital. Mae hi hefyd wedi rhyddhau ffilm ddogfen gydag ITV am ADHD a’i dan-ddiagnosis ymhlith menywod.

Mae Mared wedi gweithio i gylchgrawn Fabulous, Heart Radio, cylchgrawn OK!  a’r Independent, fel newyddiadurwr a golygydd y byd adloniant, gan gyfweld ag enwogion ar amryw garped coch, a hi hefyd oedd y prif gynhyrchydd digidol ar gyfer sioe Jeremy Vine. Hi bellach yw rheolwr cymdeithasol masnach DMG Media, gan arwain ar yr holl strategaethau masnach ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol ar draws y Daily Mail, Metro, Telegraph a mwy.

Mae hi hefyd yn ymgyrchu dros ddiogelwch ar-lein, ac wedi gweithio’n agos gyda’r NSPCC i newid y gyfraith ar amddiffyn plant ar-lein, ac mae wedi siarad yn San Steffan ac ar newyddion Sky a Channel 4 am ei phrofiadau hi fel dioddefwr meithrin perthynas amhriodol.

Mared Parry (BA 2018)

James Smart (MA 2016)

Derbynnydd Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig Newyddiaduraeth a'r Cyfryngau

Mae James Smart yn arweinydd newyddiaduraeth ym maes teledu, cynhyrchu sain, a chyfryngau newydd yn Kenya.

Ar hyn o bryd mae’n Rheolwr Olygydd cynyrchiadau’r ystafell newyddion yn Nation Media Group, lle mae’n goruchwylio gwaith cynhyrchu newyddiaduraeth y teledu, papur newydd, radio ac ar-lein.

Mae wedi gweithio’n flaenorol fel cyflwynydd sioe sgwrsio a chyflwynydd newyddion ar sioeau materion cyfoes mawr yn Kenya gan gynnwys ‘The Trend’, sef rhaglen sy’n canolbwyntio ar bobl ifanc a digwyddiadau cyfoes, a ‘News Sources’ sy’n integreiddio barn newyddiadurwyr gyda materion cyfoes.

Cynhyrchodd y podlediad trosedd nodedig ‘Case Number Zero’, cyfres ddiddorol a oedd yn ymchwilio i ddiflaniad cyn newyddiadurwr yn Kenya, ac sydd wedi cael dros filiwn o wrandawyr. Mae cynyrchiadau diweddar eraill yn cynnwys ‘Paradise Lost’, stori cyn-bersonoliaeth teledu a’i frwydrau, ac ‘A country of gamblers’, sy’n edrych ar gamblo anfoesegol yn Kenya.

Mae gwaith newyddiadurol James wedi canolbwyntio ar adrodd straeon ag empathi a dod o hyd i ffyrdd o wneud newyddiaduraeth yn ystyrlon ac yn effeithiol.

James Smart (MA 2016)

Zhu Yidi (MA 2016)

Mae Zhu Yidi wedi gweithio fel newyddiadurwr cudd a chyfarwyddwr dogfennol, a hi oedd un o gynhyrchwyr benywaidd ifancaf y diwydiant teledu yn Tsieina, yn goruchwylio dwy raglen deledu yng Ngorsaf Deledu a Radio Shandong. Yn 2020, enillodd Wobr Cynrychiolydd Ifanc Eithriadol Cenedlaethol y Diwydiant Clyweledol Radio, Teledu a Rhwydwaith yn Tsieina, diolch i’w gwaith rhagorol.

Roedd Zhu Yidi yn gweithio fel yr unig ohebydd cudd benywaidd yn SDTV yn ystod blynyddoedd cynnar ei gyrfa. Roedd modd iddi ddatgelu cyfrinachau ac arferion cudd diwydiannau, a’i helpodd i wireddu’r ddelfryd newyddiadurol o fod yn wyliedydd cyfiawnder, a hyrwyddo newid cadarnhaol yng nghymdeithas Tsieina.

Bu’n gweithio’n gudd fel gwerthwr i gwmni nwyddau casgladwy yn Shanghai am dros ddeufis er mwyn datgelu sgam nwyddau casgladwy ffug. Diolch i’w hadroddiad, ymchwiliodd heddlu Shanghai i’r mater ac arestio dros gant o bobl. Cyrhaeddodd y swm o arian oedd yn rhan o’r achos hwn 46 miliwn yuan.

Zhu Yidi (MA 2016)

Emma Jones (BA 2009, PgDip 2011)

Mae Emma yn ddarllenydd newyddion ac yn gyd-gyflwynydd ar The Dave Berry Breakfast Show ar Absolute Radio, y mae 2.3 miliwn o bobl yn gwrando arno ledled y byd, bob bore yn ystod yr wythnos.

Mae Emma hefyd yn gyd-gyflwynydd ar bodlediad sydd wedi cyrraedd y 5 uchaf yn y siartiau, sef Secret Mum Club, a lansiwyd ym mis Mehefin 2023. Mae Emma, ar y cyd â’r dylanwadwr TikTok ac Instagram Sophiena, yn trafod uchafbwyntiau ac isafbwyntiau bod yn rhiant, ac yn ceisio cynnig cyngor i wrandawyr sy’n ysgrifennu atyn nhw gyda’u problemau - rhai problemau efallai na fydden nhw’n gyfforddus yn eu rhannu gyda’u ffrindiau! Dechreuodd Emma ei gyrfa yn Capital FM ym Mae Caerdydd, ac mae hi wedi gweithio i’r grŵp ehangach Global Radio a Sky News.

Emma Jones (BA 2009, PgDip 2011)

Darllenwch am enillwyr y llynedd

Gwobrau (tua)30 2022

Darllenwch straeon y 30(ish) o enillwyr sy'n rhan o'n rhestr derfynol o wneuthurwyr newid ac arloeswyr o gymuned alumni Prifysgol Caerdydd yn 2022.

Newid dyfodol gofal cleifion mewn Uned Gofal Dwys (ICU)

Dr Samyakh Tukra (MEng 2017) yw sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Third Eye Intelligence, sydd wedi datblygu system deallusrwydd artiffisial unigryw a phwerus (AI). Mae’r system yn rhoi rhybudd cynnar i glinigwyr yr Uned Gofal Dwys ynghylch pryd y bydd claf yn datblygu methiant organau.

Cynfyfyriwr Caerdydd yn ‘ymestyn am yr entrychion’

Mae Dr Jenifer Millard (MPhys 2016, PhD 2021) yn gyfathrebwr gwyddoniaeth sy’n arbenigo ym maes seryddiaeth. Mae ei gwaith yn cyflwyno’r podlediad Awesome Astronomy a’i dawn i rannu ei hangerdd, wedi sicrhau cryn waith iddi ym maes cyflwyno ar y teledu a’r radio. Buom yn siarad â hi am ei hamser yng Nghaerdydd a sut mae merch o’r Barri yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o fenywod ym maes STEM.