Siarter, Statudau a Deddfiadau
Mae'r fframwaith cyfansoddiadol rydym ni'n gweithio oddi fewn iddo'n seiliedig ar ein Siarter, Statudau ac Ordiniannau.
Mae'r Siarter a greuwyd yn 1884, yn gosod pwrpas a phwerau'r Brifysgol. Mae'r Statudau yn ymelhaethu ar y Siarter ac mae'r Siarter a'r Statudau wedi eu cymeradwyo gan y Gyfrin Gyngor ar ran ei Mawrhydi y Frenhines.
Mae'r Deddfiadau yn cefnogi'r Siarter a'r Statudau ac wedi eu creu gan y Cyngor. Gall rheoliadau eraill gael eu creu a'u cymeradwyo gan y Cyngor neu gan bwyllgorau eraill ar awdurdod a ddirprwywyd gan y Cyngor.
Mae'r dogfennau isod, ag eithrio'r Siarter, ar gael yn Saesneg yn unig.

Charter - Welsh version
Mae'r Siarter yn diffinio amcanion, pwerau a swyddogion y Brifysgol. Mae egwyddorion craidd fel y gallu i ddysgu ac arholi, cynnal gwaith ymchwil ac arholiadau wedi eu hymgyrffori yn y Siarter.

STATUTES - 30 October 2015-en_gb-cy-C.pdf
Mae'r Statudau'n cynnwys manylion aelodau'r Brifysgol, swyddogion, a'r rheolau ynghylch cyrff statudol.
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.

Standing panels and sub-committees
Mae’r rhain yn rhoi aelodaeth a chylch gorchwyl y Paneli Sefydlog ac Is-bwyllgorau Canlynol: Pwyllgor Dyrchafiadau Academaidd; Pwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant; Pwyllgor Iechyd, Diogelwch a Lles; Pwyllgor Gonestrwydd a Moeseg Ymchwil Agored; Pwyllgor Cymrodoriaethau a Graddau Er Anrhydedd; Pwyllgorau Adroddiad Adolygiad a Gwelliant Blynyddol y Coleg; Panel Sefydlog Rhaglenni a Phartneriaid; Pwyllgor Dyfarniadau a Chynnydd y Brifysgol
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.