Ewch i’r prif gynnwys

Datblygu a chymeradwyo rhaglenni

Mae ein proses datblygu a chymeradwyo rhaglenni'n sicrhau bod unrhyw ddyfarniad penodol gan Brifysgol Caerdydd o safon academaidd briodol a byddwn yn darparu profiad dysgu gwerthfawr ac ysgogol i'n myfyrwyr.

Dyluniwyd y polisi datblygu rhaglenni i fod ochr yn ochr â'r polisi darpariaeth gydweithredol, i sicrhau ei fod yn dal i gefnogi prosesau mewnol sy'n gweithio'n effeithiol ac yn effeithlon, a bodloni'n llawn y disgwyliadau a'r arferion a nodir yng Nghôd Ansawdd y DU ar gyfer Addysg Uwch a'r Safonau a Chanllawiau ar gyfer Sicrwydd Ansawdd yn Ardal Addysg Uwch Ewrop (ESG).

Gweithdrefn-Cymeradwyo-Rhaglenni

Programme Approval Policy (Welsh version)

Mae'r cam hwn yn mynd i'r afael â'r cwestiwn 'Mewn egwyddor, pam ydym ni am wneud hyn?'.  Yr amcan allweddol yw sefydlu a yw'r cynnig yn cyfiawnhau buddsoddi amser ac ymdrech y bydd ei angen yn y camau dilynol ac a fydd yn y pen draw yn darparu'r enillion a ddymunir ar fuddsoddiad i'r Ysgol a'r Brifysgol.

Rhaglenni gyda phartneriaid allanol

Os yw eich cynnig yn cynnwys datblygu rhaglen (neu ran o raglen) gyda phartner allanol naill ai yn y DU neu dramor, bydd angen trafod hyn yn fanwl gyda'ch Coleg.  Mae cymeradwyaeth yn gofyn am adnoddau ac amser penodol gan fod pob trefniant yn unigol o ran ei natur.

Amlinellir y trefniadau llywodraethu ar gyfer sefydlu, datblygu a monitro'r holl weithgarwch partneriaeth allanol yn Nhacsonomeg Partneriaethau Addysg. Bydd hyn yn eich galluogi i ddeall yn llawn yr hyn sy'n ofynnol ar gyfer pob math o drefniant partneriaeth addysg, y risgiau cysylltiedig a'r hyn sydd ei angen i liniaru'r risg.

Bydd angen i unrhyw gynigion o'r fath barhau i gwblhau pob cam o'r weithdrefn gymeradwyo a nodir isod gan gynnwys unrhyw ofynion ychwanegol yn seiliedig ar natur a chymhlethdod y cynnig.  Mae manylion llawn yr holl ofynion i'w gweld yn y Polisi Partneriaethau Addysgyn.

Datblygwyd cyfres o Ddisgwyliadau Sefydliadol ar gyfer strwythur, dyluniad a darpariaeth rhaglenni sy'n amlinellu'r gofynion sylfaenol allweddol a ddylai fod yn rhan o holl raglenni Caerdydd. Mae pob adran yn amlinellu'r disgwyliadau penodol yn ogystal â chyngor ac arweiniad ar sut i archwilio'r pynciau ymhellach.

Ni fyddwch yn cael eich cyfyngu i drafod y gofynion sylfaenol yn unig, ond rhaid iddynt fod yn rhan glir o'r cynnig.  Mae gan yr Academi Dysgu ac Addysgu ystod eang o arbenigedd i gefnogi gyda datblygu eich cynigion y tu hwnt i'r gofynion sylfaenol.

Pan fydd Cadeirydd yr Is-bwyllgor Cymeradwyo ac Ailddilysu Rhaglenni wedi cadarnhau bod yr holl amodau wedi cael eu bodloni, gellir gwneud argymhelliad i’r Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr i’w chymeradwyo ar ran y Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd (ASQC).

Tîm Ansawdd a Safonau

Academi Dysgu ac Addysgu Caerdydd